Neidio i'r Prif Gynnwys

Penawdau

Detholiad OS

  Awgrym: Defnyddiwch hwn i newid y cyfarwyddiadau ar gyfer eich dyfais benodol (bydd yn cadw eich gosodiad yn awtomatig)

  Penawdau

Yn gyntaf, beth yw 'Penawdau'? Yn debyg i’r hyn rydych chi wedi bod yn ei weld drwy ein canllawiau ac yn debyg i’r 'Penawdau' Word uchod yn y bar glas tywyll, mae yna fersiynau mwy o destun sydd yn cael eu defnyddio i wahaniaethu rhwng paragraff safonol o destun a theitl/pennawd y paragraff hwnnw..

Er enghraifft, edrychwch ar y gair ‘Senario’ (islaw hwn a’r paragraff nesaf), drwy weld y pennawd hwnnw, mae’n dangos bod yr adran/paragraff cyfredol wedi dod i ben, a bod yna bwnc newydd yn dechrau o dan y pennawd 'Senario'.

Felly pam fyddai angen i ni ddefnyddio’r rhain? Prif bwrpas Pennawd yn Word yw ei gwneud hi’n haws i ni greu ein Tabl Cynnwys, gan fod Word yn chwilio am destun gyda’r arddull ‘Pennawd’ wedi’i gymhwyso iddo ac yna’n creu rhestr o’r holl benawdau yma gyda rhifau tudalennau yn awtomatig; mae hyn yn cael ei egluro yn y canllaw nesaf (sydd ynghylch Tabl Cynnwys).

Senario:
Dychmygwch eich bod wedi dod o hyd i bapur rydych chi am ei ddarllen fel rhan o’ch astudiaethau, ond pan rydych chi’n ei agor, does dim tabl cynnwys, a dim penawdau, dim ond tudalen ar dudalen o destun, a fwy na thebyg, mae’n mynd i fod yn anodd dod o hyd i’r hyn rydych chi ei angen; yn Word nid yn unig mae’r arddull Penawdau yn cael eu defnyddio i newid arddull eich testun, ond i wahanu eich paragraffau a galluogi i Word adnabod beth i’w roi yn eich Tabl Cynnwys.

  Noder: Os wnaethoch chi ddilyn y camau yn y canllaw blaenorol (addasu arddulliau), does dim angen i chi ddilyn y camau isod, gan fod y camau yr un fath, dim ond eich bod yn hepgor y cyfarwyddiadau addasu.

Sut i ddefnyddio arddull:

Yn gyntaf, os nad oes gennych chi bennawd eisoes, teipiwch eich pennawd (er enghraifft ‘Cyflwyniad’) ac yna ei uwcholeuo, neu os oes gennych chi bennawd yn barod, uwcholeuwch y pennawd hwnnw, yna ewch draw i’r rhestr arddulliau ar y tab ‘Hafan’ a dewiswch ‘Pennawd 1’. (Os hoffech chi greu is-bennawd, gallwch ddethol 'Pennawd 2')

  Awgrym: Os nad ydych chi’n gweld y rhestr arddulliau, mae’n bosib y bydd o dan is-ddewislen o’r enw ‘Arddulliau’, cliciwch hwn yn gyntaf. (Gellir canfod sgrin-lun o dan y sgrin-lun isod)
Sgrin-lun o’r tab ‘Hafan’ yn Word, yn arddangos lleoliad y grŵp arddulliau.

Sgrin-lun o’r tab ‘Hafan’ yn Word, yn arddangos lleoliad yr is-fwydlen ‘Arddulliau’, sydd wedi’i hymestyn i arddangos y rhestr o arddulliau.

Yn gyntaf, os nad oes gennych chi bennawd eisoes, teipiwch eich pennawd (er enghraifft ‘Cyflwyniad’) ac yna ei uwcholeuo, neu os oes gennych chi bennawd yn barod, uwcholeuwch y pennawd hwnnw, yna ewch draw i’r gwymplen nesaf at y gair ‘Normal’ ac yna dewis ‘Pennawd 1’ o’r rhestr. (Os hoffech chi greu is-bennawd, gallwch ddethol 'Pennawd 2')

Sgrin-lun o’r tab ‘Hafan’ yn Word, yn arddangos lleoliad y gwymplen ‘Arddulliau’, sydd wedi’i hymestyn i arddangos yr arddull Pennawd 1.

Diweddariad diwethaf: Oct 8, 2025 4:14 PM