Neidio i'r Prif Gynnwys

Ar y dudalen hon

  • A ydych yn foregodwr ynteu’n hoff o aros ar eich traed yn hwyr?
  • Rhoi trefn ar eich amser
  • Oedi a gohirio
  • Trefnu nodiadau

 

Gall bod yn fyfyriwr yn y brifysgol fod yn ddigon â’ch llethu ar brydiau. Mae’n debyg y byddwch yn gorfod delio â dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno aseiniadau gydag ymrwymiadau teuluol ochr yn ochr â gwaith. Mae’r arweiniad isod yn cynnig rhai syniadau defnyddiol ynglŷn â sut i gynllunio a blaenoriaethu eich amser, er mwyn eich helpu i adennill rhywfaint o reolaeth. Byddwch angen amser i feithrin y sgiliau hyn – gorau arf arfer!

 

A ydych yn foregodwr ynteu’n hoff o aros ar eich traed yn hwyr?


Mae’r rhan fwyaf o bobl ar eu gorau ar ryw adeg benodol o’r dydd. Os ydych yn foregodwr (a dyna yw hanes y rhan fwyaf o bobl!), y boreau a hanner cyntaf y diwrnod fydd eich amser mwyaf cynhyrchiol. Mae pobl sy’n hoffi aros ar eu traed yn hwyr yn tueddu i weithio’n well yn y prynhawn a gyda’r nos. Mae’n bwysig ystyried beth sy’n gweithio i chi a defnyddio’r amser hwnnw’n effeithiol. Peidiwch â gwastraffu amser pan na fydd eich ymennydd ar ei orau!

Rhoi trefn ar eich amser

 

Os nad ydych yn drefnus iawn, gall rhoi trefn ar eich amser fod yn brofiad braidd yn frawychus. Un o’r ffyrdd symlaf o roi trefn ar eich amser yw defnyddio calendr. Os oes gennych ddyddiad cau, gallwch gynllunio am yn ôl o’r dyddiad cau hwnnw.

Ceisiwch ddilyn y rheolau hyn wrth gynllunio eich amser:

  • Cynlluniwch eich amser ymlaen llaw
  • Byddwch yn realistig ynglŷn â phryd y gallwch astudio
  • Trefnwch gyfnod amser synhwyrol

Dyma enghraifft o’r modd y gallwch ddefnyddio calendr i gynllunio eich amser.

Oedi a gohirio

Yn aml, pan fydd gan fyfyrwyr ddyddiad cau, byddant yn dechrau oedi a gohirio ac yn mynd ati i wneud popeth dan haul ar wahân i’r gwaith y mae angen ei wneud. Mae hyn yn digwydd yn amlach na’r disgwyl, a bydd llawer o fyfyrwyr yn gwylio fideos o gathod ar YouTube yn hytrach na gwneud eu gwaith! Er mwyn goresgyn y broblem hon, ystyriwch y canlynol:

Yr Amgylchedd

Gall yr amgylchedd y dewiswch weithio ynddo wneud gwahaniaeth mawr o ran pa mor llwyddiannus y byddwch a pha mor dda y bydd modd ichi ganolbwyntio. Ystyriwch yr awgrymiadau canlynol i’ch helpu:
 

•    Ewch ati i ddewis neu greu amgylchedd nad yw’n cynnwys pethau a all fynd â’ch sylw (neu cyfyngwch ar yr ymyriadau i’r graddau mwyaf posibl, e.e. trwy ddiffodd y teledu neu symud y golch o’r golwg).
•    Mae’n debyg bod eich ystafell yn llawn o bethau a all dynnu eich sylw. Pan fyddwch yn cael trafferth i ganolbwyntio, ystyriwch weithio yn rhywle arall.
•    Mae gan Lyfrgell y Brifysgol ardaloedd astudio hollol dawel (ar y llawr uchaf) a thawel (ar yr ail lawr). Gall bod mewn amgylchedd lle mae pobl eraill yn gweithio eich helpu i ganolbwyntio.

