Toriadau Adran (Hanner rhif Rhufeinig, Rhifol Hanner Safonol)
Toriadau Adran
Ar y dudalen hon, byddwch yn dysgu sut i greu Toriad Adran er mwyn creu hanner y rhifau’n rhifau Rhufeinig a’r hanner arall yn rhifau arferol ar gyfer eich traethodau hir.
Detholiad OS
Edrych ar hyn o bryd ar: Ganllawiau ar gyfer yr apiau Windows Pen Desg.
Toriadau Adran
Yn gyntaf, beth yw ‘Toriad Adran’? Mae toriad adran yn ffordd o rannu eich dogfen/traethawd hir yn wahanol ‘adrannau’, sy’n eich galluogi i osod gwahanol benynnau, troedynnau, arddulliau a chyfeiriadau tudalen, yn ychwanegol i'r hyn y byddwn yn ei osod ar y dudalen hon, gan wahanu’r ddogfen i ddefnyddio rhifau Rhufeinig ar hanner uchaf y ddogfen, ac yna newid yn ôl i rifau arferol ar ddechrau eich gwaith ysgrifennu.
Mae’r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o Draethodau Hir, yn gofyn am y fformat hwn (rhifau Rhufeinig a rhifau arferol), a dyma pan rydym wedi ysgrifennu’r cyfarwyddiadau yma, er mwyn eich helpu chi i osod hyn ar gyfer eich Traethawd Hir yn eich blwyddyn olaf/meistr.
Os ydych angen newid cyfeiriad eich tudalen gan ddefnyddio toriad adran, gweler ein canllawiau ar wahân ar y broses hon os gwelwch yn dda.
Cewch eich tywys drwy bob cam, ond argymhellir eich bod yn ymgyfarwyddo gyda defnyddio’r adnoddau yn Word cyn dilyn y camau hyn, gan y gall gosod fformat penodol fod yn anodd, felly sicrhewch eich bod yn neilltuo amser (oddeutu 10 munud) er mwyn dilyn y camau hyn a chymryd pwyll byddwn yn siŵr o ddod drwyddi!
Yn yr adran hon:
Paratoi eich dogfen
Cyn i ni ddechrau, rydym angen gwneud ychydig o addasiadau i’ch dogfen fel ei bod yn barod ar gyfer y toriad adran a’r fformatio y byddwn yn eu cymhwyso i’r ddogfen.
Mewnosod tudalennau gwag
Yn gyntaf, rydym angen creu rhai tudalennau gwag; mae hyn yn ein galluogi i gael syniad da o pryd rydym angen i’r rhifau Rhufeinig ddechrau a gorffen.
Er mwyn mewnosod tudalen, ewch draw i ‘Mewnosod’ ac yna cliciwch ‘Tudalen Wag’ tua 6 gwaith (fydd yn ein darparu gyda chyfanswm o 7 tudalen) (neu, os ydych chi’n gwybod sawl tudalen/pennawd y byddwch eu hangen, gallwch fewnosod y nifer hwnnw o dudalennau yn lle hynny)

Galluogi ‘Marciau Paragraff’
Wedi i chi greu eich tudalennau gwag, sgroliwch yn ôl i fyny i Dudalen 1 a galluogi’r ‘Marciau Paragraff’ yn y tab Hafan sef yr eicon symbol ‘P’ o chwith ar frig chwith y grŵp ‘Paragraff’ .
Mewnosod toriad adran
Wedi galluogi’r marciau paragraff, fe sylwch ar gyfres o’r eiconau hyn yn ogystal â llinell sy’n dweud ‘Toriad Tudalen’, sgroliwch i fyny i’r dudalen gyntaf a dilynwch y camau isod i ychwanegu eich toriad adran cyntaf.
Gosodwch gyrchwr eich llygoden ar ddiwedd y llinell ‘Toriad Tudalen’, ond cyn y ‘P’ o chwith a chliciwch, fel eich bod yn gweld llinell sy’n blincio ar y lleoliad hwnnw.
Wedi i chi osod y cyrchwr yn y lle cywir, ewch draw i’r tab ‘Cynllun’ a chlicio ‘Toriadau’ and click 'Breaks' ac yna ‘Parhaus’.
Wedi i chi glicio ‘Parhaus’, dylech weld llinell newydd yn ymddangos nesaf i’r toriad tudalen sy’n dweud‘Toriad Adran (Parhaus)’.
