Cyflwyniad i Fyfyrio
Ar y dudalen hon:
- Beth yw myfyrio mewn ysgrifennu academaidd?
- Pam mae myfyrio yn cael ei ddefnyddio ar gyfer aseiniadau academaidd?
- Datblygu eich Ymarfer Myfyriol
- Pwysigrwydd Ôl-ddoethineb
Beth yw ysgrifennu myfyriol?
Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn diffinio myfyrio a myfyrio beirniadol fel archwiliad ymwybodol o brofiadau, meddyliau, a ffyrdd o wneud pethau yn y gorffennol. Nod myfyrio yw tynnu ystyr o brofiadau er mwyn llywio’r presennol a’r dyfodol. Mae'n herio ac yn gofyn pam ein bod yn ymddwyn, yn meddwl, yn tybio ac yn ymateb yn y ffordd yr ydym yn ei wneud ac felly'n llywio ac yn siapio ein penderfyniadau, ein gweithredoedd, ein hagweddau, ein credoau a'n dealltwriaeth amdanom ein hunain yn y dyfodol.
Yn ei hanfod, mae ysgrifennu myfyriol yn golygu archwilio profiad, myfyrio arno ac yna meddwl am yr hyn rydych wedi'i ddysgu. Mae yna lawer o wahanol fodelau myfyrio i'ch cefnogi gyda strwythuro'ch ysgrifennu myfyriol. Gall eich darlithydd a/neu friff aseiniad eich arwain at ddefnyddio model penodol neu efallai mai chi fydd yn penderfynu pa un a ddewiswch. Rhai modelau a ddefnyddir yn gyffredin yw Cylch Myfyriol Gibbs a Model Myfyriol Borton, Beth? Felly beth? Nawr beth? (a elwir hefyd yn Driscoll neu Rolfe et al.). Gallwch ddysgu mwy am y modelau hyn a gweld rhai enghreifftiau o sut i'w defnyddio yn ein hadran Modelau Myfyrio.
Datblygu eich Ymarfer Myfyriol
Gall ymarfer myfyriol ddigwydd yn dilyn profiad anodd. Byddai hyn yn awgrymu bod myfyrio yn deillio o brofiadau negyddol yn unig, ac nid yw hynny'n wir. Gallwn hefyd ddysgu o ddigwyddiad a aeth yn dda, neu o brofiad cadarnhaol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu rhoi cynnig ar ddull newydd o ymdrin â rhywbeth yn eich ymarfer. I ddechrau, efallai eich bod wedi teimlo’n nerfus am hyn gan ei fod yn golygu gwneud rhywbeth anghyfarwydd neu y tu allan i’ch parth cysur. Fodd bynnag, mae'r dull newydd yn cael effaith mor gadarnhaol ar sefyllfa benodol fel eich bod yn penderfynu ei gadw a'i defnyddio yn eich ymarfer yn y dyfodol. Efallai y bydd eich myfyrio yn cynnwys disgrifio sut y gall rhoi cynnig ar bethau newydd fod yn frawychus weithiau, ond hefyd yn aml, yn rhoi boddhad mawr.
Pwysigrwydd ôl-ddoethineb
Gellir diffinio ôl-ddoethineb fel dealltwriaeth o sefyllfa neu ddigwyddiad dim ond ar ôl iddo ddigwydd. Efallai y bydd peth ôl-ddoethineb yn digwydd yn syth ar ôl y digwyddiad oherwydd rhywfaint o wybodaeth a gewch yn ystod y digwyddiad. Er enghraifft, dychmygwch eich bod chi'n mynd â phlentyn pedair oed allan i swper ac yn fuan ar ôl dechrau'r pryd, maen nhw'n gollwng cwpanaid cyfan o ddŵr dros eu dillad. O edrych yn ôl, efallai y byddwch yn difaru peidio â dod â set arall o ddillad i'r bwyty! Daw rhagor o ôl-ddoethineb dros amser wrth i fwy o wybodaeth ddod i'r amlwg, yn aml trwy brofiad pellach, darlithoedd ac ymchwil, sy'n esbonio pam mae pethau'n digwydd neu y dylid mynd atynt mewn ffordd arbennig.
Ceisiwch ddal y ddau beth yn eich ysgrifennu myfyriol. Ar ymweliad dilynol â'r un bwyty, y tro hwn, mae'r cwpan o ddŵr yn jwg o ddŵr, sydd nid yn unig yn gwlychu dillad y plentyn pedair oed, ond hefyd eich dillad eich hun. O'r diwrnod hwn ymlaen, rydych chi'n gwneud yn siŵr bod pawb yn eich grŵp â dillad sbâr!
Mae fframwaith Reflection in action/Reflection on action Schön (1991) yn darparu elfen ychwanegol trwy wahaniaethu rhwng myfyrio yn ystod ac ar ôl y digwyddiad. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd ymarferol pan fydd angen i chi wneud addasiadau pan nad yw pethau'n digwydd fel y dylent (Prifysgol Hull, 2022).
