Newid Arddulliau (Normal, Penawdau, etc.)
Newid Arddulliau
Ar y dudalen hon, byddwch yn dysgu sut i addasu arddulliau yn Microsoft Word, o’r hyn ydyn nhw, i sut i wneud i’r arddulliau edrych fel rydych chi’n dymuno.
Detholiad OS
Edrych ar hyn o bryd ar: Ganllawiau ar gyfer yr apiau Windows Pen Desg.
Newid Arddulliau
Yn gyntaf, beth yw ‘Arddulliau’? Disgrifir ‘Arddulliau’ gan Microsoft fel testun gyda ‘Nodweddion Fformatio’ (Microsoft, 2024) penodol, sy’n golygu eu bod yn fformatio eich testun mewn ffordd benodol gyda’r newidiadau fformatio hynny, er enghraifft, ‘Pennawd’.
Cyfeirnod: Microsoft (2024), The Styles advantage in Word. Ar gael o: https://bit.ly/stylesMS . [Cyrchwyd 9ed Ionawr 2025.]
Sut i ddefnyddio arddull:
Yn gyntaf, os nad oes gennych chi bennawd eisoes, teipiwch eich pennawd (er enghraifft ‘Cyflwyniad’) ac yna ei uwcholeuo, neu os oes gennych chi bennawd yn barod, uwcholeuwch y pennawd hwnnw, yna ewch draw i’r rhestr arddulliau ar y tab ‘Hafan’ a dewiswch ‘Pennawd 1’.
Dylai eich testun wedyn newid i’r testun mwy o faint mewn ffont glas.
Sut i addasu arddull:
Er mwyn addasu arddull, cliciwch i’r dde ar un o’r arddulliau, yn yr achos hwn, cliciwch i’r dde ar ‘Pennawd 1’, ac yna dewiswch 'Addasu' pan mae’r ddewislen clicio i’r dde yn agor.
Pan mae deialog ‘Addasu’ yn agor, cewch eich cyflwyno gydag ychydig o osodiadau, yr unig osodiadau rydym ni angen eu newid yw lliw y ffont (i ddu), y ffont (i Arial), , ac yn dibynnu ar yr hyn allai eich llawlyfr modiwl neu ddarlithydd ei ddweud, mae’n bosib y byddwch angen addasu maint y ffont hefyd.
Cliciwch y gwymplen sydd â bar lliw glas/hir a newidiwch y lliw i ‘Du’.
Cliciwch y gwymplen ffont a’i newid i ‘Arial’. (Os oes angen, cliciwch ar y gwymplen maint ffont er mwyn newid maint y ffont i’r maint sydd ei angen.)
Wedi i chi newid y gosodiadau hyn, , cliciwch ‘Iawn’, a byddwch yn sylwi bod eich pennawd wedi’i ddiweddaru gyda’r ffont a’r lliw newydd.
Gellir dilyn yr un camau ar gyfer arddulliau eraill gan gynnwys ‘Normal’, a argymhellir fel y gallwch gadw eich testun i gyd yn y fformat/arddull cywir.
Er mwyn gwneud hyn, cliciwch i’r dde ar yr arddull ‘Normal’ (dewiswch Addasu), a phan mae’r un deialog yn llwytho, gallwch ei ddefnyddio i addasu eich Ffont, Maint Ffont ac aliniad.
Sut i ddefnyddio arddull:
Yn gyntaf, os nad oes gennych chi bennawd eisoes, teipiwch eich pennawd (er enghraifft ‘Cyflwyniad’) ac yna ei uwcholeuo, neu os oes gennych chi bennawd yn barod, uwcholeuwch y pennawd hwnnw, yna ewch draw i’r rhestr arddulliau ar y tab ‘Hafan’ a dewiswch ‘Pennawd 1’.
Dylai eich testun wedyn newid i’r testun mwy o faint mewn ffont glas.
