Iaith Gymraeg Datganiad
Sefydlodd Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gydymffurfio â safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg. Mae’n cydnabod bod dwy iaith swyddogol yng Nghymru - Cymraeg a Saesneg. Mae hyn yn golygu na ellir trin y Gymraeg yn llai ffafriol na Saesneg.
Nod y safonau yw gwella’r gwasanaeth dwyieithog y gall pobl Cymru ddisgwyl ei dderbyn gan sefydliadau yng Nghymru. Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i wneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygiad yr iaith Gymraeg a thuag at gadw at Safonau’r Iaith Gymraeg. Mae’r dudalen hon yn amlinellu rhai o’r gwasanaethau y gallwch ddisgwyl eu derbyn gennym trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel rhan o’n hymrwymiad i Safonau’r Gymraeg byddwn yn:
- Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Annog siaradwyr Cymraeg i fanteisio ar y gwasanaethau y mae ganddynt hawl i’w derbyn gennym trwy gyfrwng y Gymraeg
- Hwyluso’r defnyddio’r Gymraeg ar y campws
- Cefnogi aelodau o staff sydd angen cymorth gyda’r Gymraeg.
Y gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl oddi wrthym
- Rydym yn croesawu gohebiaeth ac ymholiadau dros y ffôn yn y Gymraeg a byddwn yn sicrhau bod yr holl ohebiaeth a dderbynnir gan y Brifysgol yn y Gymraeg yn derbyn ymateb yn y Gymraeg. Ni fydd ysgrifennu atom yn y Gymraeg yn arwain at oedi o ran cael ymateb.
- Bydd yr holl dudalennau gwe ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Y gallu i weld tudalennau yn y Gymraeg
Ar gyfer bob tudalen yn y safle CanllawLlyfrgell hwn, yng nghornel dde uchaf eich sgrîn, fe welwch fotwm ‘Cymraeg’ (oni bai bod y dudalen yn ddwyieithog, ac os felly, bydd y Gymraeg a’r Saesneg i’w gweld ar yr un dudalen), sy’n eich galluogi i doglo’r dudalen yr ydych yn edrych arni i Gymraeg.
Diweddariad diwethaf: Oct 7, 2025 2:41 PM
