Gwiriwr Tebygrwydd yn erbyn Terfynol
Turnitin
Y gwahaniaeth rhwng y ‘Similarity Checker a'r pwynt cyflwyno terfynol
Ar y rhan fwyaf o dudalennau'r modiwl, bydd ‘Turnitin Similarity Checker', sef lle penodol lle gallwch chi wirio'ch gwaith cyn i chi ei gyflwyno a gellir ei ddefnyddio sawl gwaith heb iddo gael ei uwchlwytho i gronfa ddata Turnitin. (Mae hyn yn bwysig i'w gofio ac eglurir mwy am hyn isod)
Enghraifft o'r hyn a welir ar y rhan fwyaf o dudalennau'r modiwl:

Pan fyddwch yn uwchlwytho eich cyflwyniad terfynol, caiff ei anfon i Turnitin a'i storio yn ei gronfa ddata, mae dau ddiben i hyn, y cyntaf yw sicrhau na all myfyrwyr eraill gopïo rhannau o'ch gwaith, a'r ail yw sicrhau na all myfyriwr arall uwchlwytho eich aseiniad llawn ei hun heb i’r system dynnu sylw at hynny.
Diweddariad diwethaf: May 8, 2025 3:33 PM