Nawr bod gennym ein toriad adran cyntaf, rydym angen mewnosod un arall, so scroll down to the second to last page felly sgroliwch i lawr i’r ail dudalen o’r diwedd a mewnosod toriad adran ‘Parhaus’ arall. (Os oes gennych chi gyfanswm o 7 tudalen, tudalen 6 fydd hon).
Addasu’r Troedyn
Wedi creu ein toriad adran, rydym angen gwneud yn siŵr bod ein tudalen gyntaf/tudalen deitl ar wahân, felly er mwyn gwneud hyn, sgroliwch yn ôl i fyny i’r dudalen gyntaf, a gosodwch y Troedyn drwy ddwbl-glicio ar ran waelod y ddogfen.
Wedi i chi fewnosod y Troedyn, os nad yw wedi ei dicio’n barod, ticiwch y blwch sy’n dweud 'Tudalen Gyntaf Wahanol' yn y tab ‘Pennyn a Throedyn’ (Dylech wedyn weld eich Troedyn yn newid i ddweud ‘Troedyn Tudalen Gyntaf’)
Paratoi’r troedynnau ar gyfer rhifau tudalennau
Er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw broblemau gyda’r testun yn neidio o gwmpas rydym angen gwneud rhai newidiadau i’n Troedynnau, fel y crybwyllwyd uchod, oni bai bod gennych ‘Droedyn Tudalen Gyntaf’ ar Adran 2 a 3 gallwch sgrolio heibio’r camau isod.
I ddechrau arni, sgroliwch yn ôl i Dudalen 2 a dwbl-gliciwch ar y Troedyn, os mai‘Troedyn Tudalen Gyntaf - Adran 2’, yw enw hwn byddwch angen dad-dicio'r blwch ‘Tudalen Gyntaf Wahanol’. (Os nad dyna yw ei enw gallwch fynd heibio’r cam hwn)
Nesaf, sgroliwch i lawr i’ch tudalen olaf, gallai gael ei chyfeirio ati fel ‘Troedyn Tudalen Gyntaf - Adran 3’ ac os ydyw, yna cyflawnwch yr un dasg o glicio ar Droedyn adran 3, a dad-dicio ‘Tudalen Gyntaf Wahanol’.
Datgysylltu o’r adran flaenorol
Yn olaf, rydym angen datgysylltu adran 2 ac adran 3. Gellir gwneud hyn drwy glicio’r Troedyn yn adran 2 ac adran 3 ar wahân a chlicio ‘Cysylltu i’r Un Blaenorol’ yn y tab ‘Pennyn a Throedyn’.
Nawr, gallwn ddechrau ychwanegu rhifau tudalennau (bron yna!)
Ychwanegu Rhifau Rhufeinig
Sgroliwch yn ôl i Dudalen 2 a dwbl-gliciwch ar ran gwaelod y sgrin er mwyn rhoi’r troedyn, yna ewch draw i ‘Rhif Tudalen’ > ‘Gwaelod y Dudalen’ ac yna ‘Rhif Plaen 2’.
Wedi mewnosod rhif y dudalen, uwcholeuwch/dewiswch y rhif tudalen, yna de-gliciwch ar y rhif tudalen, a chliciwch ‘Fformatio Rhifau Tudalennau...
Pan mae’r deialog yn llwytho, cliciwch yr opsiwn ‘Dechrau ar’ tuag at waelod y deialog, a gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud ‘1’ yna cliciwch y gwymplen ‘Fformat Rhif:’, ei newid i Rifau Rhufeinig (i, ii, iii), ac yna clicio ‘Iawn’.
Wedi i chi glicio ‘Iawn’, sgroliwch drwy eich dogfen er mwyn gwneud yn siŵr bod y rhifau Rhufeinig yn cyfrif i fyny hyd at ‘Adran 3’ (y dudalen olaf)
Dychwelyd i rifau arferol
Nawr eich bod wedi cadarnhau bod gennych rifau Rhufeinig yn rhedeg hyd at y dudalen olaf, gallwn bellach ychwanegu eich cyfres derfynol o rifau tudalennau.
Sgroliwch i lawr i’r dudalen olaf a dwbl-gliciwch er mwyn rhoi’r Troedyn (a ddylai fod yn wag) a dilyn yr un camau er mwyn ychwanegu rhif tudalen.
