Llyfrau o lyfrgelloedd eraill
Rhannu Adnoddau
Gallwch ofyn am lyfrau ac erthyglau gan bartneriaid WHELF+ (Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru) drwy Resource Finder neu drwy e-bostio Learning.Resources@wrexham.ac.uk
Gellir gofyn am eitemau ar ffurf deunyddiau digidol neu gopi caled. Am ragor o gymorth gyda cheisiadau, neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, e-bostiwch Learning.Resources@wrexham.ac.uk
SCONUL
Mae SCONUL Access yn gynllun sy’n galluogi nifer o ddefnyddwyr llyfrgelloedd prifysgolion i ddefnyddio ardaloedd astudio neu lyfrau a chyfnodolion mewn llyfrgelloedd eraill sy’n rhan o’r cynllun. Gall rhai defnyddwyr llyfrgell hefyd fenthyg llyfrau print o lyfrgelloedd eraill.
Am ragor o fanylion am y cynllun, pwy sy’n gymwys, a sut mae’n gweithio, ewch i Wefan SCONUL neu e-bostiwch Learning.Resources@wrexham.ac.uk
Diweddariad diwethaf: Mar 5, 2025 3:38 PM