Neidio i'r Prif Gynnwys
Neidio i'r Prif Gynnwys

Recordio Fideos ar Panopto (Mac)


Detholiad Porwr

  Awgrym: Defnyddiwch hwn i newid y cyfarwyddiadau ar gyfer eich porwr benodol (bydd yn cadw eich gosodiad yn awtomatig)

  Defnyddio Panopto Capture

 Noder: Rydym bob amser yn cynghori eich bod yn recordio eich cyflwyniad ymhell cyn eich dyddiad cau cyflwyno. Gall gadael pethau funud olaf eich rhwystro rhag cael digon o amser i ymgyfarwyddo gyda’r broses o recordio a llwytho. Yn ogystal, mae’n bosib na fydd cefnogaeth ar gael yn ystod amser cyflwyno gan fod hyn yn ddibynnol ar argaeledd staff.

Byddwch yn ymwybodol hefyd y gallai cysylltedd gyda’r we neu unrhyw broblemau technegol eraill effeithio ar eich gallu i gyflwyno ar amser, yn arbennig felly ar ddiwrnod eich dyddiad cau.

Er mwyn cyflwyno Asesiad Panopto, yn gyntaf mewngofnodwch i'r Porth MyUni a naill ai clicio ar yr eicon 'Moodle' ar hyd y rhes uchaf o eiconau, neu sgrolio i lawr i'r adran ‘VLE’ a chlicio 'Moodle'.

 

 

Yna ewch draw i'r modiwl yn uniongyrchol, yn benodol yr adran 'Assessment and Feedback, ac edrychwch am eicon gwyrdd, sy’n edrych fel chwyrlïad yn amgylchynu botwm chwarae. Dyma’r logo Panopto.

 

 

 Awgrym: Gweler ein canllawiau ar wahân ar ddeall Moodle ar gyfer cefnogi gyda lleoli aseiniadau..

 

Wedi dod o hyd i'ch aseiniad, cliciwch ar y pwynt cyflwyno ac yna cliciwch ar y botwm 'Ychwanegu cyflwyniad Panopto'.

 

 

Clichiwch y ‘Recordio’ tab, yna sgroliwch i lawr hyd nes y gallwch weld y botwm ‘Lansio Recordiad’ (dan ‘Recordiad (Porwr)’ ar y chwith) a chliciwch ar y botwm.

 Noder: Anwybyddwch yr adran ‘Lansio Ap’ / ‘Lawrlwytho’ gan nad ydych angen lawrlwytho unrhyw gymhwysiad. Cliciwch ar y botwm ‘Lansio Recordiad’ yn unig os gwelwch yn dda.

 

 

Mae’n bosib eich bod wedi clicio ‘Lansio Recordiad’ ac wedi canfod naill ai bod dim byd wedi digwydd, neu bod y bar teitl wedi dangos bod ffenest pop-yp wedi’i rhwystro.

 

 

Yn y bar cyfeiriad, i’r chwith o’r eicon adfywio, byddwch yn gweld eicon dwy ffenest y naill ar ben y llall. Cliciwch ar hwn ac yna agor y tab Panopto.

 

 

Ar ôl clicio ar hwn, mae’n bosib y byddwch angen clicio ar ‘Mewngofnodi’ a fydd yn eich ailgyfeirio chi recordio Panopto.

 

 

Pan mae Recordiad Panopto yn llwytho, byddwch angen caniatáu mynediad at eich microffonau a chamerâu drwy glicio ‘Caniatáu’ ar y deialog Safari.

 

 

Os nad ydych angen defnyddio camera, daliwch eich llygoden uwchben canol y sgrîn, ac yna cliciwch y botwm 'x' (diddymu)- ar y gornel dde uchaf er mwyn diffodd y camera.

 

 

Neu cliciwch ar y botwm ‘Fideo’ ar frig y sgrîn ac yna daliwch y llygoden dros y camera ac yna clicio ar y botwm ‘Diddymu’. Yna cliciwch ar y botwm cau 'x' ar waelod canol y sgrîn.

 

 

Ar waelod y sgrîn, wrth siarad, fe welwch linell sy’n symud sy’n dynodi bod eich meicroffon yn gweithio.

 

 

Os nad ydych yn gweld y llinell yn symud, cliciwch ar y botwm ‘Sain’ ac yna dewiswch feicroffon gwahanol (os oes gennych chi un), drwy ddal eich llygoden dros y meicroffon a chlicio ‘Cyfnewid’. Yna cliciwch ar y botwm cau 'x' ar waelod canol y sgrîn.