Cliciwch ‘Rhif Tudalen’ > ‘Gwaelod y Dudalen’ ac yna ‘Rhif Plaen 2’.
Pan mae’r deialog yn llwytho, cliciwch yr opsiwn ‘Dechrau ar’ tuag at waelod y deialog, a gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud ‘1’, yna clicio ‘Iawn’.
Mae eich rhifau tudalen nawr wedi eu gosod. Y cam olaf yw analluogi’r ‘Marciau Paragraff’ ac wrth gwrs, cadw eich dogfen os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes.
Yn gyntaf, caewch eich ‘Pennyn a Throedyn’ os nad yw eisoes wedi’i gau, ac yna, yn y tab ‘Hafan’, cliciwch yr un eicon o symbol ‘P’ o chwith yn y gornel uchaf ar y chwith y grŵp ‘Paragraff’ er mwyn diffodd y ‘Marciau Paragraff’.
A dyna ni, wedi gorffen! Arbedwch eich dogfen i’ch OneDrive myfyriwr (fel ei fod yn cael ei gadw) ac rydych yn barod i ddechrau gweithio ar eich traethawd hir.
Dileu ac Ychwanegu tudalennau (Dewisol)
Fel y crybwyllwyd ar y dechrau, yn dibynnu ar faint o benawdau sydd eu hangen arnoch, mae’n bosib eich bod wedi mewnosod gormod o dudalennau, neu ddim digon ar gyfer yr adran rhifau Rhufeinig, ac os felly, y ffordd rwyddaf i ddatrys hyn yw drwy alluogi’r‘Marciau Paragraff’ unwaith eto (gweler yr uchod am y camau).
Gyda’r ‘Marciau Paragraff’ ymlaen, byddwch yn gallu gweld lle mae eich Toriad Tudalen ac Adran, sef sut y byddwn yn ychwanegu neu ddileu tudalennau.
Ychwanegu tudalennau
Os ydych angen mewnosod mwy o dudalennau o fewn yr adran rhifau Rhufeinig, sgroliwch i fyny i dudalen cyn y toriad adran, er enghraifft ‘Tudalen 3 neu 4’, yna cliciwch cyn y ‘Marc Paragraff’ (uwchben y llinell ‘Toriad Tudalen’), ac yna ewch draw i’r tab ‘Mewnosod’ a chlicio ‘Tudalen Wag’.
Dylech nawr weld bod tudalen newydd wedi’i hychwanegu, sgroliwch i lawr i’r dudalen olaf er mwyn gwneud yn siŵr bod y rhifau Rhufeinig yn dal i gyfrif yn gywir a bod eich rhifau safonol hefyd yn dal i ddechrau ar 1 ac nad ydynt wedi newid mewn unrhyw ffordd.
Dileu tudalennau

Os ydych angen dileu rhai tudalennau o fewn yr adran rhifau Rhufeinig, sgroliwch i fyny i dudalen cyn y toriad adran, er enghraifft ‘Tudalen 3 neu 4’ yna gosodwch gyrchwr eich llygoden ar ddiwedd y llinell ‘Toriad Tudalen’, ond cyn y ‘P’ o chwith a chliciwch, fel eich bod yn gweld llinell sy’n blincio ar y lleoliad hwnnw.
Pwyswch y fysell BACKSPACE ar eich bysellfwrdd er mwyn dileu’r toriad tudalen, efallai na fydd yn edrych fel pe bai unrhyw beth wedi digwydd, fodd bynnag, os ydych yn sgrolio i lawr, dylech weld bod gennych un dudalen yn llai.
Wedi i chi wneud hyn, mae’n bosib y byddwch angen pwyso'r fysell ôl dwy neu fwy o weithiau er mwyn diddymu’r gofod uwchben y dudalen, ond dim ond os oes bwlch mawr ar frig y dudalen.
Toriadau Adran
Yn gyntaf, beth yw ‘Toriad Adran’? Mae toriad adran yn ffordd o rannu eich dogfen/traethawd hir yn wahanol ‘adrannau’, sy’n eich galluogi i osod gwahanol benynnau, troedynnau, arddulliau a chyfeiriadau tudalen, yn ychwanegol i'r hyn y byddwn yn ei osod ar y dudalen hon, gan wahanu’r ddogfen i ddefnyddio rhifau Rhufeinig ar hanner uchaf y ddogfen, ac yna newid yn ôl i rifau arferol ar ddechrau eich gwaith ysgrifennu.
