Y Cam Olaf
“Os ydych chi’n cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig, cofiwch brawfddarllen. Os ydych chi'n paratoi cyflwyniad grŵp, tynnwch eich holl syniadau ynghyd mewn un poster, cyflwyniad PowerPoint - neu un gwefan grŵp. Ac ewch ati i ymarfer fel grŵp.”
Tom Burns and Sandra Sinfield
Dewch â gwaith pawb ynghyd
Mae hi bellach yn amser canolbwyntio ar ddod â chyfraniadau pawb ynghyd i wneud darn o waith cyson a chydlynol.
Defnyddio dogfennau a rennir
- Cytunwch ar y math o feddalwedd a fyddwch yn ei ddefnyddio - Penderfynwch ba feddalwedd a fydd yn gweithio orau i’ch prosiect, ac agorwch fan ar-lein a rennir. Ystyriwch a yw pawb yn eich grŵp yn gyfarwydd gyda’r feddalwedd benodol. Mae defnyddio man ar-lein a rennir yn golygu fe all pawb weithio ar yr un ddogfen, sy’n creu man gweithio canolog.
- Sicrhewch fod gan bawb yn y tîm fynediad at y feddalwedd a'r ddogfen - Pan gaiff y ddogfen ei chreu, dylid ychwanegu pob aelod o’r grŵp gan ddefnyddio manylion eu cyfrif prifysgol. Mae hyn yn sicrhau bod pawb gyda mynediad, a bydd unrhyw waith yn cael ei gadw ar eu cyfrif prifysgol. Edrychwch ar ein Collaborative Working Guide am fwy o wybodaeth am hyn.
Cyflwyniad safonol
- Cytunwch ar fanylion eich dogfen - Dylai hyn gynnwys y ffont ar gyfer penawdau a’r cynnwys (gan gynnwys y maint). Dylai hyn hefyd gynnwys dyluniad y ddogfen. Er enghraifft, os ydych yn defnyddio PowerPoint, dylid cytuno ar thema’r cefndir a’i defnyddio’n gyson. Ystyriwch anghenion hygyrchedd rhai myfyrwyr, fe allai hyn effeithio ar yr elfennau hyn o’ch dyluniad.
- Sicrhewch fod pawb yn dilyn y rheolau cyfeirio cywir - Bydd briff eich aseiniad yn nodi’n glir pa arddull gyfeirio y mae disgwyl ichi ei dilyn. Dylai pob cyfeiriad ddilyn y fformat cywir yn unol â’r canllaw cyfeirio. Os ydych chi’n cynnwys delweddau neu dablau, sicrhewch fod eich grŵp yn dilyn yn gyson y fformat a nodir yn eich canllaw cyfeirio.
Cytunwch ar arddull ysgrifennu
- Cytunwch ar arddull ysgrifennu - Dylai’r arddull ysgrifennu fod yn gyson drwy gydol y ddogfen. Ystyriwch a phenderfynwch a fydd yr arddull ysgrifennu a ddefnyddiwch yn ffurfiol, sgyrsiol, neu’n academaidd (bydd hyn yn dibynnu ar friff eich aseiniad a’r math o dasg y byddwch yn ei gwneud).
- Defnyddiwch reolau ysgrifennu academaidd - Er bod hon yn dasg grŵp, mae dal disgwyl ichi ddilyn y rheolau ar gyfer ysgrifennu academaidd. Am arweiniad llawn, cymerwch olwg ar ein Canllaw Ysgrifennu Academaidd.

Golygu
Pan mae eich grŵp wedi rhoi eu holl waith ynghyd, mae hi’n bwysig pennu dau berson yn y grŵp fel golygwyr y prosiect. Mae neilltuo’r rôl hon i ddau unigolyn yn golygu y gallant sicrhau bod cysondeb drwy gydol y darn o waith. Dylai’r darn gwaith terfynol edrych fel un darn cyson ac unedig. Dylai'r golygwyr chwilio am:

Prawfddarllen
Gan fod y golygwyr bellach wedi cwblhau eu tasg, dylai pawb yn y grŵp brawfddarllen y ddogfen gyda’i gilydd. Trwy wneud hyn, mae’r grŵp cyfan wedi bod yn rhan o’r cam prawfddarllen ac yn cael cyfle i wneud newidiadau i’r ddogfen.
Defnyddiwch y rhestr wirio prawfddarllen hon i helpu eich grŵp:
Cliciwch y ddelwedd uchod i lawrlwytho copi o’r rhestr wirio prawfddarllen.
