Dod o hyd i wybodaeth
Dod o hyd i wybodaeth
Ar y dudalen hon:
- Defnyddio'r Llyfrgell
- Dod o hyd i lyfrau gan ddefnuyddio catalog y llyfrgell - Resource Finder
- Do o hyd i lyfr yn llyfrgell
- Mynediad i Resource Finder
Defnyddio'r Llyfrgell
Mae gan y Brifysgol gasgliad eang o lyfrau print yn ogystal â mynediad i filoedd o eLyfrau ac erthyglau cyfnodolion. Gallwch ddefnyddio Resource Finder i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i lyfrau print yn y Llyfrgell ac i gael mynediad i eLyfrau.
Dod o hyd i lyfrau print yn y Llyfrgell ar Gampws Wrecsam
Mae’r llyfrau wedi’u gosod mewn trefn rifol. Mae gan bob un o’r llyfrau yn y llyfrgell label ar y meingefn sy’n cynnwys rhifau a llythrennau i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i eitemau ar y silffoedd.
Gellir dod o hyd i’r rhan fwyaf o lyfrau ar lawr cyntaf ac ail lawr y Llyfrgell.
Mae’r llyfrau gyda rhifau 001 - 499 ar y llawr cyntaf.
Mae’r llyfrau gyda rhifau 500 - 999 ar yr ail lawr.
Mae canllaw i’r silffoedd wedi’i osod ar ddiwedd pob ardal silffoedd. Bydd y canllaw hwn yn nodi rhifau’r llyfrau a’r pynciau yn yr ardal honno.
Gellir dod o hyd i’n casgliad ffuglen ar lawr gwaelod y Llyfrgell.
Dod o hyd i lyfrau gan ddefnyddio catalog y llyfrgell – Resource Finder
Dod o hyd i lyfr yn y llyfrgell
Mae gan bob un o’r llyfrau label ar y meingefn yn nodi rhif silff y llyfr.
Mynediad i Resource Finder
Resource Finder yw enw catalog llyfrgell Prifysgol Wrecsam. Mae’n eich galluogi i chwilio am ddeunyddiau ffisegol gan gynnwys llyfrau print a chyfnodolion yn y llyfrgell, yn ogystal ag adnoddau ar-lein megis eLyfrau ac erthyglau.
Gellir cael mynediad i Resource Finder o My Uni Portal drwy glicio yma:
Diweddariad diwethaf: Mar 5, 2025 3:38 PM