Mae’r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o Draethodau Hir, yn gofyn am y fformat hwn (rhifau Rhufeinig a rhifau arferol), a dyma pan rydym wedi ysgrifennu’r cyfarwyddiadau yma, er mwyn eich helpu chi i osod hyn ar gyfer eich Traethawd Hir yn eich blwyddyn olaf/meistr.
Os ydych angen newid cyfeiriad eich tudalen gan ddefnyddio toriad adran, gweler ein canllawiau ar wahân ar y broses hon os gwelwch yn dda.
Cewch eich tywys drwy bob cam, ond argymhellir eich bod yn ymgyfarwyddo gyda defnyddio’r adnoddau yn Word cyn dilyn y camau hyn, gan y gall gosod fformat penodol fod yn anodd, felly sicrhewch eich bod yn neilltuo amser (oddeutu 10 munud) er mwyn dilyn y camau hyn a chymryd pwyll byddwn yn siŵr o ddod drwyddi!
Yn yr adran hon:
Paratoi eich dogfen
Cyn i ni ddechrau, rydym angen gwneud ychydig o addasiadau i’ch dogfen fel ei bod yn barod ar gyfer y toriad adran a’r fformatio y byddwn yn eu cymhwyso i’r ddogfen.
Mewnosod tudalennau gwag
Yn gyntaf, rydym angen creu rhai tudalennau gwag; mae hyn yn ein galluogi i gael syniad da o pryd rydym angen i’r rhifau Rhufeinig ddechrau a gorffen.
Er mwyn mewnosod tudalen, ewch draw i ‘Mewnosod’ ac yna cliciwch ‘Tudalen Wag’ tua 6 gwaith (fydd yn ein darparu gyda chyfanswm o 7 tudalen) (neu, os ydych chi’n gwybod sawl tudalen/pennawd y byddwch eu hangen, gallwch fewnosod y nifer hwnnw o dudalennau yn lle hynny)
Galluogi ‘Marciau Paragraff’
Wedi i chi greu eich tudalennau gwag, sgroliwch yn ôl i fyny i Dudalen 1 a galluogi’r ‘Marciau Paragraff’ yn y tab Hafan sef yr eicon symbol ‘P’ o chwith ar frig chwith y grŵp ‘Paragraff’ .
Mewnosod toriad adran
Wedi galluogi’r marciau paragraff, fe sylwch ar gyfres o’r eiconau hyn yn ogystal â llinell sy’n dweud ‘Toriad Tudalen’, sgroliwch i fyny i’r dudalen gyntaf a dilynwch y camau isod i ychwanegu eich toriad adran cyntaf.
Gosodwch gyrchwr eich llygoden ar ddiwedd y llinell ‘Toriad Tudalen’, ond cyn y ‘P’ o chwith a chliciwch, fel eich bod yn gweld llinell sy’n blincio ar y lleoliad hwnnw.
Wedi i chi osod y cyrchwr yn y lle cywir, ewch draw i’r tab ‘Cynllun’ a chlicio ‘Toriadau’ and click 'Breaks' ac yna ‘Parhaus’.
Wedi i chi glicio ‘Parhaus’, dylech weld llinell newydd yn ymddangos nesaf i’r toriad tudalen sy’n dweud‘Toriad Adran (Parhaus)’.
Nawr bod gennym ein toriad adran cyntaf, rydym angen mewnosod un arall, so scroll down to the second to last page felly sgroliwch i lawr i’r ail dudalen o’r diwedd a mewnosod toriad adran ‘Parhaus’ arall. (Os oes gennych chi gyfanswm o 7 tudalen, tudalen 6 fydd hon).
Addasu’r Troedyn
Wedi creu ein toriad adran, rydym angen gwneud yn siŵr bod ein tudalen gyntaf/tudalen deitl ar wahân, felly er mwyn gwneud hyn, sgroliwch yn ôl i fyny i’r dudalen gyntaf, a gosodwch y Troedyn drwy ddwbl-glicio ar ran waelod y ddogfen.
