Neidio i'r Prif Gynnwys
Neidio i'r Prif Gynnwys

Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang


Yn dechrau ar y 15fed o Fai 2025!   (HEDDIW)



Hygyrchedd fel crefft ddigidol - 11:00yb - 12:00yp (Dydd Iau 15fed Mai)

Bydd y sesiwn yma'n eich cyflwyno i’r syniad o hygyrchedd digidol, a rhai ffyrdd syml i wneud eich dogfennau, postiadau cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebiadau digidol yn well i chi a phawb arall. Pa bynnag yrfa rydych chi’n bwriadu ei dilyn, mae gwybod am y cysyniadau syml yma yn eich gwneud yn fwy gwerthfawr fel gweithiwr ac yn gyfathrebwr gwell.

Cynhelir gan: Dmitrii Iarovoi - Hwylusydd Dysgu Digidol


Dolen ymuno (on Teams)

Photo of Dmitrii Iarovoi, Digital Learning Facilitator

Cynghorion digidol i ddysgwyr Cymraeg - 11:30yb - 12:00yp (Dydd Iau 15fed Mai)

Ydych chi’n gweld bod gwybodaeth yn haws i’w gyrchu mewn iaith wahanol? Dysgwch sut i newid gosodiadau iaith yn eich adnoddau ar-lein yn ogystal â dysgu mwy am wiriwr sillafu Cysgliad a’r geiriadur ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Mae’r sesiwn hon yn bennaf ar gyfer staff a myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, er y gallai fod yn ddefnyddiol i ddysgwyr Cymraeg.

Cynhelir gan: Rhianwen Pullen and Olivia Neen


Dolen ymuno (on Teams)


Gwneud i adnoddau digidol weithio i chi - 1:00yp - 2:00yp (Dydd Iau 15fed Mai)

Darganfyddwch sut i wneud eich bywyd yn haws wrth ddefnyddio eich gliniadur neu gyfrifiadur. O newid gosodiadau eich sgrin i ddefnyddio llais-i-destun, dysgwch sut i wneud y gorau o adnoddau digidol er mwyn cefnogi’r ffordd rydych chi’n gweithio.

Cynhelir gan: Daniel Morris - Tiwtor Sgiliau Digidol


Dolen ymuno (on Teams)

Photo of Daniel Morris, Digital Skills Tutor

Diweddariad diwethaf: May 15, 2025 8:43 AM