Strwythuro Brawddegau
Ar y dudalen hon:
- Brawddegau darniog
- Brawddegau parhaus
- Problemau gyda pharu’r goddrych a’r ferf
- Darllen pellach gyda gwaith Saesneg
Yn ogystal â’r strwythur yn gyffredinol, mae’n bwysig sicrhau bod strwythur y brawddegu yn dda.
Darllenwch eich gwaith yn uchel bob amser er mwyn gwirio am unrhyw wallau o ran atalnodi a gramadeg. Bydd darllen yn uchel yn eich helpu i sylwi ar gamgymeriadau ac yn ei gwneud hi’n haws i chi hefyd sylwi ar unrhyw frawddegau sy’n rhy hir neu’n chwithig.
Bydd yr adran hon yn canolbwyntio ar rai o’r problemau cyffredin a welwn wrth strwythuro brawddegau.
Brawddegau darniog
Beth ydyn nhw?
Gall brawddeg ddarniog, sy’n cychwyn gyda phriflythyren ac yn gorffen gydag atalnod llawn, ddigwydd pan nad yw’r cyfan yn gwneud synnwyr wrth ddarllen yn uchel. Yn aml, y rheswm am hyn yw oherwydd bod gan y frawddeg gymal dibynnol.
Enghraifft:
Tra bydd y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn cydnabod bod yn rhaid mynd â’u cŵn o leiaf unwaith y dydd. Mae amryw o berchnogion cŵn yn y DU yn dewis defnyddio gwasanaeth cerdded cŵn.
Yn yr enghraifft hon, mae’r naill frawddeg yn dibynnu ar y llall i wneud un pwynt clir. Pan fydd brawddeg yn cychwyn gyda chysylltair, fel er, oherwydd, tra, wrth neu pan, fel arfer mae’n gymal dibynnol.
Sut i gywiro’r rhain:
Gellir datrys hyn drwy gyfnewid yr atalnod llawn gyda choma. Fel hyn:
Tra bydd y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn cydnabod bod yn rhaid mynd â’u cŵn o leiaf unwaith y dydd, mae amryw o berchnogion cŵn yn y DU yn dewis defnyddio gwasanaeth cerdded cŵn.
Brawddegau parhaus
Beth ydyn nhw?
Gall brawddegau parhaus ddigwydd pan fydd dwy frawddeg gyflawn ar wahân yn cael eu cysylltu gan atalnodi anghywir, neu ddiffyg atalnodi neu eiriau cyswllt (cysyllteiriau).
Enghreifftiau:
O ganlyniadau’r arolwg gwelwn fod 70% o wylwyr yn mwynhau operâu sebon fodd bynnag dim ond 20% o’r rhai a holwyd oedd dan 25 mlwydd oed.
O ganlyniadau’r arolwg gwelwn fod 70% o wylwyr yn mwynhau operâu sebon, fodd bynnag dim ond 20% o’r rhai a holwyd oedd dan 25 mlwydd oed.
Sut i gywiro’r rhain:
Gellir cywiro brawddegau parhaus mewn sawl ffordd:
O ganlyniadau’r arolwg gwelwn fod 70% o wylwyr yn mwynhau operâu sebon. Fodd bynnag, dim ond 20% o’r rhai a holwyd oedd dan 25 mlwydd oed.
O ganlyniadau’r arolwg gwelwn fod 70% o wylwyr yn mwynhau operâu sebon, ond dim ond 20% o’r rhai a holwyd oedd dan 25 mlwydd oed.
Er bod canlyniadau’r arolwg wedi dweud bod 70% o wylwyr yn mwynhau operâu sebon, dim ond 20% o’r rhai a holwyd oedd dan 25 mlwydd oed.
Problemau gyda pharu’r goddrych a’r ferf
Beth ydyw?
Mae pob brawddeg angen goddrych a berf. Mae goddrychau sengl angen berf sengl ac mae goddrychau lluosog angen berf luosog. Mae problemau’n codi pan fydd brawddegau gyda goddrych sengl yn cynnwys berf luosog a phan fydd goddrychau lluosog yn cynnwys berf sengl.
Enghraifft:
Mae brwsio dannedd yn rheolaidd ac apwyntiadau blynyddol yn beth hanfodol er mwyn cadw’ch ceg yn iach.
Sut i gywiro’r rhain:
Mae yna broblem gyda’r modd y mae’r goddrych a’r ferf yn paru yn y frawddeg hon. Y goddrychau yn y frawddeg hon yw brwsio yn rheolaidd ac apwyntiadau blynyddol (lluosog), felly mae angen cael y ffurf gywir o’r ferf, sef yn bethau.
Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio geiriau fel mae, maent, neu, un ai/neu, nid wrth gysylltu dau oddrych. Os bydd un o’r goddrychau yn sengl ac un yn lluosog, yna mae angen i’r ferf gytuno gyda’r goddrych, fel y nodir yn yr enghreifftiau isod:
Brwsio dannedd ac apwyntiadau blynyddol - maent yr un mor bwysig â’i gilydd.
Brwsio dannedd ac apwyntiadau blynyddol - mae’r naill a’r llall yr un mor bwysig â’i gilydd.
Wrth ddefnyddio enwau cyfunol fel dosbarth, teulu neu dîm, defnyddir ffurf sengl o’r ferf os yw’r dosbarth, teulu neu dîm yn cwblhau gweithred. Yn yr achos hwn, defnyddir ‘mae’ yn hytrach na ‘maent’. Dyma rai enghreifftiau:
Dyma’r Pwyllgor Parciau a Gerddi, ac mae’n yn cyfarfod ar ddydd Llun.
Dyma deulu Brown ac mae’r teulu ar ei wyliau.
Da iawn i’r tîm melyn. Mae hwn yn dîm sydd wedi hen arfer ennill.
Dylid defnyddio berfau lluosog os bydd aelodau o’r uned gyfan yn cwblhau gweithred.
Dyma aelodau o’r Pwyllgor Parciau a Gerddi, ac maent yn cyfarfod ar ddydd Llun.
Dyma aelodau hŷn o deulu Brown ac maent ar eu gwyliau.
Da iawn i’r tîm melyn a’r aelodau benywaidd. Maent yn aelodau sydd wedi hen arfer ennill.
Darllen pellach gyda gwaith Saesneg
Academic Writing and Grammar for Students gan Alex Osmond.
'Mae’r llyfr clir ac ymarferol hwn ar ramadeg academaidd yn dangos i fyfyrwyr sut i osgoi camgymeriadau cyffredin a sut i ddefnyddio’r wybodaeth hon yn rhwydd yn eu traethodau. Mae hwn yn llyfr sy’n unigryw wrth ganolbwyntio ar ramadeg Saesneg er dibenion academaidd ar draws amryw o wahanol ddisgyblaethau. Gafael mewn gramadeg? Atalnodi anodd? Boed yn draethawd neu’n aseiniad, adroddiad neu draethawd hir, mae’r canllaw defnyddiol hwn yn dangos i chi sut i wella safon eich gwaith yn y brifysgol yn effeithiol drwy adnabod y ramadeg gywir a’r atalnodi cywir yn Saesneg a sut i’w defnyddio yn eich gwaith academaidd.'
Adnodd defnyddiol
Grammar Resource gan Brifysgol Hull.
Yn yr iaith Gymraeg, mae amryw o lyfrau ar ramadeg a Chymraeg cywir ar gael, er enghraifft:
Gramadeg y Gymraeg Peter Wyn Thomas
Cymraeg Clir Cen Williams
Diweddariad diwethaf: Feb 27, 2025 9:53 AM