Darllen a Chymryd Cofnodion
Ar y dudalen hon:
- Pwysigrwydd cymryd nodiadau da
- Darllen beirniadol
- Enghraifft o gymryd nodiadau
- Cynllunio PEA
- Cymryd nodiadau gwych
Mae gallu cymryd nodiadau wrth ymchwilio yn sgil hanfodol y bydd angen i chi ei datblygu tra yn y brifysgol. Bydd gan bob myfyriwr dechneg wahanol o ran cymryd nodiadau, ac mae'n bwysig eich bod chi'n dod o hyd i'r dechneg gywir i chi.
Pwysigrwydd cymryd nodiadau da
I’ch rhoi ar ben ffordd, darllenwch drwy ein hawgrymiadau gorau ar gyfer cymryd nodiadau o ansawdd da:
• Cofiwch gadw nodyn o'ch ffynonellau i'ch helpu i lunio'ch rhestr gyfeiriadau.
• Peidiwch â chymryd nodiadau yn unig, cymerwch nodiadau gwych! Ceisiwch grynhoi themâu, damcaniaethau, enghreifftiau ac esboniadau allweddol yn eich geiriau eich hun ac mewn ffordd sy’n eich galluogi i’w ddeall a’i egluro pan ddaw’n amser ysgrifennu.
• Ceisiwch drefnu eich deunydd wrth fynd ymlaen, gan gysylltu syniadau a safbwyntiau cyferbyniol lle bo'n briodol. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi ailadrodd, bod yn glir am eich dadl a chreu llif da o fewn prif gorff eich aseiniad wrth i chi ddechrau ysgrifennu.
Darllen beirniadol
Darllen beirniadol
Wrth ddarllen darn o waith academaidd, fel erthygl mewn cyfnodolyn neu bennod mewn llyfr, mae'n help i gymhwyso cyfres o gwestiynau iddo. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn ymgysylltu mewn darllen beirniadol a dadansoddol yn eich ymchwil.
Nodwch yr hyn sy'n bwysig | • Beth yw'r syniadau, problemau, dadleuon, arsylwadau, canfyddiadau, casgliadau allweddol? • Pa dystiolaeth sydd yna? • Gwahaniaethwch rhwng ysgrifennu beirniadol a mathau eraill o ysgrifennu (ee disgrifiadol); ffaith rhag barn; rhagfarn rhag rhesymau |
Gwerthuso'r hyn yr ydych yn ei ddarganfod | • Archwiliwch y dystiolaeth – a yw'n argyhoeddi? • Pa ragdybiaethau sy'n cael eu gwneud a pha gasgliadau y deuir iddynt? • A oes ymgysylltu ag ymchwil berthnasol, gyfredol? • Pa mor briodol yw'r dulliau ymchwilio? • A oes rhesymu cyson a rhesymegol? • A oes unrhyw ddiffygion yn y ddadl? • Ydych chi'n cytuno â'r hyn sy'n cael ei ddweud? Pam? • Sut mae iaith yn cael ei defnyddio (emosiynol, rhagfarnllyd ac ati)? |
Edrychwch y tu hwnt i'r hyn rydych chi'n ei ddarllen / ei glywed | • Pa farn, dehongliadau a safbwyntiau eraill sydd yna? Beth yw'r dystiolaeth ar gyfer y rhain? Sut maen nhw'n cymharu? • Sut mae eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth flaenorol yn berthnasol i'r syniadau, canfyddiadau, arsylwadau hyn ac ati? • Beth yw goblygiadau'r hyn yr ydych yn ei ddarllen/glywed? |
Egluro eich safbwynt | • Pwyso a mesur yr ymchwil perthnasol yn y maes • Dod o hyd i resymau a thystiolaeth effeithiol dros eich barn • Dod i gasgliadau ar sail eich rhesymu • Egluro eich rhesymau gydag enghreifftiau effeithiol |
Enghraifft o gymryd nodiadau
Nawr mae'n debyg eich bod chi'n barod i ddechrau ymchwilio a chymryd nodiadau. Mae cymryd nodiadau da yn dechrau drwy ystyried y testun gwreiddiol ac ysgrifennu eich nodiadau eich hun (heb edrych ar y testun gwreiddiol!). Bydd hyn yn hwyluso'r broses o ysgrifennu paragraffau yn y prif gorff, gan helpu i greu pellter rhwng y gwreiddiol a'ch gwaith gorffenedig. Edrychwch ar yr enghraifft isod:
Testun gwreiddiol | Nodyn | Aseiniad Academaidd |
Mewn ystafelloedd dosbarth lle roedd athrawon yn gorfodi disgwyliadau ymddygiad yn gyson, roedd gwelliant nodedig yng nghanlyniadau myfyrwyr. Yn benodol, profodd yr ystafelloedd dosbarth hyn gynnydd o 20% mewn ymgysylltiad cyffredinol myfyrwyr a pherfformiad academaidd. |
Gwelodd athrawon a oedd yn gorfodi disgwyliadau ymddygiad yn gyson welliant o 20% mewn ymgysylltiad cyffredinol myfyrwyr a pherfformiad academaidd (Adran Addysg y DU, 2020). |
Yn ogystal, nododd adroddiad gan Adran Addysg y DU (2020) fod athrawon a oedd yn gorfodi disgwyliadau ymddygiad yn gyson wedi gweld gwelliant o 20% mewn ymgysylltiad cyffredinol myfyrwyr a pherfformiad academaidd. |
Cynllunio PEA
I'ch helpu i drefnu'ch nodiadau, gall y templed cynllunio PEA fod yn arf defnyddiol i'w ddefnyddio. Yma, gallwch drefnu eich nodiadau yn syniadau paragraff posibl yn yr adran TYSTIOLAETH. Edrychwch ar yr enghraifft isod:
Tasg:
Eglurwch bwysigrwydd gosod disgwyliadau rheoli ymddygiad clir mewn lleoliadau addysg.