 

 

Nesaf, ewch draw i olwyn ddanheddog gosodiadau yn y gwaelod ar y dde.

 

 

O dan ‘Opsiynau Recordio’. Newidiwch y gosodiad oSD’ i ‘HD’, yna cliciwch y botwm ‘x’ cau ar waelod eich sgrîn.

 

 

Er mwyn recordio eich cyflwyniad, cliciwch ar ‘Sgriniau ac Apiau’.

 

 

 Noder: Os ydych yn canfod bod dim yn digwydd wrth glicio ‘Sgriniau ac Apiau’, byddwch angen addasu eich gosodiadau. Dilynwch y camau datrys problemau yn nes i lawr ar y dudalen.

Wedi i chi glicio ar 'Sgriniau ac Apiau', bydd blwch dialog yn cael ei arddangos. Cliciwch ar 'Caniatáu Rhannu Sgrin'.

 

 

Mae’n bosib y bydd dau fotwm yn ymddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin. Cliciwch ar y botwm 'Rhannu Sgrin Gyfan'.

 

 

Byddwch wedyn yn gweld eich sgrîn yn ymddangos ynghanol y ffenest recordio Panopto.

 

 

 Awgrym: Er y gallai edrych yn wahanol gweld y sgrîn yn ymddangos sawl tro, mae hyn yn gwbl arferol gan mai’r cyfan ydyw yw Panopto yn edrych arno ei hun (ni fydd eich recordiadau’n edrych fel yma).

 

 Noder: Drwy recordio eich sgrîn gyfan, cadwch mewn cof os gwelwch yn dda y bydd Panopto yn recordio popeth rydych chi’n ei weld ar eich sgrin. Felly os oes gennych chi gynnwys nad ydych am i unrhyw un arall ei weld, naill ai caewch ef neu osgoi cyrchu’r cynnwys sensitif.

 

 Eglurwch Os Gwelwch yn Dda: Er mwyn recordio eich cyflwyniad a’ch llais, bydd Panopto angen gweld y cyflwyniad. Pan fyddwch yn rhannu eich sgrîn gyfan, bydd Panopto yn recordio popeth rydych chi’n ei weld, gan gynnwys eich sleidiau, symudiadau llygoden ac unrhyw animeiddiadau rydych wedi eu cynnwys.

 

Nesaf, os nad yw wedi agor eisoes, agorwch eich Cyflwyniad Power Point. Gallai hyn fod ar fersiynau pen desg o PowerPoint o PowerPoint os ydych chi’n defnyddio Windows and Mac, neu’r fersiwn ar-leinos ydych yn defnyddio Chromebook.

Pan rydych yn barod i ddechrau, cliciwch, ar y botwm coch recordio ar ganol gwaelod eich sgrîn.

 

 

Wedi i chi wneud hynny, bydd amser cyfrif i lawr am 5 eiliad yn cael ei arddangos.

 

 

O fewn yr amser hwn ewch draw i’ch cyflwyniad a dechreuwch gyflwyno o’r dechrau.

 Noder: Nid yw Panopto’n recordio o fewn yr amser cyfrif i lawr 5 eiliad hwn a dyna pam y byddwch yn dal i fod angen mynd draw i PowerPoint o fewn yr amser hwn.

 

 Awgrym: Ar bob fersiwn o PowerPoint, ewch draw i’r tab ‘Sioe Sleidiau’ a chlicio ar ‘O’r dechrau’ a defnyddio eich allweddi saeth er mwyn gwneud eich ffordd drwy’r sleidiau. Erbyn i chi fod wedi gwneud hyn, bydd Panopto wedi dechrau recordio, felly gallwch nawr ddechrau cyflwyno eich cyflwyniad.

 

 

Unwaith rydych wedi gorffen cyflwyno eich cyflwyniad, ewch yn ôl i’ch porwr gwe a chlicio ar y botwm coch ‘stop’ ar ganol gwaelod eich sgrîn.

 

 

Bydd Panopto wedyn yn dechrau prosesu eich recordiad. Argymhellir eich bod yn aros ar y dudalen hon hyd nes bydd y bar gwyrdd yn cyrraedd y diwedd, a’ch bod naill ai yn gallu gweld y testun ‘Mae’ch fideo yn barod’, neu ‘Gorffen paratoi’.

