Neidio i'r Prif Gynnwys

  Cyflwyniadau PowerPoint

Detholiad OS

  Awgrym: Defnyddiwch hwn i newid y cyfarwyddiadau ar gyfer eich dyfais benodol (bydd yn cadw eich gosodiad yn awtomatig)


Cyngor ar gyfer creu ffeiliau PowerPoint

Pan mae’n fater o greu cyflwyniad PowerPoint, mae yna eithaf tipyn o bethau i’w hystyried.

Cofiwch bod gennym ni dudalen gyfan yn edrych ar 'Sgiliau Cyflwyno', felly ni fyddwn yn ailadrodd y wybodaeth yna yma, ond yn hytrach, byddwn yn siarad am PowerPoint ei hun.


Templedi / Themâu

Yn gyntaf, pa ‘Dempledi / ‘Themâu’ ddylech chi eu defnyddio? Mae’n bosib y cewch eich synnu o ddarllen nad ydych chi angen defnyddio templedi o gwbl, a dechrau gyda ‘Cyflwyniad Gwag’, a beth yw’r rheswm am hynny?

Mae gan dempledi gynnwys ar y sleidiau eisoes.

Sgrin-lun o’r templed pitch deck sydd wedi’i adeiladu yn rhan o PowerPoint, gan arddangos sleid gyda thabl ariannol ar yr ochr, ac mae’r ddwy sleid ar y chwith yn dangos tudalen ‘tîm’ gyda ffotograffau stoc cadw lle. Ar hyn o bryd mae’r cyflwyniad hwn ar sleid 17 o 27.

I ddechrau arni, mae’n bosib y byddwch yn pendroni pam mae hyn yn broblem, a’r rheswm am hyn yw oherwydd y byddwch yn treulio mwy o amser yn cael gwared â’r delweddau, a’r testun cadw lle nag y byddech yn cychwyn o’r newydd.

Er enghraifft, mae gan y templed 'Pitch deck haniaethol lliwgar' yn y ddelwedd uchod 27 o sleidiau! (Mae hynna’n eithaf tipyn, ac mae’n bosib mai dim ond 5 y byddwch ei angen).

Mae’r templedi wedi eu llenwi gyda ffotograffau stoc o bobl, graffiau, siartiau, tablau ac ati y mae’n bosib na fyddwch byth mo’u hangen yn eich cyflwyniad, felly y rheswm pam rydym yn eich cynghori i ddefnyddio ‘Cyflwyniad gwag’ yw oherwydd bod gennym ni ddywediad rydyn ni’n hoff o gadw ato, sef: “Cynnwys yn Gyntaf, Cynllunio Wedyn”.

Y rheswm am hyn wrth gwrs yw oherwydd ei bod yn well cyflwyno’r nifer o sleidiau y byddwch eu hangen sydd yn destun du ar gefndir gwyn, yna byddai hyn yn golygu cyflwyno 1 neu 2 o sleidiau sydd wedi’u cynllunio’n wirioneddol dda, (mae’n bosib eu bod yn edrych yn dda, ond os ydych chi’n treulio amser hir ar y rhain gyda phrin dim cynnwys, mae’n bosib na fyddwch yn bodloni’r anghenion ar gyfer eich aseiniad)


 Noder: Cadwch mewn cof nad ydyn ni’n dweud na ddylech chi ddylunio eich sleidiau (gan y gall hyn fod yn un o ofynion eich aseiniad), ond rydyn ni’n dweud mai’r cynllun yw’r peth olaf y dylech fod yn meddwl amdano a sicrhau bod eich holl gynnwys wedi’i ysgrifennu yn gyntaf.

Ond does dim angen i chi boeni, oherwydd mae gennym ni dric bach y gallwn ni ei ddefnyddio er mwyn gwneud i’ch sleidiau edrych yn hyfryd mewn dau glic.


