Neidio i'r Prif Gynnwys

Arbed i RefWorks - Gwefannau Cyfeirio

Arbed i RefWorks

Mae gosod Arbed i RefWorks yn ychwanegu nod llyfr i far ffefrynnau eich porwr. Gallwch ddewis Arbed i RefWorks pan fyddwch yn pori gwefan rydych am gyfeirio ati yn eich gwaith. Bydd dewis Arbed i RefWorks yn agor bar ochr ar y dudalen we, a bydd RefWorks yn ceisio echdynnu gwybodaeth berthnasol i'w harbed yn eich llyfrgell. Nid yw Arbed i RefWorks yn gweithio ar gyfer pob gwefan. Efallai y bydd angen i chi hefyd lenwi gwybodaeth sydd ar goll, ond mae modd gwneud hyn pan fo'r dudalen we ar agor o'ch blaen ac arbed y wybodaeth yn syth i'ch llyfrgell.

Mae'r fideo isod yn dangos sut i osod Arbed i RefWorks a sut y gellir ei ddefnyddio ar wefan:

Trawsgrifiad

Diweddariad diwethaf: Apr 14, 2025 9:30 AM