 

 

 

Cyn ei gyflwyno ar Moodle, mae’n werth gwirio’r recordiad drwy glicio ar y botwm chwarae ar ragolwg y fideo.

 Awgrym: Rydych yn gallu cael rhagolwg o’r fideo tra mae’n dal i lwytho/brosesu.

 

 

Os nad ydych yn hapus gyda’r recordiad, cliciwch ‘Ail-wneud’ yn y gornel dde i ddileu’r recordiad blaenorol a dechrau eto.

 

 

Drwy ddefnyddio ‘Ail-wneud’, nid oes angen i chwi wneud unrhyw un o’r addasiadau a wnaethoch yn flaenorol gan y bydd Panopto yn cofio’r gosodiadau rydych wedi’u cymhwyso.

Os ydych yn hapus gyda’r recordiad, gallwch fynd yn ôl i Moodle a chlicio’r botwm ‘Mewnosod’.

 Awgrym: Peidiwch â phoeni os yw Moodle Panopto yn dweud ‘Bydd eich fideo yn barod yn y man’, cyn belled ag y bo’r bar gwyrdd wedi diwedd y sgrin recordio Panopto, mae’n ddiogel i glicio’ Mewnosod’ (gan y gall Moodle oedi’n hir wrth arddangos y sgrîn hon).

 

 

Fel arall, os gwnaethoch ddefnyddio ‘Ail-wneud’, byddwch angen mynd yn ôl i’ch Moodle, a chlicio ar y tab ‘Dewis’ er mwyn gallu dewis eich recordiad wedyn ac yna clicio clicio ‘Mewnosod’.

 

 

Ar ôl clicio ‘Mewnosod’, ar y dudalen Moodle cliciwch y ddolen ‘Dangos rhagolwg fideo’ er mwyn gwirio’r fideo unwaith eto.

 

 

Os ydych yn newid eich meddwl, cliciwch ar y botwm ‘Cyfnewid’ er mwyn naill ai ‘Dewis’, ‘Llwytho’ neu ‘Recordio’ fideo newydd.

 

 

Os ydych yn hapus cliciwch ar y botwm ‘Cyflwyno’.

 

 

Unwaith rydych wedi clicio ‘Cyflwyno’ byddwch yn derbyn neges sy’n dweud ‘Llwyddiant, mae eich aseiniad wedi ei gyflwyno’ a byddwch wedyn angen clicio ‘Parhau’.

 

 

Bydd eich cyflwyniad Panopto wedyn yn cael ei arddangos ar y dudalen Moodle ac mae bellach wedi ei gyflwyno ar gyfer ei raddio.


Datrys problemau Safari.

Er mwyn amddiffyn eich cyfrifiadur rhag ymosodiadau maleisus, mae gan, Mac OS nifer o nodweddion diogelwch wedi’u galluogi, a gall rhai ohonynt atal rhai ffwythiannau rhag gweithio.

Wrth ddefnyddio Panopto mae’n bosib y bydd caniatâd wedi’i ofyn a’ch bod wedi clicio 'Gwrthod' (ac mae’n beth da i fod yn ofalus os nad ydych yn sicr). Fodd bynnag, bydd, clicio ‘Gwrthod’ yn eich atal chi rhag rhannu eich sgrîn ar Panopto. Peidiwch â phoeni gan fod modd unioni hyn.

Yn gyntaf, cliciwch y testun ‘Safari’ yng nghornel chwith uchaf eich bar dewislen Mac ac yna clicio 'Gosodiadau'.

 

 

Ar y blwch deialog gosodiadau, cliciwch y tab 'Gwefannau' ac o dan 'Cyffredinol' (ar y ddewislen ar y chwith) cliciwch 'Rhannu Sgrîn'.

 

 

Yn y rhestr 'Caniatáu i wefannau gael mynediad at rannu sgrîn' (ynghanol y blwch dialog gosodiadau), dylech weld 'glyndwr.cloud.panopto.eu' yn cael ei restru. Cliciwch ar y gwymplen nesaf at y wefan a ddylai ddweud 'Gwrthod' a’i newid i 'Gofyn'.

 

 

Wedi newid y gosodiad i ‘Gofyn’, caewch y ffenest gosodiadau drwy glicio ar y dotyn coch yng nghornel chwith uchaf y ffenest gosodiadau (nid y ffenest Safari).

 

 

Unwaith rydych wedi cau’r blwch deialog gosodiadau, daliwch eich llygoden uwchben y tab Panopto a chlicio’r botwm cau 'X' er mwyn cau’r tab.

