Adnoddau a Llyfryddiaeth
Banc iaith ar gyfer ysgrifennu myfyriol
Gellir defnyddio’r banc iaith hwn i gefnogi eich ysgrifennu myfyriol, pa bynnag fodel myfyrio rydych yn ei ddefnyddio.
Geirfa |
Amgylchiadau |
Wrth bersonoli'ch datganiadau, fe allech chi ddechrau gyda |
Fi, fy, i mi, cefais, teimlais, credaf, meddyliaf, sylwais, arsylwais, clywais |
Dehongli pwysigrwydd neu werth rhywbeth | Ystyrlon, arwyddocaol, pwysig, perthnasol, defnyddiol |
Egluro natur y pwynt dysgu | Agwedd, elfen, profiadau, materion, syniadau |
Defnyddir i edrych yn ôl ac i gyfeirio at ddatblygiad dros amser | Yn flaenorol, ar y pryd, i gychwyn, i ddechrau, ar ôl hynny, o ganlyniad, yn ddiweddarach |
I fynegi eich safbwynt, ymddygiad neu weithred bersonol | Yn meddwl, ddim yn meddwl, yn teimlo, ddim yn teimlo, sylwi, ddim yn sylwi, cwestiynu, ddim yn cwestiynu, sylweddoli, ddim yn sylweddoli, gwneud rhywbeth, ddim yn gwneud rhywbeth, disgwyl, ddim yn disgwyl |
Amlygu tebygrwydd a gwahaniaeth | Fel arall, yn yr un modd, mae hyn yn debyg i, yn annhebyg i, yn wahanol i |
Mynegi gofal academaidd | Gallai hyn fod, efallai, gallai fod, mae'n debyg, gellir ei weld fel, mae'n awgrymu, mae'n nodi |
Cyflwyno rhesymu neu dystiolaeth | Oherwydd, o ganlyniad i, yn esbonio, efallai y bydd yn cael ei esbonio gan, yn gysylltiedig â |
I ddisgrifio natur eich myfyrio | Wedi darllen, profi, cymhwyso, trafod, dadansoddi, dysgu |
Egluro beth ddysgoch chi o'ch myfyrio | Yr wyf yn awr yn teimlo, yn meddwl, yn sylweddoli, yn rhyfeddu, yn cwestiynu, yn gwybod, yn credu |
I bwysleisio ac i ddangos y ddealltwriaeth a gafwyd | Yn ogystal, ar ben hynny, yn bwysicaf oll, rwyf wedi gwella, rwyf wedi datblygu ychydig |
I fynegi'r hyn rydych chi wedi'i ennill o'r profiad | Fy sgiliau, dealltwriaeth, gwybodaeth am, gallu i |
I fynegi ei werth yn y dyfodol |
Gallai'r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgil hwn fod yn hanfodol, yn bwysig, yn ddefnyddiol fel dysgwr/ymarferwr oherwydd |
I gydnabod ansicrwydd yn onest | …oherwydd; Nid oeddwn, nid wyf eto, nid wyf yn sicr eto, nid wyf yn hyderus eto, nid wyf yn gwybod eto, nid wyf yn deall eto |
I gymhwyso'ch dysgu i'r dyfodol | Bydd angen i mi nawr, mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol, byddai angen i mi ddatblygu fy ngwybodaeth/fy sgiliau/fy nealltwriaeth ymhellach, byddai fy ymatebion yn wahanol |
Datblygwyd yr adnodd hwn o waith Prifysgol Portsmouth, Reflective Writing: A Basic Introduction.
Fideo byr yn esbonio sut i ysgrifennu'n fyfyriol gan Brifysgol Hull.
Dysgwch beth i ysgrifennu amdano, beth i osgoi ysgrifennu amdano a manteision ysgrifennu myfyriol.
Rydyn ni wrth ein bodd â'r pecyn cymorth Myfyrio gan Brifysgol Caeredin.
Cliciwch ar y lluniau isod i gael mynediad at rai o'n hoff adnoddau iaith y maen nhw'n eu cynnig.
Brifysgol Caeredin
Language of academic reflections
Brifysgol Caeredin
Language points when analysing, interpreting and evaluating
Brifysgol Caeredin
Language points when concluding and planning
Reflective Writing gan Packed with practical advice, this concise guide explains what reflective writing is and how to approach it.
ISBN: 9781352010084Dyddiad cyhoeddi: 2020-05-28
Rydyn ni wrth ein bodd â'r canllaw poced bach hwn Reflective Writing gan Williams et al. (2020). Byddwch yn dod o hyd i rai awgrymiadau a chynghorion gwych am ysgrifennu myfyriol yn y canllaw bach ond gwych hwn.
Diweddariad diwethaf: May 28, 2025 11:00 AM