MyUni Portal - CY: Llywio drwy'r Porth MyUni
Jump to: (Average read time 7 minutes)
Video Guide
Canllaw ysgrifenedig isod gellir ei ddefnyddio hefyd fel trawsgrifiad ar gyfer y fideo uchod.
Cyflwyniad
Eich porth MyUni yw eich mynedfa at systemau'r Brifysgol, gan ddarparu dolenni cyflym i'ch Amgylcheddau Dysgu Rhithiol (Moodle neu Canvas), eich Amserlenni, dolenni i Ganllawiau Sgiliau Dysgu, Resourse Finder, Meddalwedd a chefnogaeth gan GOFYN.
Sgrin Mewngofnodi
Pan fydd eich porth MyUni'n llwytho, cewch eich cyfarch gyda Sgrin Mewngofnodi. Ar y sgrin hwn gallwch:
- Glicio ar y faner 'Mynediad i'r Porth MyUni' (Mewngofnodi) er mwyn dechrau ar y broses fewngofnodi.
- Gweld yr holl amserlenni academaidd ac amserlenni cwrs.
- Mynediad i gefnogaeth Mewngofnodi, ailosod eich cyfrinair a chael mynediad at y ddesg gwasanaeth.

Creu / ailosod cyfrinair
Mae dau reswm pam y gallech fod angen cael mynediad at y sgrin 'Ailosod Cyfrinair':
- Rydych yn fyfyriwr newydd sydd erioed wedi mewngofnodi o'r blaen, (ac yn yr achos yma, rydych angen 'creu' cyfrinair)
- Rydych yn fyfyriwr sy'n dychwelyd sydd heb fewngofnodi ers peth amser, neu eich bod yn cael trafferth wrth fewngofnodi, (ac yn yr achos yma rydych angen 'ailosod' eich cyfrinair)
Os yw'r rhesymau a grybwyllwyd yn flaenorol yn berthnasol, yna cliciwch y ddolen 'Ailosod Cyfrinair' a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Os nad yw'r rhain yn berthnasol i chi neu eich bod wedi rhoi cynnig ar ailosod eich cyfrinair a'ch bod yn dal i gael problemau, cliciwch ar y ddolen 'Cefnogaeth Mewngofnodi'.

Y brif sgrin
Pan fyddwch wedi mewngofnodi'n llwyddiannus, byddwch yn cael eich cymryd yn ôl i'r Porth MyUni. Mae hwn wedi'i rannu'n nifer o adrannau, a byddant yn cael eu trafod yn y canllaw hwn.

Mae'r grŵp uchaf o eiconau yn ddolenni mynediad cyflym yn adnoddau a gwasanaethau sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin, gan gynnwys:
Yn nhrefn (o'r chwith i'r dde)
- Eich e-byst myfyriwr
- Office 365
- Moodle
- Canvas (os ydych yn fyfyriwr ar-lein)
- Eich amserlen bersonol
- eVision
- Rhyngrwyd myfyrwyr
- Y gwasanaeth Gofyn
- Undeb y Myfyrwyr

O dan y grŵp uchaf o eiconau, ar y chwith mae yna ddelweddau sy'n symud sy'n cysylltu i amrywiol ddigwyddiadau a safleoedd, ac yna ar y dde, byddwch yn gweld calendr sy'n dangos eich amserlen bersonol.

O dan y delweddau sy'n symud a'r amserlen, byddwch yn dod o hyd i brif grwpiau'r dolenni i hyd yn oed mwy o amrywiaeth o adnoddau a gwasanaethau.
Mae pob un o'r adnoddau a'r gwasanaethau wedi cael eu cyfuno yn gategori, gan gynnwys y canlynol (yn y drefn o'r Chwith i'r Dde):
VLE
Mae'r adran VLE yn cynnwys dolenni at Moodle and Canvas, sef y safleoedd y byddwch angen eu defnyddio er mwyn cael mynediad at eich modiwlau / cynnwys cwrs.

Amserlenni
Mae'r adran amserlenni'n cynnwys dolenni at eich amserlen bersonol, dolenni i'r holl amserlenni, yr adnodd adrodd am absenoldebau, gwybodaeth am arholiadau, a'r calendr academaidd, sy'n rhestru dyddiadau cau, wythnosau dysgu a dyddiadau pob semester.