Defnyddio Themâu sy’n rhan o'r PowerPoint

Fel y soniwyd, mae gennym dric bach y gallwch ei ddefnyddio er mwyn trawsnewid eich sleidiau’n syth i arddull hyfryd gan ddefnyddio’r themâu sydd yn rhan o’r PowerPoint.

Yn gyntaf, agorwch eich PowerPoint (byddem yn dal i argymell eich bod yn gorffen y cynnwys yn gyntaf cyn gwneud hyn), ewch draw i’r tab 'Dylunio' a naill ai hofran eich llygoden dros y themâu gweledol i gael rhagolwg ohonynt, neu glicio’r botwm gyda’r saeth yn wynebu am i lawr a llinell uwch ei ben er mwyn ehangu’r rhestr o’r themâu sydd ar gael, (gallwch hefyd hofran dros y themâu estynedig er mwyn gweld rhagolwg o’r rheiny hefyd). Pan rydych wedi dewis thema, cliciwch arno unwaith a’i gynnwys ar gyfer eich holl sleidiau.

 Noder: Mae gwrthgyferbyniad lliw yn eithriadol o bwysig wrth sicrhau bod eich cyflwyniadau yn hygyrch i bawb, felly pan fyddwch yn dewis thema, gwnewch yn siŵr bod gwrthgyferbyniad da rhwng yr holl liwiau ac nad yw’r thema yn tynnu gormod o sylw ato’i hun. (Er enghraifft, peidiwch â dewis thema sydd â lliw eithriadol o lachar fel cefndir ac yna testun gwyn).

Sgrin-lun yn arddangos lleoliad botwm y gwymplen er mwyn ehangu’r rhestr o themâu sydd ar gael.

Pan rydych wedi clicio ar thema rydych chi’n ei hoffi mae’n bosib y byddwch yn gweld rhai 'amrywiadau' amgen y gallwch eu dewis i’r dde o’r rhestr o themâu. (mae hyn yn ddewisol).

Sgrin-lun yn arddangos thema wedi’i chymhwyso i’r cyflwyniad, a lleoliad yr opsiwn amrywiadau.


Ychwanegu eitemau o’r Tab Mewnosod


Er mwyn gwneud y canllaw hwn yn fyrrach (ac yn daclusach), rydym wedi symud yr adran 'Ychwanegu eitemau o’r Tab Mewnosod' section i'w thudalen ei hun.



Defnyddio Delweddau Stoc PowerPoint.


Er mwyn gwneud y canllaw hwn yn fyrrach (ac yn daclusach), rydym wedi symud yr adran 'Defnyddio Delweddau Stoc PowerPoint' i'w thudalen ei hun.



Cadw ac Allforio Ffeiliau PowerPoint


Er mwyn gwneud y canllaw hwn yn fyrrach (ac yn daclusach), rydym wedi symud yr adran 'Cadw ac Allforio Ffeiliau PowerPoint' section to i’w thudalen ei hun.



Cyngor ar gyfer creu ffeiliau PowerPoint

Pan mae’n fater o greu cyflwyniad PowerPoint, mae yna eithaf tipyn o bethau i’w hystyried.

Cofiwch bod gennym ni dudalen gyfan yn edrych ar 'Sgiliau Cyflwyno', felly ni fyddwn yn ailadrodd y wybodaeth yna yma, ond yn hytrach, byddwn yn siarad am PowerPoint ei hun.


Defnyddio Themâu sy’n rhan o'r PowerPoint

Wrth greu eich cyflwyniad, byddwch angen dechrau gyda 'Chyflwyniad Gwag', ac fel rydym wastad yn eich cynghori dylech ganolbwyntio ar eich cynnwys yn gyntaf, ac yna’r cynllun yn nes ymlaen, fodd bynnag, os oes gennych thema benodol yr hoffech chi ei defnyddio, gallwch ei dethol o’r dudalen ‘Hafan’ wrth greu eich cyflwyniad. (Gelwir y rhain yn ‘Dempledi’).

