Neidio i'r Prif Gynnwys

Meddalwedd Rheoli Cyfeiriadau: RefWorks: Dechrau arni

Cyflwyniad i RefWorks

Meddalwedd rheoli cyfeiriadau yw RefWorks sy'n helpu defnyddwyr i drefnu a rheoli cyfeiriadau. Mae RefWorks ar gael yn rhad ac am ddim i holl Fyfyrwyr Prifysgol Wrecsam. Mae prif nodweddion RefWorks yn cynnwys:

Rheoli cyfeiriadau

Decorative image - folders

Mae RefWorks yn eich galluogi i storio, trefnu a fformatio eich cyfeiriadau o amrywiol ffynonellau fel llyfrau, erthyglau cyfnodolion, gwefannau, a mwy, mewn llyfrgell RefWorks bersonol eich hun.

Creu rhestr gyfeirio

Decorative image - list

Gallwch greu rhestr gyfeirio'n awtomatig mewn gwahanol arddulliau dyfynnu, yn cynnwys arddulliau sefydliadol megis Harvard Wrecsam.

Integreiddio gyda phroseswyr geiriau

Decorative image - Word logo

Mae modd integreiddio RefWorks gyda Microsoft Word neu Google Docs er mwyn mewnosod dyfyniadau yn uniongyrchol yn eich gwaith wrth i chi ysgrifennu a chreu rhestr gyfeirio o fewn eich dogfen. Mae RefWorks Citation Manager (RCM) wedi'i osod yn Word ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Wrecsam a bydd eisoes i'w gael ar eich bar offer.

Mynediad i RefWorks

I greu cyfrif, ewch i https://refworks.proquest.com/ a dewiswch 'Create Account'. Nodwch eich cyfeiriad e-bost myfyriwr a'ch cyfrinair a dilynwch y cyfarwyddiadau i gychwyn eich cyfrif.

 

Cymorth RefWorks

Mae canllaw pellach ar ddefnyddio RefWorks ar gael ar RefWorks® Training.

Noder:

Rydym yn ymwybodol bod amrywiol feddalwedd cyfeirio ar gael. Fodd bynnag, oherwydd yr anghysondebau a'r gwallau y mae'r adnoddau hyn yn eu gwneud, nid ydym yn cymeradwyo'r defnydd o unrhyw feddalwedd cyfeirio arall ym Mhrifysgol Wrecsam.

Diweddariad diwethaf: Apr 14, 2025 9:30 AM