 

Y cyfryngau cymdeithasol

Mae gan y rhan fwyaf o bobl arferion yn ymwneud â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Gall yr arferion hyn fod yn gadarnhaol ac yn negyddol. Pan fydd angen ysgrifennu aseiniad neu baratoi gwaith, gall y cyfryngau cymdeithasol dynnu sylw myfyrwyr oddi ar eu gwaith. Ystyriwch yr awgrymiadau canlynol i’ch helpu:

  • Ystyriwch ddefnyddio dull atal apiau a fydd yn cyfyngu ar yr amser a dreuliwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gan y mwyafrif o ffonau symudol amserydd pwrpasol i’ch helpu i gyfyngu ar eich defnydd.
  • Diffoddwch eich hysbysiadau os oes modd (nid yw hyn bob amser yn bosibl). 
  • Trowch eich ffôn drosodd fel na fyddwch yn gweld golau’r hysbysiadau’n fflachio.
  • Ystyriwch pam ydych yn sgrolio trwy’r cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na chanolbwyntio ar eich aseiniad. A ydych angen cymorth? A ydych yn ansicr ynglŷn â briff yr aseiniad? Os felly, gofynnwch am help.

Planning

Blaenoriaethu

Ni waeth be fo’ch amcanion yn y brifysgol, cofiwch flaenoriaethu eich tasgau mewn ffordd sy’n addas i chi. Er enghraifft, bydd angen i rai myfyrwyr dreulio amser yn rheoli eu llesiant a’u hiechyd meddwl, a bydd hynny’n parhau i fod yn flaenoriaeth drwy gydol eu hamser yn y brifysgol. I fyfyrwyr eraill, efallai y bydd gweithgareddau allgyrsiol, fel chwaraeon neu glybiau cymdeithasol, yn flaenoriaeth; ac i fyfyrwyr eraill, efallai mai eu cymhwyster fydd eu prif flaenoriaeth.

Gwaith y brifysgol

Trwy ystyried y cwestiynau hyn, bydd modd ichi benderfynu sut i flaenoriaethu eich gwaith yn y brifysgol:

  • A fydd y gwaith yn cael ei gyflwyno ynteu a fydd yn cael ei asesu?
  • Pa ganran o radd y modiwl cyffredinol yw’r gwaith hwn?
  • Pa mor bwysig yw’r gwaith hwn?
  • Ar faint o frys y mae angen y gwaith hwn?
  • Faint o amser a gymerir i’w orffen?

Rhestrau o bethau i’w gwneud

 

  Pa un a ydych yn gwirioni ar restrau neu’n eu casáu, trwy lunio rhestr o’r pethau y mae angen eu gwneud bydd modd ichi gadw eich tasgau dan reolaeth. Bydd modd i’r pedwar awgrym ardderchog hyn eich helpu i reoli eich rhestr o bethau i’w gwneud.

  1) Lluniwch brif restr a rhestr ddyddiol. Yna, gallwch ddewis tasgau ar gyfer pob diwrnod a’u chwalu oddi ar y rhestr ar ôl eu cwblhau..

  2) Byddwch yn benodol gyda’ch tasgau, peidiwch â defnyddio ‘ysgrifennu aseiniad’, ‘darllen erthyglau o bapur dau’ neu ‘prawf-ddarllen y cyflwyniad’.

  3) Nodwch hyd at saith o bethau ar eich rhestr ddyddiol er mwyn sicrhau y bydd yn realistig ac y bydd modd ei chyflawni.

  4) Ewch ati i flaenoriaethu’r rhestr trwy ddefnyddio rhifau neu wahanol liwiau – beth bynnag sydd orau gennych.

Pomodoro

Mae techneg Pomodoro yn ffordd effeithiol o reoli eich amser astudio. Bydd y dechneg hon yn gweithio’n dda os cewch drafferth i ganolbwyntio am beth amser, oherwydd mae’n eich annog i gymryd egwylion byr yn aml er mwyn eich helpu i ganolbwyntio am gyfnod hwy.

Cam 1 – Penderfynwch ar dasg

Cam 2 – Gosodwch amserydd am 25 munud ac ewch ati i gael gwared â phethau a allai fynd â’ch sylw (trowch eich ffôn drosodd neu rhowch ef mewn drôr os oes modd)

Cam 3 – Gweithiwch ar eich tasg hyd nes y daw’r amserydd i ben

Cam 4 – Cymerwch egwyl am 5 munud, ystwythwch a symudwch oddi wrth eich gwaith

Cam 5 – Ailadroddwch hyn deirgwaith neu bedair gwaith, ac yna cymerwch egwyl a fydd yn para 15-30 munud fan leiaf

Mae gwahanol fersiynau o’r dull hwn ar gael ar-lein. Hefyd, gallwch ddod o hyd i fideos Pomodoro ar YouTube (cathod neu synau natur yw ein ffefrynnau ni!).

