Beth yw Adobe Express - CY: Home
Cyflwyniad
Mae Adobe Express yn rhaglen sydd ag amrywiaeth o adnoddau creu cynnwys cyflym ar gyfer creu a golygu delweddau, delweddau graffig, animeiddiadau, fideos, dogfennau PDF, a thudalennau gwe. Gallwch gael mynediad at Adobe Express ar gyfrifiadur, gliniadur, neu ddyfais symudol gyda’ch cyfrif e-bost myfyriwr.
Manteision defnyddio Adobe Express
- Adnoddau cyflym a hawdd ar gyfer creu a golygu delweddau a fideos
- Yn gweithio drwy borwr gwe neu ddyfais symudol
- Mynediad at filoedd o dempledi proffesiynol
- Mynediad at luniau a fideos Adobe Stock o ansawdd uchel
- Golygu ffeiliau PDF a chyfuno gwahanol ffeiliau i mewn i un ffeil PDF
- Creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gyda rhagosodiadau maint o fewn y rhaglen
- Gallu trefnu i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol yn awtomataidd
Creu cynnwys
Gallwch greu a golygu:
- Delweddau, delweddau graffig, ffeithluniau
- Posteri, taflenni, a phamffledi academaidd
- Cysyniadau graffig, nawsfyrddau, dyddiaduron fideo o brosesau
- Tudalennau portffolio, tudalennau gwe, CVs
- Dogfennau PDF
- Animeiddiadau
- Fideos
- Baneri, logos, codau QR
- Deunydd cyfryngau cymdeithasol: postiadau, delweddau, fideos ar gyfer gwahanol lwyfannau fel Instagram, TikTok, Youtube, Facebook, X, LinkedIn
Cael mynediad at Adobe Express
I gael mynediad at Adobe Express, dilynwch y camau isod:
- Agor Adobe
Express
- Ar gyfrifiadur neu liniadur, ewch i wefan Adobe Express (yn Saesneg)
- Ar ddyfais symudol, ewch i dudalen we gosod Adobe Express (yn Saesneg) a dilynwch y cyfarwyddiadau
- Mewngofnodwch gyda’ch cyfeiriad e-bost prifsygol
Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol
Mae Adobe Express yn darparu set o offer a elwir yn “Generate with AI" sy’n gallu creu delweddau a thrin gwrthrychau graffig. Gweler ein canllawiau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a Gwybodaeth Uniondeb Academaidd cyn defnyddio'r offer hyn.
Canllawiau Adobe Express
Mae Adobe Express yn cynnig llawer o adnoddau defnyddiol ar gyfer gweithio gyda'i offer, y gellir cael mynediad iddynt trwy'r dolenni isod:
- Fideos byr eglurhaol ar brif nodweddion Adobe Express (yn Saesneg)
- Cyrsiau byrion ar sut i wneud y mwyaf o Adobe Express (yn Saesneg), gyda bathodynnau digidol yn cael eu dyfarnu ar ôl cwblhau
Diweddariad diwethaf: Sep 16, 2025 9:49 AM