Adnoddau Dysgu'n
Mae Adnoddau Dysgu'n cysylltu gyda gwefannau fel yr un y gallech fod yn edrych ar y canllaw hwn arno, ein safle 'Canllawiau Sgiliau Dysgu' sy'n cynnwys canllawiau ysgrifenedig a fideo ar y Llyfrgell, Sgiliau Academaidd a Sgiliau Digidol, TG, a chanllawiau ar gyfer eich pwnc arbenigol.
Yn ogystal, mae'r adran hon hefyd yn cysylltu gyda'r Mewnrwyd Myfyrwyr, cronfeydd data Adnoddau, Resource Finder, Jisc a LinkedIn Learning.

Cofnod myfyriwr
Bydd eich adran cofnod myfyriwr yn cynnwys dolen at eVision, lle gallwch gael mynediad at wybodaeth ynghylch eich cwrs cyfredol, eich gwybodaeth bersonol, a chael mynediad at lythyron treth y cyngor.
Yn ogystal, gallwch hefyd weld y crheoliadau academaidd, polisïau a gweithdrefnau cyfredol, a chael mynediad at wybodaeth ynghylch Gweinyddu Myfyrwyr, Cwestiynau a Ofynnir yn Aml, Ffurflenni Gweinyddu, a gwybodaeth ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol.

Bywyd Myfyriwr a Champws
GOFYN yw’r prif gyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau Bywyd Myfyriwr a Champws a allai fod gennych chi, ac mae'r adran hon yn darparu dolenni at yr amrywiol wasanaethau mae GOFYN yn eu darparu.
Mae hyn yn cynnwys ffurflen hunangyfeirio cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n eich galluogi i gysylltu gyda'r amrywiol adrannau am gefnogaeth, ac sy'n cysylltu gyda'r gwasanaethau unigol sydd yno i'ch helpu chi.

Meddalwedd ac Apiau
Fel myfyriwr Prifysgol Wrecsam, rhoddir mynediad i chi i amrywiaeth o feddalwedd am ddim gan gynnwys:
- Cyfres Microsoft Office 365, sy'n galluogi i chi lawrlwytho a mewnosod yr apiau pen desg ar eich Windows a Mac am ddim.
- NVivo a SPSS which you may be using on some course.
- Adobe Express yn adnodd sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn creu amrywiaeth o wahanol gynnwys, ac mae'n cynnwys offer creu cynnwys cyflym ar gyfer creu a golygu delweddau, graffeg, animeiddiadau, fideos, dogfennau PDF a thudalennau gwe.
- Trellix Security yn feddalwedd wrth-feirws sy'n eich helpu i amddiffyn eich cyfrifiadur rhag feirysau a maleiswedd.
- ClickView yn darparu mynediad at Recordiadau Teledu blaenorol ac mae'n rhywbeth y gallech ei weld yn ymddangos ar eich modiwlau.
- Panopto yn rhywbeth y bydd angen i chi ei ddefnyddio, o bosib, er mwyn recordio cyflwyniadau PowerPoint, neu i gael mynediad at gynnwys sydd wedi'i recordio a grëwyd gan eich darlithwyr.

Profiad myfyriwr
Mae'r adran profiad myfyriwr yn cynnwys dolen at wefan Undeb y Myfyrwyr, dolen er mwyn canfod mwy ynghylch y cyfleusterau chwaraeon, dolen i Unitu, lle gallwch ddarparu adborth ar amrywiaeth o bynciau sy'n berthnasol i'r brifysgol, a dolen at wybodaeth ynghylch digwyddiadau Graddio events.

Cefnogaeth TG
Y grŵp terfynol ar borth MyUni yw'r grŵp 'Cefnogaeth TG'. Yn yr adran hon, fe gewch wybodaeth ynghylch y Parth Technoleg, a dolenni at y ddesg gwasanaeth a'r canllaw i ddefnyddwyr ar gyfer dod o hyd i'ch ffordd o amgylch y ddesg wasanaeth.

Diweddariad diwethaf: Oct 3, 2025 2:09 PM