Library - CY: Home
Benthyg Llyfrau
- Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn adnabod Myfyriwr er mwyn benthyg llyfrau
- Gallwch fenthyg 10 llyfr ar y tro
- Gallwch fenthyg neu ddychwelyd llyfr wrth y peiriant hunan wasanaeth neu’r Ddesg Wasanaeth Inform
- Rhoddir llyfrau am gyfnod o 1 wythnos i 3 wythnos
Adnewyddu eich llyfaru
- Bydd llyfrau’n cael eu hadnewyddu’n awtomatig oni bai bod defnyddiwr arall wedi gwneud cais amdanynt.
- Bydd pob llyfr yn cael ei adnewyddu’n awtomatig 3 gwaith.
- Ar ôl adnewyddu am y trydydd tro bydd angen i chi gysylltu â’r Llyfrgell i adnewyddu eich eitemau.
- E-bostiwch inform@wrexham.ac.uk, neu ewch i’r ddesg wasanaeth Inform yn yr Adeilad Llyfrgell a Gwasanaethau Myfyrwyr.
Dirwyon Llyfrgell ac Eitemau Coll
- Codir dirwy am lyfrau a ddychwelir yn hwyr sydd wedi cael eu cadw ar gyfer defnyddiwr arall.
- Codir dirwy o £1 y dydd.
- Cysylltwch â ni os ydych chi’n poeni am ddirwyon llyfrgell.
Eitemau coll
- Rydych chi’n gyfrifol am bob eitem a roddir i chi dan eich cyfrif llyfrgell. Os byddwch yn colli eitem, neu’n methu â’i ddychwelyd, gofynnir i chi dalu am un newydd.
- Cysylltwch â’r Ddesg Wasanaeth Inform os oes angen adrodd am eitem goll.
Gwneud cais am lyfrau
- Os mae’r llyfr sydd ei angen arnoch wedi cael ei fenthyca’n barod, gallwch wneud cais am yr eitem drwy Resource Finder. Byddwch yn derbyn e-bost pan mae eich eitem yn barod i’w gasglu.
- Os oes angen erthygl neu lyfr arnoch nad yw mewn stoc ym Mhrifysgol Wrecsam, gallwch ofyn am fenthyciad rhwng llyfrgelloedd. Mae’n bosibl y bydd angen talu am y gwasanaeth hwn. Gofynnwch yn y Ddesg Wasanaeth Inform am fwy o fanylion.
Mannau Astudio
- Mae’r Llyfrgell ym Mhrifysgol Wrecsam yn darparu amrywiaeth o fannau astudio i fyfyrwyr dros 3 llawr.
- Llawr Gwaelod – astudio cymdeithasol
- Llawr cyntaf – astudio tawel
- Llawr uchaf – astudio unigol
Cymorth a Chefnogaeth
Parth Technoleg
Mae’r Parth Technoleg yn darparu cymorth TG galw heibio rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y timau eich cynorthwyo gyda materion mewngofnodi, WiFi ac ymholiadau technoleg.
Llyfrgell
Mae tîm Desg Wasanaeth Inform ar gael i’ch cefnogi:
- 8.45am - 8pm Dydd Llun i ddydd Iau
- 8.45am - 5pm Dydd Gwener
- 10am - 3pm Dydd Sadwrn
Gall y tîm eich cefnogi gydag ymholiadau’n ymwneud â’r llyfrgell a chymorth TG sylfaenol.
Os nad ydym yn gallu ateb eich cwestiwn, gallwn eich cyfeirio at rywun a fydd yn gallu eich helpu.
Sgiliau Dysgu
Gall y Tîm Sgiliau Dysgu eich cefnogi gyda phob agwedd ar astudio academaidd gan gynnwys:
- Ysgrifennu academaidd
- Cyfeiriadau
- Canfod gwybodaeth
- Datblygu sgiliau digidol
- Defnyddio Moodle a Microsoft 365
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch inform@wrexham.ac.uk
Diweddariad diwethaf: Mar 5, 2025 3:38 PM