 

 

  Awgrym: Os nad yw cau’r tab yn mynd â chi yn ôl i Moodle, ewch drwy eich tabiau hyd nes y byddwch yn dod yn ôl i Moodle lle byddwch o bosib yn gweld sgrîn sy’n dweud ‘Bydd fideo yn ymddangos yma wedi i’r recordio gwblhau’.

Pan fyddwch yn dod o hyd i’r sgrîn Moodle, cliciwch ar y ddolen 'Dechrau eto' a dilyn yr un camau ag a grybwyllwyd uchod er mwyn gosod eich recordiad a rhannu eich sgrîn.

 

 

Os ydych wedi cwblhau’r camau hyn, mae’n bosib y byddwch am ddychwelyd at y camau uchod er mwyn paratoi eich recordiad.

  Defnyddio Panopto Capture

 Noder: Rydym bob amser yn cynghori eich bod yn recordio eich cyflwyniad ymhell cyn eich dyddiad cau cyflwyno. Gall gadael pethau funud olaf eich rhwystro rhag cael digon o amser i ymgyfarwyddo gyda’r broses o recordio a llwytho. Yn ogystal, mae’n bosib na fydd cefnogaeth ar gael yn ystod amser cyflwyno gan fod hyn yn ddibynnol ar argaeledd staff.

Byddwch yn ymwybodol hefyd y gallai cysylltedd gyda’r we neu unrhyw broblemau technegol eraill effeithio ar eich gallu i gyflwyno ar amser, yn arbennig felly ar ddiwrnod eich dyddiad cau.

Er mwyn cyflwyno Asesiad Panopto, yn gyntaf mewngofnodwch i'r Porth MyUni a naill ai clicio ar yr eicon 'Moodle' ar hyd y rhes uchaf o eiconau, neu sgrolio i lawr i'r adran ‘VLE’ a chlicio 'Moodle'.

 

 

Yna ewch draw i'r modiwl yn uniongyrchol, yn benodol yr adran 'Assessment and Feedback, ac edrychwch am eicon gwyrdd, sy’n edrych fel chwyrlïad yn amgylchynu botwm chwarae. Dyma’r logo Panopto.

 

 

 Awgrym: Gweler ein canllawiau ar wahân ar ddeall Moodle ar gyfer cefnogi gyda lleoli aseiniadau..

 

Wedi dod o hyd i'ch aseiniad, cliciwch ar y pwynt cyflwyno ac yna cliciwch ar y botwm 'Ychwanegu cyflwyniad Panopto'.

 

 

Clichiwch y ‘Recordio’ tab, yna sgroliwch i lawr hyd nes y gallwch weld y botwm ‘Lansio Recordiad’ (dan ‘Recordiad (Porwr)’ ar y chwith) a chliciwch ar y botwm.

 Noder: Anwybyddwch yr adran ‘Lansio Ap’ / ‘Lawrlwytho’ gan nad ydych angen lawrlwytho unrhyw gymhwysiad. Cliciwch ar y botwm ‘Lansio Recordiad’ yn unig os gwelwch yn dda.

 

 

Gofynnir i chi ganiatáu mynediad at eich meicroffonau ac i ddod o hyd i ddyfeisiadau ar y rhwydwaith lleol. Cliciwch caniatáu ar y ddau flwch deialog.

 

 

 

Yna cliciwch ‘Caniatáu tra’n ymweld â’r safle’. Mae’n bosib y gofynnir i chi ganiatáu mynediad at eich camera, cliciwch ‘Caniatáu’ ar y ddeialog.

 

 

 

Os nad ydych angen defnyddio camera, daliwch eich llygoden uwchben canol y sgrîn, ac yna cliciwch y botwm 'x' (diddymu)- ar y gornel dde uchaf er mwyn diffodd y camera.

 

 

Neu cliciwch ar y botwm ‘Fideo’ ar frig y sgrîn ac yna daliwch y llygoden dros y camera ac yna clicio ar y botwm ‘Diddymu’. Yna cliciwch ar y botwm cau 'x' ar waelod canol y sgrîn.

 

 

Ar waelod y sgrîn, wrth siarad, fe welwch linell sy’n symud sy’n dynodi bod eich meicroffon yn gweithio.