Amser Ymarfer!!
Os oes rhaid ichi roi cyflwyniad o flaen cynulleidfa, mae’n bwysig ymarfer fel grŵp. Efallai y byddwch yn teimlo’n nerfus ynghylch cyflwyno, mae llawer o fyfyrwyr yn profi hyn. Cymerwch olwg ar ein tudalen sgiliau cyflwyno am ragor o gymorth. Yr allwedd yw ymarfer, bydd hyn yn eich helpu i ddod yn fwy cyfarwydd gyda geiriau a threfn y cyflwyniad.
Penderfynwch ar y drefn gyflwyno
- Trefnwch pwy sy’n siarad pa bryd - Mae angen i hyn gyd-fynd â threfn eich sleidiau.
- Penderfynwch ble fydd pawb yn sefyll - Sicrhewch fod eich cynulleidfa yn dal i allu gweld eich sleidiau.
Penderfynwch ar y llif
- Cytunwch ar gyflymder bras i siarad - Sicrhewch fod pawb yn y grŵp yn siarad ar gyflymder tebyg.
- Ymarferwch sut fyddwch yn trosglwyddo i’r siaradwr nesaf - Efallai y byddwch eisiau gorffen eich rhan drwy ddweud ‘Diolch’, neu fe allech gyflwyno’r siaradwr nesaf drwy ddweud rhywbeth fel ‘Rwyf nawr am eich trosglwyddo i xxx a fydd yn siarad am...'
Gwirio’r amseru
- Gwiriwch friff eich aseiniad fel eich bod yn gwybod pa mor hir sydd gennych - Os yw eich cyflwyniad yn hirach na’ch cyfyngiad amser, bydd angen ichi ystyried yn ofalus pa rannau sydd angen ichi eu cwtogi neu gael gwared arnynt yn gyfan gwbl. Os oes angen ichi ychwanegu rhagor o fanylion i'w wneud yn hirach, edrychwch eto ar eich deilliannau dysgu a’r briff i wirio eich bod wedi cynnwys popeth sy’n ofynnol.
- Dylai pob person gael yr un faint o amser i siarad - I ddangos ffordd gyson, dylid neilltuo tua’r un amser siarad ar gyfer bob person. Dyma ffordd o ddangos i’ch marcwyr eich bod chi oll yn cyfrannu rhan gyfartal i’r cyflwyniad.
Awgrymiadau Terfynol
Dyma awgrymiadau terfynol i’ch prosiect grŵp:
* Gwiriwch y terfyn amser - Peidiwch â gadael cyflwyno’r gwaith tan y munud olaf. Gwiriwch a ydych yn cyflwyno fel grŵp neu unigolyn a byddwch yn glir ynghylch sut mae disgwyl ichi gyflwyno (er enghraifft, a ydych yn cyflwyno drwy Turnitin? Neu ddolen ar ddogfen word? Ar gyfer cyflwyno fel grŵp, gall cydlynydd y grŵp fod yn berson da i wneud y cyflwyniad terfynol hwn dros y grŵp, ond rhaid penderfynu ar hyn gyda’ch gilydd.
* Rydych chi oll yn gyfrifol am uniondeb academaidd - Mae gennych gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod y prosiect grŵp wedi’i gwblhau gydag uniondeb academaidd. Cofiwch gyfeirnodi’r wybodaeth a ddefnyddir o ffynonellau academaidd yn gywir ac i aralleirio yn hytrach na chopïo. Os caniateir defnyddio deallusrwydd artiffisial (darllenwch friff eich aseiniad), gwiriwch a ydych angen cynnwys datganiad ar gyfer hyn (gweler yma am ragor o wybodaeth).
* Myfyriwch ar y sgiliau rydych wedi eu datblygu - Gall prosiect grŵp fod yn asesiad heriol i rai myfyrwyr, am amryw o resymau gwahanol. Gall fod yn ddefnyddiol myfyrio ar y broses ac ystyried sut ddelioch chi gyda sefyllfaoedd heriol neu sut helpoch chi i gadw'r dasg ar y trywydd iawn. Efallai y bydd angen ichi ystyried a oedd yna unrhyw sefyllfaoedd a allech chi fod wedi eu hatal rhag digwydd. Mae myfyrio bob amser yn ddefnyddiol i’ch atgoffa am ba mor galed rydych yn gweithio.
* Byddwch yn falch! Rydych wedi llwyddo! Rydych gam yn agosach at gwblhau eich cymhwyster!
Diweddariad diwethaf: Sep 11, 2025 3:18 PM
