Benthyg o safleoedd eraill
Benthyg o safleoedd eraill
Ceir casgliadau’n ymwneud â phynciau penodol yn Stryt y Rhaglaw, Llaneurgain a Llanelwy. Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â ble mae’r casgliad wedi’i leoli a sut i fenthyca llyfrau.
Stryt y Rhaglaw
Mae’r Llyfrgell ar Gampws Ysgol Gelf Stryt y Rhaglaw ar lawr gwaelod yr adeilad.
Mae’r llyfrau’n cwmpasu’r holl waith darllen hanfodol a mynegol ar gyfer unrhyw fodiwl celf a gellir eu benthyg gan ddefnyddio system slip syml lle gofynnir i chi nodi eich rhif Myfyriwr, rhif unigryw cod bar y llyfr a phostio’r slip yn y blwch gwyn a ddangosir yma
Gallwch hefyd ddychwelyd llyfrau i’r fan hon gan ddefnyddio’r blwch dychwelyd llyfrau sydd hefyd i’w weld yma.
Mae’r Llyfrgell hefyd yn cynnwys cyfrifiaduron, ardal astudio dawel sy’n gartref i’n casgliad o gyfnodolion a’r Zine Shed sy’n cynnwys archif o gylchgronau yn eu micro-lyfrgell eu hunain.
Mae’r Llyfrgell yn Stryt y Rhaglaw yn lle gwych i chwilio, ymlacio a dysgu.
Llaneurgain
Mae’r Llyfrgell yng Nghampws Llaneurgain ar lawr cyntaf adeilad Mitchelmore.
Mae’r casgliad yn cynnwys yr holl waith darllen hanfodol a mynegol ar gyfer astudiaethau anifeiliaid a phynciau’n ymwneud â’r tir a nyrsio milfeddygol.
Gellir benthyg yr holl lyfrau. Ewch â nhw i’r Dderbynfa i’w benthyg. Gadewch unrhyw lyfrau i’w dychwelyd yn y Dderbynfa.
Mae’r Llyfrgell hefyd yn cynnwys ardal astudio.
Llanelwy
Gellir dod o hyd i’r Llyfrgell ar gampws Llanelwy ar lawr cyntaf yr adeilad o fewn y Gyfadran.
Mae'r Llyfrgell yn storio’r holl lyfrau Hanfodol a Mynegol ar gyfer y rhaglenni Oedolion, Iechyd Meddwl a Nyrsio Plant a addysgir yn Llanelwy, yn ogystal â theitlau ar gyfer darllen ehangach a chasgliad o lyfrau sgiliau astudio. Gellir benthyg pob un o’r llyfrau o'r Llyfrgell.
I fenthyg llyfrau, ewch â hwy at ddesg y Dderbynfa ar lawr gwaelod yr adeilad, lle byddant yn cael eu rhoi ar fenthyg i chi. Gellir dychwelyd llyfrau i'r Dderbynfa neu gallwch ddychwelyd eich llyfrau yn y bocs Dychwelyd Llyfrau ger y Dderbynfa, sydd yn y llun isod.
Mae ardal astudio yn y Llyfrgell hefyd gyda chyfrifiaduron a lle i chi ddefnyddio eich dyfais eich hun.
Diweddariad diwethaf: Mar 5, 2025 3:38 PM