Pwynt | Tystiolaeth 1 | Tystiolaeth 2 | Tystiolaeth 3 | Analysis |
Helpu i greu amgylchedd dosbarth cadarnhaol a chynhyrchiol |
|
|
|
|
Beth yw’r pwynt yr ydych yn ei wneud yn y paragraff hwn? | Dechreuwch adeiladu eich tystiolaeth | Ychwanegwch at eich tystiolaeth | Cynigiwch farn wahanol neu amgen | Beth felly? Pam fod y pwynt hwn yn bwysig? |
Cymryd nodiadau gwych
Byddwch yn bresennol
Er ei bod bob amser yn bwysig cymryd nodiadau, mae'n hawdd colli ffocws yn ystod darlith os ydych chi'n canolbwyntio'n rhy galed ar yr hyn rydych chi'n ei ysgrifennu. Mae'r rhan fwyaf o ddarlithoedd yn cael eu recordio y dyddiau hyn a'u postio ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Moodle) ond gwiriwch ymlaen llaw i sicrhau bod hyn yn digwydd. Cyn belled ag y gallwch, ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn sy'n cael ei ddweud yn ystod darlithoedd a chyfranogwch mewn trafodaethau grŵp i gynorthwyo dealltwriaeth o ddysgu newydd. Wedi hynny, gwrandewch ar y recordiad, gan oedi i grynhoi themâu allweddol yn eich geiriau eich hun a gwnewch nodiadau i'ch helpu i ysgrifennu aseiniadau ac i ysgogi ymchwil pellach.
Crynhowch eich dysgu
Yn dilyn ymchwil pellach a chymryd nodiadau, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi ailedrych ar eich nodiadau a'u crynhoi i fformat mwy hylaw a chofiadwy. Y nod yw gallu siarad am yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu o'ch ymchwil yn eich geiriau eich hun ac yn y pen draw ysgrifennu amdano. Mae'n bwysig arbrofi nes i chi ddod o hyd i rywbeth sy'n gweithio i chi. Dyma rai awgrymiadau:
Cardiau fflach | Defnyddiwch y ddwy ochr. Ar un ochr, cofnodwch y testun, er enghraifft, 'Sut mae plant yn dysgu trwy chwarae' ac ar yr ochr arall, cynhwyswch fanylion damcaniaethwyr allweddol, dyddiadau a chrynodebau o'u gwaith. |
Amserlen | Defnyddiol ar gyfer deall dilyniant o ddigwyddiadau hanesyddol, er enghraifft, mudiadau celf allweddol. |
Diagramau a siartiau llif | Defnyddiol ar gyfer deall prosesau cymhleth, er enghraifft, llif y gwaed o amgylch y corff neu gydrannau sylfaenol hylosgiad mewnol. |
Papur mawr | Gan ddefnyddio dalen A3 mewn cyfeiriadedd tirwedd, ysgrifennwch neu gludwch friff eich aseiniad ar y brig ac yna crëwch is-benawdau ar draws y dudalen ar bynciau neu brif ddadleuon yr hoffech eu cwmpasu. Yna, gwnewch nodiadau byr o dan bob is-bennawd. |
Lliw | Gall fod yn ddefnyddiol defnyddio ysgrifbinnau, papur neu nodiadau post-it mewn gwahanol liwiau i drefnu a grwpio'ch nodiadau a'ch syniadau. |
Ystyriwch fanteision dyfeisiau digidol
Er bod ymchwil yn awgrymu bod cymryd nodiadau â llaw yn fwy effeithiol na'i wneud yn ddigidol, mae manteision i'w hennill o wneud recordiadau sain a defnyddio ystorfeydd canolog i storio pethau fel nodiadau testun, i wneud rhestrau a delweddau. Gall hyn hefyd ei gwneud hi'n haws chwilio trwy'ch nodiadau i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer rhannu adnoddau os ydych yn gweithio mewn grŵp.
Diweddariad diwethaf: May 19, 2025 3:52 PM