Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwerthuso Gwybodaeth

Ar y dudalen hon:

  • Gwerthuso Gwybodaeth

Yn y Brifysgol bydd disgwyl i chi gymryd cyfrifoldeb dros eich dysg eich hun – i ddod yn ddysgwr annibynnol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu sgiliau allweddol, gan gynnwys rheoli amser a sgiliau trefnu, darllen effeithiol a chymryd nodiadau, a deall anghenion astudio academaidd. Mae cefnogaeth ac arweiniad ar bob agwedd o astudio academaidd yn y tudalennu hyn.

Gwerthuso Gwybodaeth

Pan fyddwn yn dweud “gwerthuso gwybodaeth”, rydym yn golygu ymchwilio mewn gwahanol ffyrdd, nid cymryd y wybodaeth yn llythrennol.

Rhai pethau i feddwl amdanynt wrth werthuso’r wybodaeth.

A - Amserol.  Pa bryd y cyhoeddwyd y llyfr neu’r erthygl? A oes angen darganfod gwybodaeth o’r 5 mlynedd ddiwethaf?

P - Perthnasol. Pa mor berthnasol yw’r wybodaeth ar gyfer eich aseiniad neu bwnc? Efallai fod pennod o’r llyfr yn ddiddorol, ond a ydych yn crwydro oddi ar y trywydd? Cofiwch ganolbwyntio ar bynciau sy’n cyd-fynd â’ch aseiniad.

C - Cywirdeb. A yw’r wybodaeth yn gywir? Ydych chi’n gallu ei ddilysu? A oes unrhyw wallau amlwg? Mae’n bwysig bod yn hyderus fod y wybodaeth yn ddilys.

A - Awdurdod. Pwy yw awdur y wybodaeth? A ydynt yn arbenigo yn y maes? A gychwynwyd y blog fis yn ôl? A oes ganddynt brofiad bywyd o’r pwnc? Chwiliwch am wybodaeth arall gan yr awdur, er mwyn penderfynu a yw’n ffynhonnell ddibynadwy.

P - Pwrpas. Beth yw pwrpas yr erthygl? Pam y cafodd ei hysgrifennu? A yw’r awdur yn ceisio’ch perswadio, neu a yw’r wybodaeth yn olwg gytbwys ar y pwnc?  Os yw gwybodaeth yr awdur yn deillio o brofiad bywyd, tybed a oes rhagfarn amlwg? Beth mae’r awdur yn ceisio’i ddweud?

Diweddariad diwethaf: May 19, 2025 3:52 PM