Defnyddio RefWorks yn Word - RCM
Defnyddio RefWorks yn Word
Gallwch gael mynediad i'ch llyfrgell RefWorks o Word drwy ddefnyddio'r tab RCM ar eich bar offer. Ar ôl mewngofnodi, gallwch gyfeirio wrth ysgrifennu, gan ychwanegu dyfyniadau'n uniongyrchol i'ch dogfen o RefWorks. Gyda'r llyfryddiaeth ymlaen, bydd rhestr gyfeirio'n cael ei chreu'n awtomatig ar ddiwedd eich dogfen. Mae modd dewis eich arddull cyfeirio i fformatio eich dyfyniadau a'ch rhestr gyfeirio yn eich arddull dewisol, yn cynnwys Harvard Wrecsam.
Mae'r recordiad isod yn cynnig rhagor o wybodaeth am:
- Mewngofnodi i RefWorks yn Word
- Newid yr arddull cyfeirio
- Gosod dyfyniadau (gweithredol a goddefol)
- Defnyddio 'pob cyfeiriad' o ffolder dewisol
- Rhoi llyfryddiaeth ymlaen
- Adnewyddu a diweddaru eich llyfrgell RefWorks yn Word
- Golygu dyfyniadau a'r rhestr gyfeirio yn Word - datgysylltu o RefWorks (cael gwared ar reolaeth cynnwys)
Canllaw - Cyflwyniad i RefWorks yn Word
Mae'r canllaw canlynol yn rhoi cyflwyniad i ddefnyddio RefWorks yn Word:
Canllaw - Cyflwyniad i RefWorks yn Word - PDF
Canllaw - Cyflwyniad i RefWorks yn Word - Fersiwn Word
Noder:
Mae RefWorks Citation Manager yn Word yn fersiwn darllen yn unig o'ch llyfrgell RefWorks. Mae bob amser yn well golygu'n uniongyrchol i'ch llyfrgell RefWorks lle bo'n bosibl, ac yna adnewyddu a diweddaru eich RefWorks Citation Manager yn Word i ddiwygio eich cyfeiriadau.
Diweddariad diwethaf: Apr 14, 2025 9:30 AM