Neidio i'r Prif Gynnwys

Pwyntiau Bwled a Rhestrau wedi’u Rhifo

Pwyntiau Bwled, Rhestrau wedi’u Rhifo a Rhestrau Aml-lefel

Ar y dudalen hon, byddwch yn dysgu sut i ychwanegu Pwyntiau Bwled a Rhestrau wedi’u Rhifo os oes eu hangen ar gyfer eich dogfen, yn ogystal ag ychwanegu Rhestr Aml-lefel i’r Penawdau er mwyn arddangos rhifau penodau o flaen y Penawdau, os gofynnwyd i chi ychwanegu hyn.

Detholiad OS

  Awgrym: Defnyddiwch hwn i newid y cyfarwyddiadau ar gyfer eich dyfais benodol (bydd yn cadw eich gosodiad yn awtomatig)

  Ychwanegu Pwyntiau Bwled

Ewch draw i’r tab ‘Hafan’ a chliciwch yr eicon sydd â thri dotyn o dan ei gilydd, gyda thair llinell nesaf at bob dot yn y grŵp ‘Paragraff’.

Sgrin-lun o Word yn arddangos lleoliad y botwm ‘Pwyntiau Bwled’.

Os hoffech chi deilwra steil y pwyntiau bwled ar eich cyfer eich hun gallwch glicio ar y saeth ar y gwymplen i’r dde o’r botwm er mwyn arddangos rhestr o’r arddulliau pwyntiau bwled sydd ar gael.

Sgrin-lun o Word yn arddangos y gwymplen Pwyntiau Bwled wedi’i ehangu.

  Ychwanegu Rhestrau wedi'u Rhifo

Ewch draw i’r tab ‘Hafan’ a chliciwch yr eicon sydd â’r rhifau 1, 2, a 3 o dan ei gilydd, gyda thair llinell nesaf at bob rhif yn y grŵp ‘Paragraff’.

Sgrin-lun o Word yn arddangos lleoliad y botwm ‘Rhestrau Wedi’u Rhifo’.

Os hoffech chi deilwra steil y rhestrau wedi’u rhifo, gallwch glicio ar y saeth ar y gwymplen i’r dde o’r botwm er mwyn arddangos rhestr o’r arddulliau rhestru sydd ar gael.

Sgrin-lun o Word yn arddangos y gwymplen Rhestr wedi’i Rhifo wedi’i ehangu.

    Rhestrau Aml-lefel (ar gyfer Penawdau)

Yn dibynnu ar sut y gofynnwyd i chi fformatio eich dogfen, mae’n bosib y gofynnwyd i chi greu penawdau sydd wedi’u fformatio â rhifau, er enghraifft:

1. Cyflwyniad

1.1 Is-Bwynt

2. Pwynt Nesaf

2.1. Is-Bwynt

Gelwir y rhain yn ‘Rhestrau Aml-lefel’, ac yng nghyd-destun ysgrifennu academaidd, fe’u defnyddir i arddangos rhifau ‘Pennod’ er mwyn gadael i’ch darllenydd wybod pa sefyllfa maent arnynt yn eich dogfen.

Er mwyn gosod y rhain, ewch draw i’r tab ‘Hafan’ a chliciwch yr eicon sydd â’r rhifau 1, y llythyren ‘a’, a’r llythyren ‘i’ o dan ei gilydd gyda llinellau nesaf atynt, er mwyn agor y dewis 'Rhestr Aml-lefel' (yn y grŵp ‘Paragraff’)

Sgrin-lun o Word yn arddangos lleoliad y botwm ‘Rhestr Aml-lefel’.

Pan mae’r rhestr yn llwytho, cliciwch ar y dewis ‘Penawdau’ gyda’r rhifau cyn y pennawd, a fydd yn arddangos rhif 1 gyda’r gair ‘pennawd’ i’r dde o’r rhifau.

Sgrin-lun o Word yn arddangos y gwymplen Rhestr Aml-lefel wedi’i ehangu, a lleoliad yr opsiwn Penawdau.

Ar ôl toglo’r dewis hwn arno, mae’n bosib y bydd yn creu pennawd newydd gyda rhif neu’n newid pennawd sydd eisoes yn bodoli.

Os nad oes gennych chi unrhyw benawdau wedi’u creu, mae’n bosib y byddwch yn gweld bod yna rifau nesaf at y penawdau o fewn y ‘Galeri arddulliau’, ac os felly mae eich penawdau yn awr wedi eu gosod gyda rhifau.

Sgrin-lun o Word yn arddangos Pennawd enghreifftiol gyda’r rhif 1 ar y dudalen.

Fodd bynnag, os nad oes gennych chi benawdau, byddwch yn sylwi ar rif i’r chwith o deitlau eich penawdau.

Sgrin-lun o Word yn arddangos penawdau amrywiol gyda rhifau i’r chwith o’r teitlau.

  Os ydych chi wedi mynd drwy bob un o’r canllawiau/tudalennau yn hwn, y rhan ‘Gwybodaeth Formatio’ o’n canllaw ‘Dogfen a Thraethawd Hir’, yna llongyfarchiadau, rydych chi wedi cwblhau pob un o’r canllawiau!

Cyn bo hir: Os hoffech chi ddysgu mwy am Word yna mae croeso i chi ymweld â’n hadran ‘Word Uwch’, sy’n cwmpasu rhai o’r adnoddau a’r wybodaeth ychwanegol y gallech fod eisiau dysgu amdanynt.

 Nodyn: Yn anffodus, lle gallwch greu ‘Rhestr Aml-lefel’ ar y fersiwn ar-lein o Word, yn anffodus nid ydynt yn gweithio yn yr un modd â’r fersiwn pen desg, lle maent yn cael eu defnyddio i greu rhifau i’r chwith o deitlau eich penawdau, i bob pwrpas yn gweithredu fel ‘Penodau’. Os oes rhywun wedi gofyn i chi ychwanegu’r rhain at eich dogfennau, byddwch naill ai angen defnyddio cyfrifiadur Windows neu Mac er mwyn defnyddio’r nodwedd.

  Os ydych chi wedi mynd drwy bob un o’r canllawiau/tudalennau yn hwn, y rhan ‘Gwybodaeth Formatio’ o’n canllaw ‘Dogfen a Thraethawd Hir’, yna llongyfarchiadau, rydych chi wedi cwblhau pob un o’r canllawiau!

Cyn bo hir: Os hoffech chi ddysgu mwy am Word yna mae croeso i chi ymweld â’n hadran ‘Word Uwch’, sy’n cwmpasu rhai o’r adnoddau a’r wybodaeth ychwanegol y gallech fod eisiau dysgu amdanynt.

Diweddariad diwethaf: Oct 8, 2025 4:14 PM