 

 

Os nad ydych yn gweld y llinell yn symud, cliciwch ar y botwm ‘Sain’ ac yna dewiswch feicroffon gwahanol (os oes gennych chi un), drwy ddal eich llygoden dros y meicroffon a chlicio ‘Cyfnewid’. Yna cliciwch ar y botwm cau 'x' ar waelod canol y sgrîn.

 

 

Nesaf, ewch draw i olwyn ddanheddog gosodiadau yn y gwaelod ar y dde.

 

 

O dan ‘Opsiynau Recordio’. Newidiwch y gosodiad oSD’ i ‘HD’, yna cliciwch y botwm ‘x’ cau ar waelod eich sgrîn.

 

 

Er mwyn recordio eich cyflwyniad, cliciwch ar ‘Sgriniau ac Apiau’.

 

 

Bydd Chrome yn gofyn ichi roi mynediad i recordiad sgrîn ar eich Mac. Naill ai cliciwch ‘Agor Gosodiadau’r System’ ar y ddeialog Chrome ‘Dewiswch beth i’w rannu’ neu’r un botwm 'Agor Gosodiadau System' ar y ddeialog Mac ‘Recordiad Sgrîn’ (pa un bynnag sy’n arddangos gyntaf/sydd ar y brig).

 

 

 Noder: Cyn symud i’r cam nesaf, gwnewch yn siŵr nad oes gennych unrhyw dabiau’n agored nad ydych wedi’u cadw gan y byddwch angen gadael Chrome wedi i chi gwblhau’r camau nesaf yma.

 

Pan mae eich gosodiadau system yn llwytho, cliciwch ar newid nesaf at ‘Google Chrome’ o dan y ddeialog ‘Recordiad Sain Sgrîn a System’ dialog.

 

 

Byddwch wedyn angen dilysu naill ai gan ddefnyddio eich ôl bys (’touch id’) neu eich cyfrinair.

 

 

Wedi i chi wneud hynny, cliciwch ar ‘Gadael ac Ailagor’, a dilyn yr un camau ag a grybwyllwyd yn flaenorol er mwyn mynd yn ôl at recordiad Panopto.

 

 

Mae’n bosib y byddwch yn derbyn blwch deialog arall yn gofyn i chi ganiatáu ‘goddiweddyd y system dewisydd ffenest breifat’. Os ydych yn derbyn y blwch deialog yma, cliciwch 'Caniatáu'.

 

 

  Awgrym: Os ydych wedi dychwelyd i Panopto ac wedi clicio ar ‘Sgriniau ac Apiau, parhewch os gwelwch yn dda gan ddilyn y camau isod. Os nad ydych, yna dychwelwch i’r camau uchod er mwyn dod yn ôl i’r sgrîn hon.

Pan fydd y deialog 'dewiswch beth i'w rannu' yn cael ei arddangos, cliciwch ar y tab 'Sgrin gyfan'.

 

 

Ar y tab hwn fe welwch ddelwedd o’ch sgrîn gyfan. Cliciwch ar y ddelwedd o’ch sgrîn unwaith yna cliciwch ‘Rhannu’.

 

 

Byddwch wedyn yn gweld eich sgrîn yn ymddangos ynghanol y ffenest recordio Panopto.

 

 

 Awgrym: Er y gallai edrych yn wahanol gweld y sgrîn yn ymddangos sawl tro, mae hyn yn gwbl arferol gan mai’r cyfan ydyw yw Panopto yn edrych arno ei hun (ni fydd eich recordiadau’n edrych fel yma).

 

 Noder: Drwy recordio eich sgrîn gyfan, cadwch mewn cof os gwelwch yn dda y bydd Panopto yn recordio popeth rydych chi’n ei weld ar eich sgrin. Felly os oes gennych chi gynnwys nad ydych am i unrhyw un arall ei weld, naill ai caewch ef neu osgoi cyrchu’r cynnwys sensitif.

 

 Eglurwch Os Gwelwch yn Dda: Er mwyn recordio eich cyflwyniad a’ch llais, bydd Panopto angen gweld y cyflwyniad. Pan fyddwch yn rhannu eich sgrîn gyfan, bydd Panopto yn recordio popeth rydych chi’n ei weld, gan gynnwys eich sleidiau, symudiadau llygoden ac unrhyw animeiddiadau rydych wedi eu cynnwys.

 

Nesaf, os nad yw wedi agor eisoes, agorwch eich Cyflwyniad Power Point. Gallai hyn fod ar fersiynau pen desg o PowerPoint o PowerPoint os ydych chi’n defnyddio Windows and Mac, neu’r fersiwn ar-leinos ydych yn defnyddio Chromebook.