Sut i addasu arddull:
Er mwyn addasu arddull, daliwch y fysell ‘rheoli’ ar eich Mac i lawr a chliciwch ar un o’r Arddulliau (’Pennawd 1’), neu, os oes gennych chi lygoden 3 botwm, (clicio i’r chwith ac i’r dde ac olwyn sgrolio), cliciwch i’r dde ar un o’r arddulliau, yn yr achos hwn, cliciwch i’r dde ar ‘Pennawd 1’, ac yna dewiswch 'Addasu', pan mae’r ddewislen clicio i’r dde yn agor.
Pan mae deialog ‘Addasu’ yn agor, cewch eich cyflwyno gydag ychydig o osodiadau, yr unig osodiadau rydym ni angen eu newid yw lliw y ffont (i ddu), y ffont (i Arial), , ac yn dibynnu ar yr hyn allai eich llawlyfr modiwl neu ddarlithydd ei ddweud, mae’n bosib y byddwch angen addasu maint y ffont hefyd.
Cliciwch y gwymplen sydd â bar lliw glas/hir a newidiwch y lliw i ‘Du’.
Cliciwch y gwymplen ffont a’i newid i ‘Arial’.
Wedi i chi newid y gosodiadau hyn, , cliciwch ‘Iawn’, a byddwch yn sylwi bod eich pennawd wedi’i ddiweddaru gyda’r ffont a’r lliw newydd.
Gellir dilyn yr un camau ar gyfer arddulliau eraill gan gynnwys ‘Normal’, a argymhellir fel y gallwch gadw eich testun i gyd yn y fformat/arddull cywir.
Er mwyn gwneud hyn, daliwch y fysell ‘Rheoli’ i lawr, a chliciwch ar yr arddull ‘Normal’ (neu cliciwch i’r dde os oes gennych chi lygoden sy’n gallu gwneud hyn) er mwyn agor dewislen clicio i’r dde (dewiswch Addasu), ac yna pan mae’r un ddewislen yn llwytho, gallwch ei ddefnyddio i addasu eich Ffont, Maint Ffont ac aliniad.
Sut i ddefnyddio arddull:
Yn gyntaf, os nad oes gennych chi bennawd eisoes, teipiwch eich pennawd (er enghraifft ‘Cyflwyniad’) ac yna ei uwcholeuo, neu os oes gennych chi bennawd yn barod, uwcholeuwch y pennawd hwnnw, yna ewch draw i’r gwymplen nesaf at y gair ‘Normal’ ac yna dewis ‘Pennawd 1’ o’r rhestr.
Sut i addasu arddull:
Ar fersiwn ar-lein Word, yn anffodus nid yw’n bosib ‘Addasu’ arddulliau yn yr un ffordd ag y byddech ar apiau pen desg, fodd bynnag, mae modd cynnig datrysiad i hyn lle gallwch ddewis ‘Diweddaru’ yr arddulliau, sef beth fyddwn ni’n ei ddefnyddio yn lle hynny.
Yn gyntaf, uwcholeuwch y pennawd rydych chi wedi’i greu, ac yna addaswch y ffont a lliw y ffont i Arial a Du yn y drefn yna (gweler y dudalen'Fformatio Sylfaenol' os nad ydych yn sicr sut i wneud hyn), unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, cliciwch yr un gwymplen arddulliau i arddangos rhestr o arddulliau, ac yna drwy hofran dros y saeth sy’n cyfeirio i’r dde, cliciwch 'Diweddaru arddull i gyd-fynd gyda'r detholiad'.
Unwaith rydych chi wedi gwneud hyn, byddwch yn derbyn hysbysiad sy’n dweud bod yr arddull wedi’i ddiweddaru ar gyfer y ddogfen hon.
Gellir dilyn yr un camau ar gyfer arddulliau eraill gan gynnwys ‘Normal’, a argymhellir fel y gallwch gadw eich testun i gyd yn y fformat/arddull cywir.
Er mwyn gwneud hyn, dechreuwch deipio ychydig o destun, ac addasu’r ffont, maint y ffont a’r aliniad, ac ynacliciwch yr un gwymplen arddulliau i arddangos y rhestr o arddulliau, ac yna drwy hofran dros y saeth sy’n wynebu i’r dde cliciwch,'Diweddaru arddull i gyd-fynd gyda'r detholiad'.
Diweddariad diwethaf: Oct 8, 2025 4:14 PM