Pam mae ysgrifennu myfyriol yn cael ei ddefnyddio at ddibenion academaidd?
Mae myfyrio yn agwedd bwysig ar ddysgu. Mae llawer o broffesiynau'n cynnwys agwedd ar fyfyrio yn eu trefn feunyddiol, er enghraifft, y proffesiynau Gofal Iechyd, Athrawon, Peirianwyr a Rheolwyr Prosiectau i enwi ond ychydig. Mae athrawon yn dysgu i fyfyrio ar sut mae syniadau, gwersi neu dechnegau penodol yn gweithio ac yna'n adolygu eu haddysgu yn unol â hynny. Mae myfyrio ar brofiad yn eich galluogi i adnabod eich cryfderau a'ch gwendidau. Er bod bodau dynol yn tueddu i ganolbwyntio ar wendidau, rhaid inni gofio hefyd ei bod yn bwysig iawn myfyrio ar yr hyn yr ydym yn dda am ei wneud, fel bod gennym farn gytbwys.
Gellir defnyddio myfyrio ar gyfer llawer o bethau gan gynnwys:
• Gwella eich ymarfer er mwyn cyflawni canlyniadau gwell yn y dyfodol
• Hybu perfformiad a sgiliau
• Cynyddu eich ymwybyddiaeth o'ch galluoedd a'ch priodoleddau
• Tyfu a datblygu eich cyflogadwyedd
• Asesu ansawdd a llwyddiant cynlluniau gweithredu
• Gallu cymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol a fframweithiau i brofiadau byd go iawn i ddyfnhau eich dealltwriaeth o'r damcaniaethau sylfaenol
Edrychwch ar yr enghraifft ganlynol:
Beth ddigwyddodd? | Sut wnaethoch chi benderfynu beth i'w wneud? | Beth wnaaethoch chi ei ddysgu? |
Yn ystod semester un, gofynnwyd i mi addysgu grŵp o fyfyrwyr Iechyd a Llesiant Meddwl am ysgrifennu myfyriol. Cyn y sesiwn, roeddwn yn ymwybodol o ddiflastod y testun ac roeddwn eisiau dod ag ef yn fyw i gyfoethogi'r profiad dysgu i'r myfyrwyr. | Penderfynais gyflwyno’r sesiwn gan ddefnyddio gweithgaredd torri’r garw ar ôl darllen am bwysigrwydd dysgu gweithredol – gwneud rhywbeth yn hytrach na cheisio amsugno llawer o wybodaeth yn oddefol (Collins, 2020). Mae Williams (2019) yn awgrymu ymhellach, trwy gysylltu’r dysgu â sefyllfaoedd bywyd go iawn, y gellir cael mwy o wybodaeth o brofiad. Penderfynais, felly, gysylltu’r gweithgaredd trafod â’r profiad bob dydd o wneud paned o de. | Mae addysgu fel hyn wedi rhoi’r hyder i mi feddwl yn greadigol wrth gynllunio sesiynau ac mae’n rhywbeth y gallaf ei gymhwyso i sesiynau Sgiliau Dysgu yn y dyfodol, nid dim ond ar y testun ysgrifennu myfyriol, gyda’r nod o annog trafodaeth grŵp a dysgu mwy gweithredol. |
Pwysigrwydd ôl-ddoethineb
Er y gall ôl-ddoethineb fod yn hynod o rwystredig, gan wneud i chi feddwl 'pe bawn i'n gwybod hyn yn gynt', ar yr adeg rydych chi'n myfyrio ar brofiad, dylech chi fod yn defnyddio ôl-ddoethineb i feddwl sut y gallwch chi newid pethau wrth symud ymlaen.
Edrychwch ar yr enghraifft ganlynol:
Beth ddigwyddodd? | Sut gallaf ddefnyddio'r dysgu hwn mewn sesiynau yn y dyfodol ar ysgrifennu myfyriol? | Sut gallaf ddefnyddio'r dysgu hwn yn fy ymarfer yn y dyfodol? |
Wrth gynllunio sesiwn ar ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth, penderfynais chwarae fideo byr ar ddechrau’r sesiwn. Mae'r fideo yn cymharu'r broses o ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth â chynllunio'r trefniadau eistedd mewn neuadd wledda. Fodd bynnag, ar ôl cyrraedd y lleoliad, sylweddolais nad oedd sain ar gael ar y sgrin. |
Creu cyflwyniad PowerPoint i grynhoi cynnwys y fideo yn gryno i'm cefnogi i egluro'r gyfatebiaeth i'r myfyrwyr. |
Byddaf bob amser yn ymweld â'r lleoliad/ystafell ddosbarth cyn unrhyw sesiynau addysgu i wirio'r dechnoleg. |
Diweddariad diwethaf: May 16, 2025 3:12 PM