Pan rydych yn barod i ddechrau, cliciwch, ar y botwm coch recordio ar ganol gwaelod eich sgrîn.

 

 

Wedi i chi wneud hynny, bydd amser cyfrif i lawr am 5 eiliad yn cael ei arddangos.

 

 

O fewn yr amser hwn ewch draw i’ch cyflwyniad a dechreuwch gyflwyno o’r dechrau.

 Noder: Nid yw Panopto’n recordio o fewn yr amser cyfrif i lawr 5 eiliad hwn a dyna pam y byddwch yn dal i fod angen mynd draw i PowerPoint o fewn yr amser hwn.

 

 Awgrym: Ar bob fersiwn o PowerPoint, ewch draw i’r tab ‘Sioe Sleidiau’ a chlicio ar ‘O’r dechrau’ a defnyddio eich allweddi saeth er mwyn gwneud eich ffordd drwy’r sleidiau. Erbyn i chi fod wedi gwneud hyn, bydd Panopto wedi dechrau recordio, felly gallwch nawr ddechrau cyflwyno eich cyflwyniad.

 

 

Unwaith rydych wedi gorffen cyflwyno eich cyflwyniad, ewch yn ôl i’ch porwr gwe a chlicio ar y botwm coch ‘stop’ ar ganol gwaelod eich sgrîn.

 

 

Bydd Panopto wedyn yn dechrau prosesu eich recordiad. Argymhellir eich bod yn aros ar y dudalen hon hyd nes bydd y bar gwyrdd yn cyrraedd y diwedd, a’ch bod naill ai yn gallu gweld y testun ‘Mae’ch fideo yn barod’, neu ‘Gorffen paratoi’.

 

 

 

Cyn ei gyflwyno ar Moodle, mae’n werth gwirio’r recordiad drwy glicio ar y botwm chwarae ar ragolwg y fideo.

 Awgrym: Rydych yn gallu cael rhagolwg o’r fideo tra mae’n dal i lwytho/brosesu.

 

 

Os nad ydych yn hapus gyda’r recordiad, cliciwch ‘Ail-wneud’ yn y gornel dde i ddileu’r recordiad blaenorol a dechrau eto.

 

 

Drwy ddefnyddio ‘Ail-wneud’, nid oes angen i chwi wneud unrhyw un o’r addasiadau a wnaethoch yn flaenorol gan y bydd Panopto yn cofio’r gosodiadau rydych wedi’u cymhwyso.

Os ydych yn hapus gyda’r recordiad, gallwch fynd yn ôl i Moodle a chlicio’r botwm ‘Mewnosod’.

 Awgrym: Peidiwch â phoeni os yw Moodle Panopto yn dweud ‘Bydd eich fideo yn barod yn y man’, cyn belled ag y bo’r bar gwyrdd wedi diwedd y sgrin recordio Panopto, mae’n ddiogel i glicio’ Mewnosod’ (gan y gall Moodle oedi’n hir wrth arddangos y sgrîn hon).

 

 

Fel arall, os gwnaethoch ddefnyddio ‘Ail-wneud’, byddwch angen mynd yn ôl i’ch Moodle, a chlicio ar y tab ‘Dewis’ er mwyn gallu dewis eich recordiad wedyn ac yna clicio clicio ‘Mewnosod’.

 

 

Ar ôl clicio ‘Mewnosod’, ar y dudalen Moodle cliciwch y ddolen ‘Dangos rhagolwg fideo’ er mwyn gwirio’r fideo unwaith eto.

 

 

Os ydych yn newid eich meddwl, cliciwch ar y botwm ‘Cyfnewid’ er mwyn naill ai ‘Dewis’, ‘Llwytho’ neu ‘Recordio’ fideo newydd.

 

 

Os ydych yn hapus cliciwch ar y botwm ‘Cyflwyno’.

 

 

Unwaith rydych wedi clicio ‘Cyflwyno’ byddwch yn derbyn neges sy’n dweud ‘Llwyddiant, mae eich aseiniad wedi ei gyflwyno’ a byddwch wedyn angen clicio ‘Parhau’.

 

 

Bydd eich cyflwyniad Panopto wedyn yn cael ei arddangos ar y dudalen Moodle ac mae bellach wedi ei gyflwyno ar gyfer ei raddio.

This guide was last updated: Nov 17, 2025 2:42 PM