Cynllunio aseiniadau 

Cynllunio eich aseiniad yw’r cam cyntaf tuag at roi trefn ar eich astudiaethau. Cliciwch yma i weld y dudalen Awgrymiadau ar gyfer Cynllunio, lle cewch arweiniad ar sut i ddeall briff eich aseiniad a’r deilliannau dysgu.

Gwneud yn fawr o’ch nodiadau

Mae gwneud a rheoli nodiadau yn sgìl pwysig i’w ddysgu tra byddwch yn astudio yn y brifysgol. Gall myfyrwyr ddefnyddio pedair prif dechneg i wneud nodiadau.

Gwneud nodiadau ar sleidiau neu erthyglau

Dyma dechneg gyffredin y bydd myfyrwyr yn ei defnyddio pan fyddant mewn darlith neu’n darllen trwy destun. Mae’n golygu amlygu pwyntiau hollbwysig a gwneud nodiadau o’ch meddyliau a’ch syniadau ynglŷn â’r pwyntiau hynny. Yn aml, bydd angen ichi baratoi ar gyfer y ddarlith trwy argraffu’r sleidiau ymlaen llaw. Gall fod yn ffordd gyflym a hawdd o wneud nodiadau, ond dyma ffordd eithaf goddefol o wneud nodiadau. Gall fod yn fan cychwyn da ar gyfer eich nodiadau, ond dylech ddychwelyd at y nodiadau ar ôl 48 awr a gwneud rhywbeth gyda nhw.

 

Nodiadau llinol

 

   Drachefn, dyma dechneg gyffredin lle mae’r myfyrwyr yn gwneud eu nodiadau eu hunain yn ystod darlithoedd neu pan fyddant yn darllen trwy destun. Dyma dechneg syml, a gall fod yn dechneg dda i fyfyrwyr sy’n defnyddio byrfoddau yn eu gwaith. Fodd bynnag, mae llawer o fyfyrwyr yn cael trafferth i gofio’r wybodaeth ar ôl iddi gael ei hysgrifennu, felly ystyriwch pam ydych yn ysgrifennu’r wybodaeth a beth fyddwch yn ei wneud gyda’r nodiadau. Gellir gwella’r dechneg hon trwy ddefnyddio delweddau. Mae llawer o waith ymchwil yn awgrymu ein bod yn dysgu trwy gyfrwng delweddau, felly rhowch gynnig ar wneud lluniau er mwyn eich helpu i brosesu eich nodiadau.

 

 

 

Mapiau meddwl

Mae mapiau meddwl, neu nodiadau patrymog, yn ffordd effeithiol o wneud nodiadau. Cânt eu defnyddio i gysylltu geiriau a meddyliau mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i chi. Mae mapiau meddwl yn gweithio’n dda gyda geiriau ac ymadroddion allweddol, yn hytrach na chyda brawddegau llawn. Ond cofiwch wneud nodyn o’ch cyfeiriadau er mwyn gwybod o ble y cawsoch yr wybodaeth. Gall syniadau ymestyn a chysylltu â gwahanol syniadau a chysyniadau. Os ydych yn hoff o fapiau meddwl, mae gwahanol fathau o feddalwedd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein. Un o’n ffefrynnau yw canva.com. 

 

 

Nodiadau Cornell

 Datblygwyd y dechneg yn y 1950au gan Brifysgol Cornell. Dyma’r dechneg fwyaf effeithiol o blith y rhai a restrir yn y fan hon. Mae templedi ar gyfer nodiadau Cornell ar gael yn rhad ac am ddim ar Google; neu fel arall, gallwch brynu llyfrau nodiadau sy’n cynnwys y templedi hyn.

Caiff y templed ei osod mewn ffordd a fydd yn eich helpu i roi trefn ar amryfal elfennau’r ddarlith neu’r ffynhonnell. Er enghraifft, ceir adran pwyntiau allweddol ynghyd ag adran cwestiynau a bylchau, a gallwch eu defnyddio i ategu eich meddyliau a’ch ysgrifennu creadigol. Mae’r adran grynhoi yn eich annog i ateb tri chwestiwn i’ch helpu i greu eich crynodeb eich hun o’r ffynhonnell. Bydd y dull hwn yn eich galluogi i adeiladu eich nodiadau, ystyried safbwyntiau gwahanol a chreu cysylltiadau posibl gyda ffynonellau academaidd eraill.

Ceir gwahanol fathau o dempledi ar gyfer nodiadau Cornell, felly mae’n bwysig ichi ddod o hyd i’r templed sy’n iawn i chi.
 

 

Diweddariad diwethaf: May 19, 2025 3:52 PM