Cyflwyniad anghywir / llwythiadau damweiniol
Turnitin
Rwyf wedi llwytho'r ffeil anghywir / i'r pwynt cyflwyno terfynol trwy ddamwain, beth ddylwn i ei wneud?
Yn gyntaf, fel y soniwyd o'r blaen, mae bob amser yn bwysig cymryd eich amser wrth uwchlwytho aseiniad i sicrhau eich bod yn ei uwchlwytho i'r pwynt cyflwyno cywir, fodd bynnag, gall hyn ddigwydd trwy ddamwain. Gallwch ddileu eich cyflwyniad, ond NID yw'n broses gyflym.
Nodyn: Os yw eich cyflwyniad i fod i mewn yr un diwrnod, prin y bydd yn cael ei ddileu yr un diwrnod. Y rheswm am hyn yw’r camau sydd eu hangen i wneud cais am ei ddileu. Esbonnir hyn isod. NI ellir cyflymu’r broses hon oherwydd dyddiadau penodol i gyflwyno gwaith.
- Ewch i'r meddalwedd desg wasanaeth, yn benodol y math o docyn cais i ddileu ar Turnitin.
- Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl ar y tocyn, mae'r templed sy'n gysylltiedig â cham 1 yn cynnwys yr holl feysydd wedi'u marcio, gan gynnwys cod y Modiwl, enw'r darlithwyr, enw’r Aseiniad a pha VLE ydyw.
- Unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno eich tocyn, bydd angen i'r tîm datrysiadau digidol gysylltu yn y lle cyntaf â'ch darlithydd i ofyn am ganiatâd i ddileu’r cais, gall hyn gymryd peth amser yn dibynnu ar ba mor gyflym mae'r darlithydd yn ymateb.
- Ar ôl i'r darlithydd ymateb, yna bydd y tîm datrysiadau digidol yn cysylltu â Turnitin i wneud cais i ddileu’r gwaith o’u cronfa ddata, gall hyn gymryd rhwng 24 a 48 awr.
- Unwaith y bydd popeth wedi’i ddileu, byddwch yn derbyn ateb i'ch tocyn i ddangos bod y cyflwyniad wedi'i ddileu a byddwch yn gallu cyflwyno’ch gwaith eto.
Diweddariad diwethaf: Sep 25, 2025 1:44 PM