Neidio i'r Prif Gynnwys

Model Myfyrio Borton

Cyflwyniad
Er y gellid awgrymu mai model myfyrio Borton (1970) yw’r fframwaith symlaf, mae tri cham y model yn caniatáu digon o le ar gyfer myfyrio llawn a thrylwyr. Mae'r model hwn yn eich annog i fyfyrio am eich profiad, y goblygiadau a'r effaith a gaiff ar y dyfodol.

 

Cyhoeddwyd model myfyriol gwreiddiol Borton yn 1970 ac ers hynny mae wedi'i ddatblygu gan Driscoll (1994) ac yn ddiweddarach gan Rolfe et al. (2001). Cyflwynodd addasiad Driscoll o'r model ym 1994 gwestiynau i bob un o'r tri cham myfyrio, er mwyn caniatáu ar gyfer myfyrio dyfnach. Gwnaeth Rolfe et al. (2001) ehangu'r cwestiynau ymhellach, i annog gwell dealltwriaeth a myfyrio. 


Mae tri cham y model - Beth? Felly beth? Nawr beth?- wedi'u cynllunio i'w defnyddio fel arf myfyriol ar ôl profiad beirniadol, ond gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Er enghraifft, efallai y byddwch am ddefnyddio’r model wrth fyfyrio ar brofiad sydd wedi digwydd dros gyfnod o amser, neu brofiad a ailadroddir. Mae model Borton yn arf defnyddiol i ddysgu o brofiad a throsi'r wybodaeth a gafwyd o brofiad i weithredu yn y dyfodol.

Camau'r Model


Tri cham y model yw:


Beth - Yn y cam hwn, rhoddir disgrifiad o'r sefyllfa, y dylai gynnwys gwybodaeth ffeithiol megis pwy oedd yn gysylltiedig neu leoliad i greu cyd-destun ar gyfer y myfyrio. 


Felly beth - Mae'r cam hwn yn caniatáu i'r person dynnu ystyr o'r adran 'beth' trwy gwestiynu pa wybodaeth oedd gennych a/neu pa wybodaeth neu ddamcaniaeth allai wneud synnwyr o'r sefyllfa. 


Nawr Beth - Yma, caiff cynllun gweithredu ei greu ar gyfer y dyfodol i ddangos dilyniant o feddwl a gweithredu. Mae'r adran hon yn gwneud y myfyrio yn ystyrlon trwy greu gweithred.


Ar gyfer pob cam, isod mae set o gwestiynau tywys i chi weithio drwyddynt. Drwy ateb y cwestiynau, byddwch yn adeiladu adrannau ystyrlon o’r myfyrio, a fydd gyda’i gilydd yn adeiladu darn strwythuredig o ysgrifennu myfyriol. 


Mae'r enghreifftiau o bob adran a roddir isod yn enghraifft sylfaenol iawn. Bydd angen i'ch gwaith ysgrifennu gynnwys mwy o ddyfnder a manylder. 

 

Beth?

Manylion y sefyllfa. 
Beth...
•    yw'r cyd-destun? (Pwy/ble/pryd)
•    ddigwyddodd?
•    oeddwn i'n ceisio cyflawni?
•    oedd y canlyniad?
•    oedd rôl pawb (gan gynnwys fy rôl) yn y sefyllfa?
•    oeddwn yn teimlo wrth i'r sefyllfa ddatblygu?
•    oedd y canlyniadau (cadarnhaol a/neu negyddol)?

 

Felly beth?

Goblygiadau'r sefyllfa.
Felly beth?
•    oeddwn yn ystyried ar adeg y sefyllfa?
•    mae fy ymateb yn dysgu i mi am fy null gweithredu?
•    pa wybodaeth y gwnes i seilio fy mhenderfyniad arni?
•    pa ddamcaniaethau eraill neu lenyddiaeth academaidd y gallaf eu defnyddio i helpu i ddeall y sefyllfa?
•    a allwn i newid neu fod wedi gwneud yn wahanol i gael canlyniad gwahanol?
•    ydw i wedi dysgu o'r sefyllfa?

Nawr beth?

Y cynllun gweithredu.
Nawr beth...
•    y mae angen i mi wneud yn wahanol yn y dyfodol?
•    y mae angen i mi ystyried amdanaf fy hun ac eraill i sicrhau bod y cynllun yn llwyddiannus?
•    a allai fod yn ganlyniad cadarnhaol neu negyddol i newid fy null gweithredu?
•    a allai fy atal rhag gallu gwneud y newidiadau arfaethedig yn y dyfodol a sut y byddaf yn goresgyn hyn?

 

 

 

 

 

 

 

Beth?

 

Yn ystod fy ngwers fathemateg, aeth y plant yn aflonydd a dangos lefel isel o amharu. Bu'n rhaid i mi roi'r gorau i addysgu ychydig o weithiau i atgoffa'r dosbarth am y disgwyliadau ymddygiad.  Deuthum yn bryderus nad oeddwn yn gwybod sut i reoli'r ymddygiad. 
 


 

Felly beth?

 

Ar ôl y wers, rwyf wedi myfyrio bod yr amser a dreuliais yn siarad â’r dosbarth yn rhy hir a dyna pam aeth y plant yn aflonydd. Mae Smith (2020) yn awgrymu, er mwyn cynnal diddordeb dosbarth, y dylai’r cyflwyniad uniongyrchol fod am uchafswm o ddeg munud, a dylid ei ddilyn gan weithgaredd ymarferol.
 

 

 

Nawr beth?

 

I fynd i’r afael â hyn, mae angen i mi ystyried amseriadau a strwythur fy ngwersi yn ystod y cam cynllunio. Yn ystod fy nghyfarfodydd adolygu wythnosol, dylwn ddefnyddio’r amser hwn i drafod hyn gyda fy mentor a chael cyngor ar amseriadau gwersi.

Diweddariad diwethaf: May 16, 2025 3:12 PM