Neidio i'r Prif Gynnwys

Ar y dudalen hon:

  • Beth yw cyfeirio?
  • Pam ddylech chi gyfeirio?
  • Pum awgrym ardderchog ar gyfer datblygu sgiliau cyfeirio da

Beth yw cyfeirio?

Beth yw cyfeirio?

Dylech ddefnyddio llenyddiaeth academaidd neu wybodaeth berthnasol arall i ategu eich gwaith. Bydd hyn yn cryfhau eich dadleuon ac yn rhoi gwerth academaidd clir i’ch gwaith. Gall y ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwch gynnwys llyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion, papurau newydd, cyhoeddiadau’r llywodraeth, adroddiadau gan sefydliadau, gwefannau, fideos, rhaglenni cyfrifiadurol ac ati.

Wrth gyfeirio, bydd angen ichi gyfeirio at (neu ddyfynnu) gwaith pobl eraill i gydnabod eich bod wedi defnyddio syniadau rhywun arall i ategu eich dadleuon. Bydd y testun ei hun wastad yn cynnwys marc i ddangos pa ddarn o waith sy’n seiliedig ar ryw ffynhonnell. Yna, byddwch yn nodi’r manylion llawn yn y rhestr gyfeirio ar ddiwedd yr aseiniad.

Pam ddylech chi gyfeirio?

 

Osgoi llên-ladrad

Yn syml, ystyr llên-ladrad yw defnyddio gwaith, geiriau neu syniadau rhywun arall heb gydnabod y ffynhonnell wreiddiol. Gall llên-ladrad arwain at ganlyniadau difrifol, fel methu’r aseiniad neu gamymddwyn academaidd. Er mwyn osgoi hyn, ni waeth be fo’r ffynhonnell wreiddiol, rhaid ichi gynnwys dyfyniad yn eich gwaith a rhaid ichi nodi manylion llawn y ffynhonnell yn y rhestr gyfeirio ar ddiwedd y gwaith. 

Cryfhau eich gwaith ysgrifenedig

Trwy ddefnyddio ffynonellau academaidd da, byddwch yn cryfhau eich gwaith academaidd eich hun trwy ddangos y gallwch ddehongli a deall lleisiau academaidd eraill. Byddwch yn dangos i’r marciwr eich bod wedi ymgysylltu â llenyddiaeth academaidd yn ymwneud â’r pwnc.

Ymgysylltu academaidd

Trwy ymgysylltu â llenyddiaeth, byddwch yn eich gosod eich hun o fewn y gymuned academaidd ehangach. Byddwch yn dangos i’ch marciwr eich bod wedi deall a chydnabod gweithiau a luniwyd yn y gorffennol yn eich disgyblaeth, a hefyd byddwch yn dangos y modd y mae eich cyfraniad chi’n rhan o drafodaeth academaidd.

Trwy gyfeirio at eich ffynonellau, bydd modd ichi ddangos eich bod yn ymgysylltu â’r trafodaethau academaidd sy’n rhan o’ch maes. A thrwy wneud hyn yn y ffordd gywir, bydd gan bobl eraill yn eich disgyblaeth (h.y. eich darlithwyr yn y lle cyntaf) hyder yn eich gwaith.

Pum Awgrym Ardderchog ar gyfer Datblygu Sgiliau Cyfeirio Da

 

  1. Cadwch nodyn o’r holl ffynonellau a ddefnyddiwch wrth ymchwilio. Gallwch wneud hyn mewn dogfen Word neu Google Docs, neu fel arall gallwch ddefnyddio meddalwedd fel RefWorks i’ch helpu i gadw cofnod o’ch ffynonellau.
  2. Cofiwch lunio cyfeiriad ar gyfer diagramau, delweddau, tablau, graffiau ac ati.
  3. Defnyddiwch amrywiaeth eang o ffynonellau, fel llyfrau, cyfnodolion, adroddiadau, cyhoeddiadau’r llywodraeth, deddfwriaeth ac ati, i ddangos i’ch marciwr eich bod wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o lenyddiaeth academaidd.
  4. Defnyddiwch y canllawiau CRAPP (link to resource) i’ch helpu i benderfynu a yw eich ffynhonnell yn ddibynadwy ac yn academaidd.
  5. Os byddwch yn llungopïo neu’n tynnu llun o dudalen mewn llyfr, cyfnodolyn ac ati, cofiwch wneud nodyn o’r ffynhonnell wreiddiol – bydd yn amhosibl dod o hyd iddi yn nes ymlaen!

 

Why reference?

Diweddariad diwethaf: May 19, 2025 3:52 PM