Neidio i'r Prif Gynnwys

Fformatio Sylfaenol (Ffont, Maint Ffont & Gofod rhwng Llinellau)

Fformatio Sylfaenol

Ar y dudalen hon, byddwch yn dysgu hanfodion fformatio mewn Word, o newid y ffont, maint y ffont, lliw, safle’r paragraff, a bylchau rhwng llinellau.

Ar gyfer fformatio mwy cymhleth, ewch draw i’r canllaw 'Newid Arddulliau' fydd yn dangos i chi sut i addasu’r arddulliau ‘Normal’ a ‘Pennawd’, er mwyn addasu’r holl fformatio ar yr un pryd.

Detholiad OS

  Awgrym: Defnyddiwch hwn i newid y cyfarwyddiadau ar gyfer eich dyfais benodol (bydd yn cadw eich gosodiad yn awtomatig)

  Newid y Ffont

Ewch draw i'r tab ‘Hafan’ a chlicio ar hyd y blwch cwymplen a fydd yn dweud rhywbeth tebyg i 'Aptos' 'Arial' neu 'Calibri', a dewiswch ffont newydd pan mae’r gwymplen yn llwytho fel y dangosir isod. (Argymhellir Arial)

Sgrin-lun o’r tab ‘Hafan’ yn Word, yn arddangos lleoliad y gwymplen ffont sydd wedi’i hymestyn.

  Newid Maint y Ffont

Ewch draw i'r tab ‘Hafan’ a chlicio ar hyd y blwch cwymplen, (y drws nesaf i’r detholiad ffont presennol) sy’n cynnwys rhifau, a dewiswch faint ffont newydd. (Argymhellir 11 neu 12)

Sgrin-lun o’r tab hafan yn Word, yn arddangos lleoliad y gwymplen maint ffont, sydd wedi’i hymestyn, gyda 12 wedi’i uwcholeuo.

  Newid Lliw y Ffont

 NODYN PWYSIG: Dim ond os ydych chi angen newid testun sydd wedi'i gopïo yn ôl yn ddu, neu os ydych chi angen lliwio testun at bwrpas cyfeirio y mae’r cam hwn wedi’i gynnwys. Dylech OSGOI defnyddio unrhyw liw yn eich dogfennau os gwelwch yn dda oni bai y nodir eich bod yn gallu gwneud hynny, gan y gallech golli marciau am wneud hynny.

Ewch draw i’r tab ‘Hafan’ a chlicio’r saeth sy’n cyfeirio i lawr i’r dde o’r eicon sydd â phrif lythyren ‘A’ sydd â llinell liw oddi tani (fel arfer llinell goch drwchus), pan mae’r gwymplen yn llwytho, dewiswch liw newydd os oes angen, ond y lliw du diofyn sydd orau.

Sgrin-lun o’r tab ‘Hafan’ yn Word, yn arddangos lleoliad y gwymplen lliw ffont, sydd wedi’i hymestyn.

  Bylchau Rhwng Llinellau

Ewch draw i’r tab ‘Hafan’ a chlicio’r eicon saeth yn cyfeirio at i fyny ac i lawr gyda llinellau nesaf ato, bydd cwymplen yn o lle gallwch ddewis eich bwlch rhwng llinellau fesul .5. (Argymhellir bwlch llinell o naill ai 1.5 neu 2.0)

Sgrin-lun o’r tab ‘Hafan’ yn Word, yn arddangos lleoliad y gwymplen ffont sydd wedi’i hymestyn ac sydd â dau bwynt sero wedi’i uwcholeuo.

    Alinad Paragraph

Ewch draw i’r tab ‘Hafan’ ac edrychwch am yr eiconau llinellau niferus sydd wedi’u pentyrru mewn gwahanol safleoedd (chwith, canol, de, unioni), a dewiswch yr aliniad priodol sydd ei angen arnoch (Chwith sydd orau ar gyfer pob lefel o astudiaeth, lle gall lefel 6 a 7 ofyn am ‘Unioni’, gwiriwch eich llawlyfr modiwl os gwelwch yn dda neu ofyn i’ch darlithydd gadarnhau’r aliniad sydd ei angen).

 Noder: Sicrhewch fod eich testun wedi’i uwcholeuo pan fyddwch yn clicio’r opsiwn aliniad, fel arall mae’n bosib na chaiff ond ei gymhwyso i’r darn nesaf o destun y byddwch yn ei ysgrifennu.

Sgrin-lun o’r tab ‘Hafan’ yn Word, yn arddangos lleoliad y gwymplen aliniad ffont, gyda’r aliniad i’r chwith wedi’i ddewis ar hyn o bryd.

Ewch draw i’r tab ‘Hafan’ a chlicio’r eicon saeth yn cyfeirio at i fyny ac i lawr gyda llinellau nesaf ato (a allai ymddangos o dan fotwm gyda thri dotyn nesaf i’r gair ‘Normal’),, dylai dewislen gwympo yma lle gallwch ddewis eich bwlch rhwng llinellau fesul .5.

Sgrin-lun o’r tab ‘Hafan’ yn Word, yn arddangos lleoliad dewislen y tri dotyn, sydd wedi’i hymestyn; mae’r gwymplen bylchau rhwng llinellau hefyd wedi ei hofran drosti, ac mae wedi'i hymestyn gyda’r rhif 2 wedi’i uwcholeuo.

    Alinad Paragraph

Ewch draw i’r tab ‘Hafan’ ac edrych am eicon llinellau niferus wedi’u pentyrru mewn gwahanol safleoedd (a allai ymddangos fel cwymplen), yna cliciwch er mwyn dewis yr aliniad priodol sydd ei angen arnoch.

 Noder: Sicrhewch fod eich testun wedi’i uwcholeuo pan fyddwch yn clicio’r opsiwn aliniad, fel arall mae’n bosib na chaiff ond ei gymhwyso i’r darn nesaf o destun y byddwch yn ei ysgrifennu.

Sgrin-lun o’r tab ‘Hafan’ yn Word, yn arddangos lleoliad y gwymplen aliniad ffont, sydd wedi’i hymestyn ar hyn o bryd, gyda’r aliniad i’r chwith wedi’i ddewis ar hyn o bryd.

Diweddariad diwethaf: Oct 8, 2025 4:14 PM