Defnyddio Delweddau Stoc
Defnyddio Delweddau Stoc
Detholiad OS
Cyflwyniad
Mae delweddau stoc yn ffordd wych o ychwanegu delweddau at eich cyflwyniadau PowerPoint, Taflenni, Posteri ac ati heb orfod poeni am hawlfraint.
Mae hawlfraint yn gyfraith bwysig i’w hystyried pan mae’n dod i ddefnyddio delweddau nad ydych chi eu perchen, gan fod y rhan fwyaf o’r delweddau y byddwch yn dod o hyd iddynt ar Google yn eiddo i’w perchnogion ac oherwydd hynny, oni bai y nodir hynny fel arall mae’n bosib na fydd modd i chi ddefnyddio’r delweddau yma.
Yn ffodus, isod, fe ddewch o hyd i ddolenni i ddwy wefan rydym ni’n eu hargymell ar gyfer cael delweddau stoc sy’n rhydd o hawlfraint, ac yn ogystal â hyn, gallwch ddefnyddio delweddau stoc sydd ar gael / wedi eu mewnosod yn PowerPoint, gyda chyfarwyddiadau ar sut i’w defnyddio yn cael eu rhestru isod.
Dod o hyd i Ddelweddau Stoc
Mae yna ddwy safle rydym yn eu hargymell, sef:

Defnyddio Delweddau Stoc PowerPoint Wedi’u Mewnosod
Wedi’u mewnosod yn eich PowerPoint, bydd gennych lyfrgell o ddelweddau stoc y gallwch eu defnyddio yn eich ffeiliau, fodd bynnag, mae angen i chi barhau i gyfeirio'r rhain.
Gyda’r rhan fwyaf o arddulliau cyfeirio, byddwch angen darparu disgrifiad o’r ddelwedd, a gallai defnyddio delweddau stoc greu sialens pan fyddwch angen ‘disgrifio’r’ ddelwedd, yn ffodus, yn y rhan fwyaf o achosion gall PowerPoint ddarparu’r disgrifiad ar gyfer y testun ar ffurf Testun Amgen (ALT Text)
Yn gyntaf, mewnosodwch y ddelwedd stoc drwy fynd draw i ‘Mewnosod’ > ‘Lluniau’ >’Delweddau Stoc’.

Pan fyddwch wedi dod o hyd i ddelwedd rydych chi’n ei hoffi, cliciwch ar y ddelwedd un waith, ac yna cliciwch ‘Mewnosod’.

Unwaith mae’r ddelwedd wedi’i mewnosod, cliciwch ar y ddelwedd unwaith, yna de gliciwch, a dewis 'Gweld Pob Testun Amgen...'

Pan mae’r panel ochr Testun Amgen yn agor, copïwch y testun o ochr tu mewn y blwch Testun Amgen a defnyddiwch hyn fel eich disgrifiad ar gyfer eich cyfeiriad.

Rydych nawr wedi cyfeirio eich delweddau stoc PowerPoint yn gywir.

Unwaith mae’r ddelwedd wedi’i mewnosod, cliciwch ar y ddelwedd unwaith, yna gan ddal yr allweddell rheoli i lawr, cliciwch unwaith eto, a gadewch yr allweddell rheoli fynd pan fyddwch yn gweld dewislen, yna dewiswch ‘Gweld Pob Testun Amgen...’

Pan mae’r panel ochr Testun Amgen yn agor, copïwch y testun o ochr tu mewn y blwch Testun Amgen a defnyddiwch hyn fel eich disgrifiad ar gyfer eich cyfeiriad.

Rydych nawr wedi cyfeirio eich delweddau stoc PowerPoint yn gywir.
Cyflwyniad
Mae delweddau stoc yn ffordd wych o ychwanegu delweddau at eich cyflwyniadau PowerPoint, Taflenni, Posteri ac ati heb orfod poeni am hawlfraint.
Mae hawlfraint yn gyfraith bwysig i’w hystyried pan mae’n dod i ddefnyddio delweddau nad ydych chi eu perchen, gan fod y rhan fwyaf o’r delweddau y byddwch yn dod o hyd iddynt ar Google yn eiddo i’w perchnogion ac oherwydd hynny, oni bai y nodir hynny fel arall mae’n bosib na fydd modd i chi ddefnyddio’r delweddau yma.
Yn ffodus, isod, fe ddewch o hyd i ddolenni i ddwy wefan rydym ni’n eu hargymell ar gyfer cael delweddau stoc sy’n rhydd o hawlfraint, ac yn ogystal â hyn, gallwch ddefnyddio delweddau stoc sydd ar gael / wedi eu mewnosod yn PowerPoint, gyda chyfarwyddiadau ar sut i’w defnyddio yn cael eu rhestru isod.
Dod o hyd i Ddelweddau Stoc
Mae yna ddwy safle rydym yn eu hargymell, sef:

Defnyddio Delweddau Stoc PowerPoint Wedi’u Mewnosod
Wedi’u mewnosod yn eich PowerPoint, bydd gennych lyfrgell o ddelweddau stoc y gallwch eu defnyddio yn eich ffeiliau, fodd bynnag, mae angen i chi barhau i gyfeirio'r rhain.
Gyda’r rhan fwyaf o arddulliau cyfeirio, byddwch angen darparu disgrifiad o’r ddelwedd, a gallai defnyddio delweddau stoc greu sialens pan fyddwch angen ‘disgrifio’r’ ddelwedd, yn ffodus, yn y rhan fwyaf o achosion gall PowerPoint ddarparu’r disgrifiad ar gyfer y testun ar ffurf Testun Amgen (ALT Text)
Yn gyntaf, mewnosodwch y ddelwedd stoc drwy fynd draw i ‘Mewnosod’ > ‘Lluniau’ >’Delweddau Stoc’.

Pan fyddwch wedi dod o hyd i ddelwedd rydych chi’n ei hoffi, cliciwch ar y ddelwedd un waith, ac yna cliciwch ‘Mewnosod’.

Unwaith mae’r ddelwedd wedi’i mewnosod, cliciwch ar y ddelwedd unwaith, yna de gliciwch, a dewis 'Gweld Pob Testun Amgen...'

Pan mae’r panel ochr Testun Amgen yn agor, copïwch y testun o ochr tu mewn y blwch Testun Amgen a defnyddiwch hyn fel eich disgrifiad ar gyfer eich cyfeiriad.

Rydych nawr wedi cyfeirio eich delweddau stoc PowerPoint yn gywir.
Diweddariad diwethaf: Oct 8, 2025 4:09 PM