 Noder: Mae gwrthgyferbyniad lliw yn eithriadol o bwysig wrth sicrhau bod eich cyflwyniadau yn hygyrch i bawb, felly pan fyddwch yn dewis thema, gwnewch yn siŵr bod gwrthgyferbyniad da rhwng yr holl liwiau ac nad yw’r thema yn tynnu gormod o sylw ato’i hun. (Er enghraifft, peidiwch â dewis thema sydd â lliw eithriadol o lachar fel cefndir ac yna testun gwyn)

Os hoffech chi ychwanegu thema yn nes ymlaen, newid eich thema bresennol, neu gymhwyso thema i gyflwyniad sydd eisoes yn bodoli, dilynwch y gyfres nesaf o gyfarwyddiadau os gwelwch yn dda.

Yn gyntaf, agorwch eich PowerPoint (byddem yn dal i argymell eich bod yn gorffen y cynnwys yn gyntaf cyn gwneud hyn), a mynd draw i’r tab 'Dylulnio' a naill ai clicio ar y themâu gweledol i’w cymhwyso (a gweld sut maent yn edrych), neu hofran eich llygoden dros y rhestr o themâu i arddangos botwm gyda’r saeth yn wynebu am i lawr, yna cliciwch er mwyn ehangu’r rhestr o themâu sydd ar gael, (wedyn, gallwch glicio ar un o’r themâu yn y rhestr estynedig er mwyn gweld sut maent yn edrych)

Sgrin-lun yn arddangos lleoliad botwm y gwymplen er mwyn ehangu’r rhestr o themâu sydd ar gael.

Pan rydych wedi clicio ar thema rydych chi’n ei hoffi mae’n bosib y byddwch yn gweld rhai 'amrywiadau' amgen y gallwch eu dewis i’r dde o’r rhestr o themâu, (mae hyn yn ddewisol).

Sgrin-lun yn arddangos thema wedi’i chymhwyso i’r cyflwyniad, a lleoliad yr opsiwn amrywiadau.


Ychwanegu eitemau o’r Tab Mewnosod


Er mwyn gwneud y canllaw hwn yn fyrrach (ac yn daclusach), rydym wedi symud yr adran 'Ychwanegu eitemau o’r Tab Mewnosod' section i'w thudalen ei hun.



Defnyddio Delweddau Stoc PowerPoint.


Er mwyn gwneud y canllaw hwn yn fyrrach (ac yn daclusach), rydym wedi symud yr adran 'Defnyddio Delweddau Stoc PowerPoint' i'w thudalen ei hun.



Cadw ac Allforio Ffeiliau PowerPoint


Er mwyn gwneud y canllaw hwn yn fyrrach (ac yn daclusach), rydym wedi symud yr adran 'Cadw ac Allforio Ffeiliau PowerPoint' section to i’w thudalen ei hun.



Cyngor ar gyfer creu ffeiliau PowerPoint

Pan mae’n fater o greu cyflwyniad PowerPoint, mae yna eithaf tipyn o bethau i’w hystyried.

Cofiwch bod gennym ni dudalen gyfan yn edrych ar 'Sgiliau Cyflwyno', felly ni fyddwn yn ailadrodd y wybodaeth yna yma, ond yn hytrach, byddwn yn siarad am PowerPoint ei hun.


Templedi / Themâu

Yn gyntaf, pa ‘Dempledi / ‘Themâu’ ddylech chi eu defnyddio? Mae’n bosib y cewch eich synnu o ddarllen nad ydych chi angen defnyddio templedi o gwbl, a dechrau gyda ‘Cyflwyniad Gwag’, a beth yw’r rheswm am hynny?

Mae gan dempledi gynnwys ar y sleidiau eisoes.

