Neidio i'r Prif Gynnwys
Neidio i'r Prif Gynnwys
WU Homepage
Language selection:

Hygyrchedd Datganiad

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wrexham.libguides.com sef gwefan adnoddau Prifysgol Wrecsam i gael gwybodaeth am wasanaethau Llyfrgell, Academaidd, Digidol a TG.

Ein nod yw sicrhau bod y wefan yn gwbl hygyrch ac ar gael at ddefnydd pob defnyddiwr, waeth beth yw eu gallu, ac rydym yn dilyn canllawiau WCAG 2.2.

Mae Prifysgol Wrecsam yn ymrwymo i sicrhau fod ei wefan yn hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf posib, gan gynnwys defnyddwyr gydag anableddau.

Mae'r Brifysgol yn y broses o sicrhau fod ei dudalennau yn cydymffurfio â'r safonau AA o fersiwn o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (CHCW) a argymhellir gan W3C. Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod hyn yn waith rhagweledol a pharhaus ar ei hanner ac, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddefnyddiwr dan anfantais tra bod y gwaith yma'n mynd ymlaen, mae'r Brifysgol yn bwriadu ymateb i bob cais am gymorth gyda hygyrchedd unai drwy newid y cynnwys angenrheidiol cyn gynted a sy'n bosib, neu, os dymunwyd, drwy ddarparu'r wybodaeth mewn ffurf arall o fewn ffrâm amser rhesymol.

Bydd y Brifysgol yn gwneud newidiadau rhesymol er mwyn sicrhau cyrraedd anghenion penodol unigol ni all newidiadau prif ffrwd eu gafael. Cysylltwch learningskills@wrexham.ac.uk am gymorth â hyn.

Defnyddio’r wefan

Mae sawl nodwedd hygyrchedd ar y wefan, sy’n golygu y dylech chi fedru:

  • Newid lliwiau, lefelau gwrthgyferbyniad a ffontiau
  • Chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • Llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenwr sgrin

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd

Bar offer hygyrchedd

I wella'ch profiad ar ein gwefan, gallwch hefyd ddefnyddio ein bar offer hygyrchedd (wedi'i darparu gan Recite Me) i newid sut mae ein gwefan yn arddangos. Mae'r bar offer yma'n rhoi llawer o opsiynau gan gynnwys:

  • Newid maint testun a ffontiau
  • Dewis lliwiau cefndir a blaendir gwahanol
  • Cyfieithu o destun i mewn i fwy na 100 o ieithoedd
  • Nodweddion testun-i-siarad

I gael mynediad i'r bar offer, cliciwch ar y ddolen 'Bar Offer Hygyrchedd' ar ochr dde uchaf unrhyw dudalen gan y bar chwilio a'r togle Cymraeg. Bydd unrhyw newid ydych yn gwneud yn aros tra rydych yn llywio drwy'r wefan. Nodwch, dim ond ar dudalennau wedi'u cynnwys o fewn wrexham.libguides.com bydd y bar offer yn gweithio.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Custom JavaScript, CSS and HTML

Mae’r safle hwn wedi ei addasu’n sylweddol gan y gosodiad a’r côd gwreiddiol a ddarperir gan SpringShare (crewyr, rheolwyr, cynhalwyr,) (PEIDIWCH â chysylltu gyda Springshare am gymorth), ac felly, efallai bydd elfennau, gosodiadau a chodau arfer yn achosi mân-broblemau gyda rhai teclynnau hygyrchedd, fodd bynnag, bydd y côd yn cael ai adolygu’n rheolaidd ac yn cael ei ddiweddaru/newid i sicrhau ei fod yn parhau’n hygyrch i’r holl ddefnyddwyr.

Diweddariad diwethaf: Jun 13, 2025 3:57 PM