Neidio i'r Prif Gynnwys

Deall Sgoriau Tebygrwydd

The Turnitin Logo Turnitin

Deall Sgoriau Tebygrwydd

Fel y soniwyd uchod, pan fyddwch yn cyflwyno eich gwaith i Turnitin, byddwch yn derbyn 'Sgôr Debygrwydd', sy'n dangos faint o’ch testun sy’n cyfateb i ffynonellau eraill, o dan amgylchiadau arferol, ni ddylai eich sgôr fod yn agos at '100%' oni bai eich bod wedi copïo a gludo testun, wedi uwchlwytho ffeil myfyriwr arall, neu wedi defnyddio AI Cynhyrchiol.

Enghraifft o sgôr debygrwydd (a ble mae i’w gweld):

Darlun enghreifftiol o gyflwyniad Turnitin gyda sgôr debygrwydd o 27%, wedi'i amlygu mewn blwch coch.

Ond beth yw sgôr da?
Yn anffodus, nid oes sgôr 'da' gan fod y sgoriau yn gymharol, ac yn seiliedig ar eich barn chi a'ch darlithwyr, oherwydd efallai y byddwch, er enghraifft, yn uwchlwytho aseiniad sy'n seiliedig ar dempled, ac os felly, gan y bydd pawb arall yn eich dosbarth yn uwchlwytho dogfen yn seiliedig ar y templed, efallai y cewch chi sgôr o '60%', a allai ymddangos yn uchel, ond efallai mai dim ond '10%' o'ch testun mewn gwirionedd sy'n dod o ffynonellau eraill gyda '50%' o'r templed.

 

  Esboniwch: Defnyddir y sgorau i'ch helpu i weld ar y sgrin pa ran o'ch testun sydd wedi'i ddarganfod mewn ffynonellau eraill.

Enghraifft: Os ydych chi wedi dyfynnu a chyfeirio yn unol â’r drefn a'i fod yn ddyfyniad byr, dylai'r dyfyniad hwnnw, mewn theori, gael ei amlygu gan Turnitin ac os felly nid yw hyn yn beth drwg.

Fodd bynnag, os oes gennych chi baragraff hir a amlygir a ph’un ai a ydych chi wedi dyfynnu’n gywir ai peidio, efallai y cewch chi sgôr gwael.


A oes rhif 'safonol' sy'n 'dda' neu'n 'wael’?

Y peth pwysig i'w gofio yw bod angen i chi ganolbwyntio mwy ar faint o'ch testun sy'n cael ei amlygu ac sy’n dod o ffynhonnell arall, yn ogystal â sicrhau eich bod yn cyfeirio ac yn dyfynnu'n briodol oherwydd ddylech chi ddim trin Turnitin fel gêm, nid y nod yw cael y sgôr isaf posibl, ond yn hytrach, gwneud yn siŵr nad ydych yn copïo darnau helaeth o destun ac yn ei hawlio fel eich gwaith eich hun, yn ogystal â defnyddio AI Cynhyrchiol – ni chaiff hyn ei argymell o gwbl.

Diweddariad diwethaf: May 8, 2025 3:33 PM