Wedi i chi fewnosod y Troedyn, os nad yw wedi ei dicio’n barod, ticiwch y blwch sy’n dweud 'Tudalen Gyntaf Wahanol' yn y tab ‘Pennyn a Throedyn’ (Dylech wedyn weld eich Troedyn yn newid i ddweud ‘Troedyn Tudalen Gyntaf’)
Paratoi’r troedynnau ar gyfer rhifau tudalennau
Er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw broblemau gyda’r testun yn neidio o gwmpas rydym angen gwneud rhai newidiadau i’n Troedynnau, fel y crybwyllwyd uchod, oni bai bod gennych ‘Droedyn Tudalen Gyntaf’ ar Adran 2 a 3 gallwch sgrolio heibio’r camau isod.
I ddechrau arni, sgroliwch yn ôl i Dudalen 2 a dwbl-gliciwch ar y Troedyn, os mai‘Troedyn Tudalen Gyntaf - Adran 2’, yw enw hwn byddwch angen dad-dicio'r blwch ‘Tudalen Gyntaf Wahanol’. (Os nad dyna yw ei enw gallwch fynd heibio’r cam hwn)
Nesaf, sgroliwch i lawr i’ch tudalen olaf, gallai gael ei chyfeirio ati fel ‘Troedyn Tudalen Gyntaf - Adran 3’ ac os ydyw, yna cyflawnwch yr un dasg o glicio ar Droedyn adran 3, a dad-dicio ‘Tudalen Gyntaf Wahanol’.
Datgysylltu o’r adran flaenorol
Yn olaf, rydym angen datgysylltu adran 2 ac adran 3. Gellir gwneud hyn drwy glicio’r Troedyn yn adran 2 ac adran 3 ar wahân a chlicio ‘Cysylltu i’r Un Blaenorol’ yn y tab ‘Pennyn a Throedyn’.
Nawr, gallwn ddechrau ychwanegu rhifau tudalennau (bron yna!)
Ychwanegu Rhifau Rhufeinig
Sgroliwch yn ôl i Dudalen 2 a dwbl-gliciwch ar ran gwaelod y sgrin er mwyn rhoi’r troedyn, yna ewch draw i gwymplen ‘Rhif Tudalen’ tuag at y chwith eithaf ac yna clicio ‘Rhif Tudalen’.
Wedi clicio ‘Rhif Tudalen’ bydd deialog newydd yn cael ei arddangos, a phan fydd yn cael ei arddangos, cliciwch y gwymplen o dan ‘Aliniad’ (dylai hwnnw ddweud ‘De’ yn ddiofyn), a newidiwch yr opsiwn i’r Canol’ ac yna cliciwch ‘Fformatio’ ar y dde yn y gwaelod.
Pan mae’r deialog newydd yn llwytho, cliciwch yr opsiwn ‘Dechrau ar’ tuag at waelod y deialog, a gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud ‘1’, yna cliciwch y gwymplen ‘Fformat Rhif:’, ei newid i Rifau Rhufeinig (i, ii, iii), ac yna clicio ‘Iawn’ ar y deialog ‘Fformat Rhif Tudalen’, ac yna ‘Iawn’ eto er mwyn cau’r deialog ‘Rhifau Tudalen’.
Wedi i chi glicio ‘Iawn’, sgroliwch drwy eich dogfen er mwyn gwneud yn siŵr bod y rhifau Rhufeinig yn cyfrif i fyny hyd at ‘Adran 3’ (y dudalen olaf)
Dychwelyd i rifau arferol
Nawr eich bod wedi cadarnhau bod gennych rifau Rhufeinig yn rhedeg hyd at y dudalen olaf, gallwn bellach ychwanegu eich cyfres derfynol o rifau tudalennau.
Sgroliwch i lawr i’r dudalen olaf a dwbl-gliciwch er mwyn rhoi’r Troedyn (a ddylai fod yn wag) a dilyn yr un camau er mwyn ychwanegu rhif tudalen.
Cliciwch yr opsiwn ‘Rhif Tudalen’ tuag at y chwith eithaf, acyna clicio ‘Rhif Tudalen’.
Wedi clicio ‘Rhif Tudalen’ bydd deialog newydd yn cael ei arddangos, a phan fydd yn cael ei arddangos, cliciwch y gwymplen o dan ‘Aliniad’ (dylai hwnnw ddweud ‘De’ yn ddiofyn), a newidiwch yr opsiwn i’r Canol’ ac yna cliciwch ‘Fformatio’ ar y dde yn y gwaelod.