Sgrin-lun o’r templed pitch deck sydd wedi’i adeiladu yn rhan o PowerPoint, gan arddangos sleid gyda thabl ariannol ar yr ochr, ac mae’r ddwy sleid ar y chwith yn dangos tudalen ‘tîm’ gyda ffotograffau stoc cadw lle. Ar hyn o bryd mae’r cyflwyniad hwn ar sleid 17 o 27.

I ddechrau arni, mae’n bosib y byddwch yn pendroni pam mae hyn yn broblem, a’r rheswm am hyn yw oherwydd y byddwch yn treulio mwy o amser yn cael gwared â’r delweddau, a’r testun cadw lle nag y byddech yn cychwyn o’r newydd.

Er enghraifft, mae gan y templed 'Pitch deck haniaethol lliwgar' yn y ddelwedd uchod 27 o sleidiau! (Mae hynna’n eithaf tipyn, ac mae’n bosib mai dim ond 5 y byddwch ei angen).

Mae’r templedi wedi eu llenwi gyda ffotograffau stoc o bobl, graffiau, siartiau, tablau ac ati y mae’n bosib na fyddwch byth mo’u hangen yn eich cyflwyniad, felly y rheswm pam rydym yn eich cynghori i ddefnyddio ‘Cyflwyniad gwag’ yw oherwydd bod gennym ni ddywediad rydyn ni’n hoff o gadw ato, sef: “Cynnwys yn Gyntaf, Cynllunio Wedyn”.

Y rheswm am hyn wrth gwrs yw oherwydd ei bod yn well cyflwyno’r nifer o sleidiau y byddwch eu hangen sydd yn destun du ar gefndir gwyn, yna byddai hyn yn golygu cyflwyno 1 neu 2 o sleidiau sydd wedi’u cynllunio’n wirioneddol dda, (mae’n bosib eu bod yn edrych yn dda, ond os ydych chi’n treulio amser hir ar y rhain gyda phrin dim cynnwys, mae’n bosib na fyddwch yn bodloni’r anghenion ar gyfer eich aseiniad)


 Noder: Cadwch mewn cof nad ydyn ni’n dweud na ddylech chi ddylunio eich sleidiau (gan y gall hyn fod yn un o ofynion eich aseiniad), ond rydyn ni’n dweud mai’r cynllun yw’r peth olaf y dylech fod yn meddwl amdano a sicrhau bod eich holl gynnwys wedi’i ysgrifennu yn gyntaf.

Ond does dim angen i chi boeni, oherwydd mae gennym ni dric bach y gallwn ni ei ddefnyddio er mwyn gwneud i’ch sleidiau edrych yn hyfryd mewn dau glic.


Defnyddio Themâu sy’n rhan o'r PowerPoint

Fel y soniwyd, mae gennym dric bach y gallwch ei ddefnyddio er mwyn trawsnewid eich sleidiau’n syth i arddull hyfryd gan ddefnyddio’r themâu sydd yn rhan o’r PowerPoint.

Yn gyntaf, agorwch eich PowerPoint (byddem yn dal i argymell eich bod yn gorffen y cynnwys yn gyntaf cyn gwneud hyn), a mynd draw i’r tab 'Dylunio' a naill ai clicio ar y themâu gweledol i’w cymhwyso (a gweld sut maent yn edrych), neu glicio ar y botwm gyda’r saeth yn wynebu am i lawr er mwyn ehangu’r rhestr o themâu sydd ar gael (wedyn, gallwch glicio ar un o’r themâu yn y rhestr estynedig er mwyn gweld sut maent yn edrych).

 Noder: Mae gwrthgyferbyniad lliw yn eithriadol o bwysig wrth sicrhau bod eich cyflwyniadau yn hygyrch i bawb, felly pan fyddwch yn dewis thema, gwnewch yn siŵr bod gwrthgyferbyniad da rhwng yr holl liwiau ac nad yw’r thema yn tynnu gormod o sylw ato’i hun. (Er enghraifft, peidiwch â dewis thema sydd â lliw eithriadol o lachar fel cefndir ac yna testun gwyn).

