Gwaith Grŵp: Catref
Gwaith Grŵp
Mae’n gyffredin i aseiniadau gynnwys gweithgareddau grŵp. Gallai hyn fod yn gyflwyniad, neu’n brosiect. Mae’r math hwn o aseiniad yn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu sgiliau fel cyfathrebu a phwyll, a fydd yn hanfodol i’ch dyfodol.
Gall y ffordd yr ydych yn ymgymryd â gweithgareddau grŵp effeithio ar y prosiect cyffredinol, felly bydd ymdrin â’r dasg gydag agwedd gadarnhaol yn gwneud gwahaniaeth mawr. Ystyriwch hyn fel cyfle i ddatblygu sgiliau a dysgu oddi wrth eraill.
Bydd y wybodaeth yn y fan hyn yn helpu i’ch arwain drwy gamau gwaith grŵp a helpu i’ch cefnogi i fanteisio i’r eithaf ar y broses.
“Y ffordd orau o fanteisio i’r eithaf ar waith grŵp yw ymdrin ag ef yn gadarnhaol, ac yn benderfynol o fanteisio i’r eithaf arno.”
Tom Burns & Sandra Sinfield
Adnoddau i helpu
Yma mae detholiad o adnoddau defnyddiol gan brifysgolion eraill sy’n cwmpasu gwaith grŵp mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Mae Gwaith Grŵp gan Brifysgol Harvard yn ymdrin â phynciau fel buddion gweithio mewn grwpiau, ffurfio grŵp, dechrau arni a threfnu’r gwaith.
Gweithio mewn Grŵp gan y Sefydliad Datblygu Academaidd ym Mhrifysgol Caeredin. Mae’r adnodd gwych hwn yn rhoi cyngor ar brosiectau grŵp ac yn cynnig adnoddau i gefnogi myfyrwyr.
Mae Sut i fanteisio i’r eithaf ar waith grŵp yn adnodd gwych gan Brifysgol Sheffield. Mae’r canllaw hwn yn cynnwys dolenni i dempledi ar gyfer dogfennau a rennir sy’n cefnogi cydweithio ar yr un ddogfen pan wahanir lleoliad aelodau tîm.
Mae 3 awgrym am waith grŵp llwyddiannus yn cynnwys pynciau fel gosod disgwyliadau a defnyddio adnoddau digidol i gefnogi eich prosiect.
Llyfrau o’n catalog llyfrgell
Mae gennym amrywiaeth o lyfrau yn y llyfrgell sy’n ymdrin â gweithio mewn grwpiau. Dyma ein tri phrif awgrym.
Diweddariad diwethaf: Sep 11, 2025 3:18 PM