Pan mae’r deialog yn llwytho, cliciwch yr opsiwn ‘Dechrau ar’ tuag at waelod y deialog, a gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud ‘1’, yna clicio ‘Iawn’ ar y deialog ‘Fformat Rhif Tudalen’, ac yna ‘Iawn’ eto i gau’r deialog ‘Rhifau Tudalen’.
Mae eich rhifau tudalen nawr wedi eu gosod. Y cam olaf yw analluogi’r ‘Marciau Paragraff’ ac wrth gwrs, cadw eich dogfen os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes.
Yn gyntaf, caewch eich ‘Pennyn a Throedyn’ os nad yw eisoes wedi’i gau, ac yna, yn y tab ‘Hafan’, cliciwch yr un eicon o symbol ‘P’ o chwith yn y gornel uchaf ar y chwith y grŵp ‘Paragraff’ er mwyn diffodd y ‘Marciau Paragraff’.
A dyna ni, wedi gorffen! Arbedwch eich dogfen i’ch OneDrive myfyriwr (fel ei fod yn cael ei gadw) ac rydych yn barod i ddechrau gweithio ar eich traethawd hir.
Dileu ac Ychwanegu tudalennau (Dewisol)
Fel y crybwyllwyd ar y dechrau, yn dibynnu ar faint o benawdau sydd eu hangen arnoch, mae’n bosib eich bod wedi mewnosod gormod o dudalennau, neu ddim digon ar gyfer yr adran rhifau Rhufeinig, ac os felly, y ffordd rwyddaf i ddatrys hyn yw drwy alluogi’r‘Marciau Paragraff’ unwaith eto (gweler yr uchod am y camau).
Gyda’r ‘Marciau Paragraff’ ymlaen, byddwch yn gallu gweld lle mae eich Toriad Tudalen ac Adran, sef sut y byddwn yn ychwanegu neu ddileu tudalennau.
Ychwanegu tudalennau
Os ydych angen mewnosod mwy o dudalennau o fewn yr adran rhifau Rhufeinig, sgroliwch i fyny i dudalen cyn y toriad adran, er enghraifft ‘Tudalen 3 neu 4’, yna cliciwch cyn y ‘Marc Paragraff’ (uwchben y llinell ‘Toriad Tudalen’), ac yna ewch draw i’r tab ‘Mewnosod’ a chlicio ‘Tudalen Wag’.
Dylech nawr weld bod tudalen newydd wedi’i hychwanegu, sgroliwch i lawr i’r dudalen olaf er mwyn gwneud yn siŵr bod y rhifau Rhufeinig yn dal i gyfrif yn gywir a bod eich rhifau safonol hefyd yn dal i ddechrau ar 1 ac nad ydynt wedi newid mewn unrhyw ffordd.
Dileu tudalennau
Gyda’r ‘Marciau Paragraff’ ymlaen, byddwch yn gallu gweld lle mae eich Toriad Tudalen ac Adran, sef sut y byddwn yn ychwanegu neu ddileu tudalennau.
Os ydych angen dileu rhai tudalennau o fewn yr adran rhifau Rhufeinig, sgroliwch i fyny i dudalen cyn y toriad adran, er enghraifft ‘Tudalen 3 neu 4’ yna gosodwch gyrchwr eich llygoden ar ddiwedd y llinell ‘Toriad Tudalen’, ond cyn y ‘P’ o chwith a chliciwch, fel eich bod yn gweld llinell sy’n blincio ar y lleoliad hwnnw.
Pwyswch y fysell BACKSPACE ar eich bysellfwrdd er mwyn dileu’r toriad tudalen, efallai na fydd yn edrych fel pe bai unrhyw beth wedi digwydd, fodd bynnag, os ydych yn sgrolio i lawr, dylech weld bod gennych un dudalen yn llai.
Wedi i chi wneud hyn, mae’n bosib y byddwch angen pwyso'r fysell ôl dwy neu fwy o weithiau er mwyn diddymu’r gofod uwchben y dudalen, ond dim ond os oes bwlch mawr ar frig y dudalen.
Toriadau Adran
Diweddariad diwethaf: Oct 8, 2025 4:14 PM