A screenshot displaying the location of the dropdown button to expand the list of available themes.

Pan rydych wedi clicio ar thema rydych chi’n ei hoffi mae’n bosib y byddwch yn gweld rhai 'amrywiadau' amgen y gallwch eu dewis i’r dde o’r rhestr o themâu, (mae hyn yn ddewisol).

A screenshot displaying an applied theme to the presentation, and the location of the variants option.


Ychwanegu eitemau o’r Tab Mewnosod


Er mwyn gwneud y canllaw hwn yn fyrrach (ac yn daclusach), rydym wedi symud yr adran 'Ychwanegu eitemau o’r Tab Mewnosod' section i'w thudalen ei hun.



Defnyddio Delweddau Stoc PowerPoint.


Er mwyn gwneud y canllaw hwn yn fyrrach (ac yn daclusach), rydym wedi symud yr adran 'Defnyddio Delweddau Stoc PowerPoint' i'w thudalen ei hun.



Cadw ac Allforio Ffeiliau PowerPoint


Er mwyn gwneud y canllaw hwn yn fyrrach (ac yn daclusach), rydym wedi symud yr adran 'Cadw ac Allforio Ffeiliau PowerPoint' section to i’w thudalen ei hun.


Canllawiau Ysgrifinedig

Os oes yn well gennych chi fformat ysgrifenedig ar gyfer canllawiau ar greu a rheoli cyflwyniadau PowerPoint, defnyddiwch y botymau isod os gwelwch yn dda er mwyn cyrchu’r tudalennau cefnogaeth Microsoft.


 Noder: Mae’r rhan fwyaf o’r canllawiau a restrir isod yn berthnasol i’r fersiynau Pen Desg o PowerPoint, felly os ydych chi’n defnyddio fersiwn ar-lein o PowerPoint, mae’n bosib y bydd rhai o’r camau’n wahanol.

 Noder: Dim ond yn Saesneg mae’r canllawiau sydd yn y ddolen isod ar gael gan nad oes gan Microsoft ganllawiau Cymraeg ar hyn o bryd.








 

Canllawiau Fideo

  Awgrym: Rydym wedi dylunio ein canllawiau fideo i fod yn gyflym i’w dilyn, fodd bynnag rydym yn deall os nad ydych chi eisiau / angen gwylio’r holl beth, felly gallwch neidio i rannau penodol o’r fideo heb deimlo ar goll.
  Eglurwch Os Gwelwch yn Dda: : Uwchben bob fideo, fe ddewch o hyd i fotwm togl, ac wedi i chi ei glicio, bydd tabl cynnwys yn ymddangos, sy’n gadael i chi wybod beth yw hyd yr holl fideo, ac ar ba amser mae adrannau penodol o’r fideo (gan gynnwys pa mor hir yw’r rhan honno) fel eich bod chi’n gallu neidio o gwmpas os oes angen.

 

Creu ffeil PowerPoint, ei roi mewn maint poster newydd, ac arbed eich ffeil



 

Fformatio sylfaenol a dylunio



 

Mewnosod delweddau, tablau, siartiau, SmartArt, eiconau a siapiau



 

Sut i ychwanegu animeiddiadau sylfaenol at bwyntiau bwled


 Note: Ni ddylai animeiddiadau gael eu hychwanegu os ydych chi’n cyflwyno yn y dosbarth, neu os ydych chi eu hangen i guddio cynnwys wrth gyflwyno yn ystod recordiad er enghraifft. FODD BYNNAG, mae wedi ei nodi y gall defnyddio animeiddiadau achosi problemau wrth gyflwyno eich ffeil ar Turnitin, felly os ydych wedi ychwanegu animeiddiadau, naill ai allforiwch eich ffeil fel PDF neu diffoddwch yr animeiddiadau.

Diweddariad diwethaf: Oct 8, 2025 4:09 PM