Recordio mewn PowerPoint
Recordio mewn PowerPoint
Detholiad OS
Ewch i:
Cyflwyniad
Ar gyfer rhai aseiniadau, mae’n bosib y gofynnir i chi recordio PowerPoint; ar y dudalen hon gallwch ddysgu am rai o’r arferion gorau, yn ogystal â sut i recordio gan ddefnyddio apiau pen desg PowerPoint.
Defnyddio Camerâu
Er mwyn naill ai droi eich camera ymlaen neu ei ddiffodd mewn PowerPoint, ar y sgrin 'Recordio', cliciwch ar yr eicon camera er mwyn ei ychwanegu neu ei ddiffodd.
Arferion gorau recordio
- Nid ydych chi’n cyflwyno’n FYW!
- Dim ond recordio ydych chi, felly gallwch deimlo’n fwy ymlaciol gan y byddwch ond yn gweld eich recordiadau hyd nes y byddwch yn eu hallforio a’u llwytho ar gyfer eu cyflwyno.
- Gallwch ail recordio sleid unigo, neu ailddechrau’r recordiad cyfan
- Fel y soniwyd uchod, oherwydd nad ydych chi’n cyflwyno’n fyw ac mai dim ond recordio ydych chi, peidiwch â phoeni am wneud camgymeriadau gan eich bod yn rhydd i ailrecordio sleid benodol, neu glirio recordiad cyfan a dechrau o’r dechrau pryd bynnag rydych chi angen gwneud hynny.
- Gall recordiadau gael eu stopio neu gael saib
- Os ydych chi eisiau cymryd toriad cyflym wrth recordio, gallwch bwyso’r botwm ‘Saib’ er mwyn cael saib wrth recordio, ac ar ôl clicio hwn, gallwch bwyso’r botwm eto, fydd yn cael ei ail enwi yn ‘Ailddechrau’ er mwyn parhau gyda’ch recordiad.
- Gallwch hefyd bwyso’r botwm ‘Stop’ er mwyn stopio eich recordiad ar unrhyw bwynt.
- Cymerwch eich amser a chofiwch mae gwneud camgymeriad bach yn hollol iawn
- Mae bob amser yn bwysig peidio â rhuthro cyflwyniad oherwydd mae’n bosib y byddwch yn gwneud mwy o gamgymeriadau, baglu dros eich geiriau, neu anghofio rai o’ch geiriau; cymerwch eich amser i fwynhau siarad am eich pwnc/cyflwyniad.
- Cofiwch ei bod yn hollol iawn os ydych chi’n gwneud camgymeriad bach, er enghraifft, dweud ‘ym’, neu faglu rhywfaint ar air; rydyn ni i gyd yn fodau dynol ac rydyn ni’n gwneud camgymeriadau, felly peidiwch â chynhyrfu, a jest parhau fel arfer, oherwydd fyddech chi ddim yn ailddechrau eich sleid neu gyflwyniad pe baech chi’n gwneud hyn o flaen pobl yn y dosbarth, yn na fyddech chi?
- Gorffennwch siarad cyn symud ymlaen i’r sleid nesaf
- Os ydych chi’n parhau i siarad tra’n symud i’ch sleid nesaf, mae’n bosib y bydd PowerPoint yn colli peth o’ch sain, felly mae hi bob amser yn well gorffen siarad ac yna symud ymlaen i’r sleid nesaf.
Canllawiau Ysgrifenedig
Mae Microsoft wedi creu canllawiau ysgrifenedig ar sut i ddefnyddio’r adnodd recordio sy’n rhan o PowerPoint, a gallwch gael mynediad ato drwy eu tudalen gefnogaeth y gellir ei chyrchu drwy’r ddolen isod:
Canllawiau Fideo
Mae’r canllaw fideo isod wedi’i ddarparu gan LinkedIn Learning, sy’n blatfform y gellir ei ddefnyddio i gwblhau cyrsiau a dysgu am amrywiaeth o dopigau.
Mae LinkedIn Learning ar gael i’r holl staff a myfyrwyr, a gallwch ddysgu mwy amdano ar ein tudalen LinkedIn Learning.
Os hoffech chi ddysgu mwy am PowerPoint, gallwch gael mynediad at y cwrs PowerPoint Essential Training ar LinkedIn Learning.

Allforio eich fideo
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus gyda’ch recordiad a’ch bod yn barod i’w allforio, nesaf ewch draw i‘Ffeil’ ac yna ‘Allforio’.

Ar y sgrin allforio, cliciwch ar ygwymplen ‘Fformat Ffeil’ a’i newid o 'PDF' i 'MP4'.

Wedi i chi newid fformat y ffeil, byddwch yn cael eich cyflwyno gyda rhai opsiynau ychwanegol y gallwch eu newid, er enghraifft yr opsiwn'Ansawdd'. Pan rydych wedi gwneud eich newidiadau (os oes rhai), cliciwch ar Ar fy Mac.

Unwaith rydych wedi dewis'Ar fy Mac’, gallwch glicio’r gwymplen 'Ble' er mwyn dewis ffolder gwahanol ar eich Mac, ac unwaith rydych wedi dewis y lleoliad, cliciwch 'Allforio' a bydd y fideo yn dechrau allforio.

Gallwch wirio cynnydd yr allforio drwy gadw golwg ar y bar cynnydd ar waelod eich sgrin.

Canllawiau Ysgrifinedig
Mae Microsoft wedi creu canllawiau ysgrifenedig ar sut i ddefnyddio’r adnodd recordio sy’n rhan o PowerPoint, a gallwch gael mynediad ato drwy eu tudalen gefnogaeth y gellir ei chyrchu drwy’r ddolen isod::
Canllawiau Fideo
Mae’r canllaw fideo isod wedi’i ddarparu gan LinkedIn Learning, sy’n blatfform y gellir ei ddefnyddio i gwblhau cyrsiau a dysgu am amrywiaeth o dopigau.
Mae LinkedIn Learning ar gael i’r holl staff a myfyrwyr, a gallwch ddysgu mwy amdano ar ein tudalen LinkedIn Learning.
Os hoffech chi ddysgu mwy am PowerPoint, gallwch gael mynediad at y cwrs PowerPoint Essential Training ar LinkedIn Learning.
Cyflwyniad
Ar gyfer rhai aseiniadau, mae’n bosib y gofynnir i chi recordio PowerPoint; ar y dudalen hon gallwch ddysgu am rai o’r arferion gorau, yn ogystal â sut i recordio gan ddefnyddio apiau pen desg PowerPoint.
Diweddariad diwethaf: Oct 8, 2025 4:09 PM