Neidio i'r Prif Gynnwys

Ar y dudalen hon:

  • Uniondeb Academaidd
  • Fideo – Beth yw uniondeb academaidd?
  • Dogfennau uniondeb academaidd

Mae uniondeb academaidd yn hanfodol er mwyn sicrhau safonau, ansawdd ac enw da unrhyw gymwysterau a enillwch, ac mae’n hanfodol hefyd i sector addysg uwch y DU. Mae uniondeb academaidd yn bwysig iawn i’r brifysgol; yn wir, mae’r brifysgol wedi ymrwymo i Siarter Uniondeb Academaidd y DU. I gael rhagor o wybodaeth am uniondeb academaidd a’r hyn sy’n ddisgwyliedig o’n myfyrwyr, darllenwch isod.

Uniondeb Academaidd


Fel un o fyfyrwyr Prifysgol Wrecsam, byddwch yn ymuno â’n cymuned academaidd a byddwch yn cyfrannu at y gymuned honno. Disgwylir ichi fabwysiadu gwerthoedd uniondeb academaidd a’r egwyddorion a ddylai dywys eich dysgu a’ch ysgrifennu academaidd. Mae’r egwyddorion hyn yn cynnwys:

  • Gonestrwydd – Byddwch yn agored ynglŷn â tharddiad eich syniadau a byddwch yn eu cydnabod yn ffurfiol trwy gyfeirio atynt.
  • Tegwch – Byddwch yn cyflwyno eich gwaith gwreiddiol eich hun ac ni fyddwch yn ceisio ennill mantais trwy ddefnyddio dulliau annheg.
  • Cyfrifoldeb – Byddwch yn gyfrifol am eich dysgu eich hun; mae hyn yn golygu eich bod yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn deall yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonoch a’ch bod yn deall gofynion academaidd eich modiwlau.
  • Parch – Byddwch yn parchu gweithiau pobl eraill, gan gydnabod y rhai a ddefnyddiwyd gennych i ategu eich gwaith eich hun.

Mae’n bwysig i’n holl fyfyrwyr ddeall pwysigrwydd uniondeb academaidd a’r egwyddorion hyn. Pe bai myfyriwr yn methu â dilyn yr egwyddorion hyn, gallai hynny arwain at honiadau o gamymddwyn academaidd ac yn y pen draw gallai arwain at eich tynnu o’r brifysgol. Efallai eich bod wedi dod ar draws cyngor neu ganllawiau gwahanol yn eich gwlad neu eich man astudio blaenorol, felly mae’n bwysig ichi wybod beth yw disgwyliadau Prifysgol Wrecsam. Gall myfyrwyr sy’n camymddwyn yn academaidd, yn enwedig os byddant yn twyllo’n fwriadol, wynebu canlyniadau difrifol a allai effeithio ar eu hastudiaethau academaidd a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.

 

Pwyntiau Allweddol i Fyfyrwyr

Fel myfyriwr, gallwch ategu eich uniondeb academaidd eich hun trwy gydnabod yn glir yr wybodaeth a ddefnyddiwch. Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio dulliau dyfynnu a chyfeirio cywir. Hefyd, dylai eich gwaith fod yn waith a luniwyd gennych chi a dylech ysgrifennu yn eich geiriau eich hun. Dyma rai pwyntiau allweddol y dylai myfyrwyr eu hystyried:

•    Mae myfyrwyr yn gyfrifol am uniondeb eu gwaith academaidd a’r hyn a ddysgant.
•    Trwy dderbyn egwyddorion uniondeb academaidd, bydd modd gwella eich gwaith academaidd a chewch y siawns orau o lwyddo.
•    Byddwch yn cael cymorth er mwyn sicrhau eich bod yn cynhyrchu gwaith ag uniondeb academaidd ac yn osgoi camymddwyn academaidd.
•    Ceir gwahanol fathau o gamymddwyn academaidd ac mae’n hanfodol ichi fod yn ymwybodol ohonynt.
•    Nid yw camymddwyn academaidd byth bythoedd yn dderbyniol.

 

Peidiwch â gadael i gamymddwyn ac uniondeb academaidd eich poeni – bydd y canllawiau uchod yn eich helpu i gynhyrchu gwaith priodol o’r radd flaenaf. Os ydych o’r farn eich bod angen rhagor o wybodaeth, neu os nad ydych yn deall pethau’n iawn, cysylltwch â’ch tiwtor personol, tiwtor eich modiwl neu arweinydd eich rhaglen. Mae’r dogfennau canlynol yn cynnwys canllawiau manylach ar uniondeb academaidd.

 

Canllawiau Ysgrifenedig

 

Beth yw Uniondeb Academaidd?

 

 

 

Mathau o Gamymddwyn Academaidd

Ceir gwahanol fathau o gamymddwyn academaidd, ac fel un o fyfyrwyr Prifysgol Wrecsam mae’n bwysig ichi fod yn gyfarwydd â nhw. Dyma’r gwahanol fathau o gamymddwyn academaidd:

•    Llên-ladrad
•    Cydgynllwynio
•    Ffugio data/tystiolaeth
•    Camymddwyn ymchwil
•    Twyllo contract – defnyddio melinau traethawd a Deallusrwydd Artiffisial
•    Twyllo mewn asesiadau a amserir (e.e. arholiadau a phrofion yn y dosbarth)

Ystyrir bod pob un o’r rhain yn groes i uniondeb academaidd a bydd y brifysgol yn eu cymryd o ddifrif. Os hoffech gael rhagor o gyngor ynglŷn â’r maes hwn, siaradwch â’ch staff academaidd.

Diweddariad diwethaf: May 19, 2025 3:52 PM