Ysgrifennu'n Fyfyriol
Ar y dudalen hon:
• Ysgrifennu disgrifiadol vs ysgrifennu myfyriol
• Cysylltu damcaniaeth â myfyrio
Ysgrifennu disgrifiadol vs ysgrifennu myfyriol
Un o'r prif beryglon i'w hosgoi wrth ysgrifennu'n fyfyriol yw bod yn rhy ddisgrifiadol. Er ei bod yn bwysig cael cyfnodau byr o ddisgrifio - yn ymdrin yn fyr â phethau fel yr hyn a ddigwyddodd, pryd y digwyddodd, pwy oedd yno a ble y digwyddodd - dylech geisio peidio â chanolbwyntio gormod ar hyn.
Yn lle hynny, meddyliwch am eich meddyliau a'ch teimladau cyn, yn ystod, ar ôl ac ers i'r digwyddiad yr ydych yn myfyrio arno ddigwydd.
- Er enghraifft, oeddech chi'n anghyfforddus, yn nerfus, yn hyderus?
- Pam wnaethoch chi ddewis ei wneud felly?
- Sut allech chi newid eich agwedd yn y dyfodol?
- Sut byddwch chi'n defnyddio'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu i lywio'ch ymarfer yn y dyfodol?
Cysylltu damcaniaeth â myfyrio
Gall fod yn heriol cysylltu damcaniaeth â'ch ysgrifennu myfyriol. Y nod yw dangos i'ch marciwr eich bod yn deall y cysylltiad rhwng eich profiadau a damcaniaeth academaidd, a sut mae'n berthnasol i'ch profiad personol.
Mae'n bwysig dod o hyd i'r cysylltiad rhwng y ddamcaniaeth a'ch profiad chi. Dangosir y cysylltiad rhwng y ddwy agwedd ar ysgrifennu myfyriol mewn amrywiol enghreifftiau yn y fideo.
Mae’r ddwy enghraifft isod yn dangos sut mae’r awdur wedi disgrifio profiad (yn fyr iawn!) a sut maen nhw wedi symud ymlaen i egluro’r cysylltiad a chyflwyno ffynonellau academaidd i gefnogi eu datganiadau.
Enghraifft un
Yn ystod fy ngwers fathemateg, aeth y plant yn aflonydd a dangos lefel isel o amharu. Bu'n rhaid i mi roi'r gorau i addysgu ychydig o weithiau i atgoffa'r dosbarth am y disgwyliadau ymddygiad. Deuthum yn bryderus nad oeddwn yn gwybod sut i reoli'r ymddygiad.
Ers y wers, rwyf wedi myfyrio bod yr amser a dreuliais yn siarad â’r dosbarth yn rhy hir a dyna pam aeth y plant yn aflonydd. Mae Smith (2020) yn awgrymu, er mwyn cynnal diddordeb dosbarth, y dylai'r cyflwyniad uniongyrchol fod am uchafswm o ddeg munud, a dylid dilyn hynny gan weithgaredd ymarferol.
Ystyriwch y ddwy enghraifft isod i weld a allwch chi nodi’r gwahaniaethau rhwng yr ysgrifennu disgrifiadol a’r ysgrifennu myfyriol:
Sefydlais weithgaredd gwrando gyda'r plant. Gwrandawon nhw ar glip newyddion a rhifo pedwar llun yn y drefn gywir. Gorffennodd y gweithgaredd mewn 5 munud er fy mod wedi ei gynllunio am 10 munud. |
Ysgrifennu disgrifiadol yw hwn ac nid oes unrhyw fyfyrio defnyddiol. |
Roedd y gweithgaredd gwrando yn glip newyddion am eirth gwynion, ac roedd o ddiddordeb mawr i'r plant. Roeddwn yn canolbwyntio cymaint ar yr ymarfer fel na roddais gyfle i'r plant siarad amdano a gorffennais yn rhy gyflym. | Mae’r paragraff hwn yn dangos bod yr awdur yn gallu dethol yr hyn y mae wedi’i ddysgu – myfyrio. |
Mae'r fideo hwn gan Brifysgol Technoleg Auckland yn defnyddio'r dull tonnau i greu strwythur ar gyfer cysylltu damcaniaeth â phrofiad.
Enghraifft dau:
Roedd gan glaf ar fy lleoliad drwyth hylif mewnwythiennol yn rhedeg; roedd y safle mynediad yn ei law wedi mynd yn ddolurus iawn ac yn llidus. Tynnwyd y caniwla ac, er mawr syndod i mi, penderfynwyd nad oedd angen ailosod y trwyth. Gwnaeth hyn i mi gwestiynu a ellid bod wedi stopio'r trwyth mewnwythiennol yn gynt, er mwyn lleihau’r risgiau sy’n deillio o gael caniwla yn ei le.
Dylid osgoi defnyddio hylifau mewnwythiennol a chanwlâu mewnwythiennol oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol (Clayton et al.,1999; Workman, 1999). Felly, dylai nyrsys a meddygon asesu'n gyson a oes angen i gleifion gael hylifau mewnwythiennol, a dylent dynnu'r caniwla ar unwaith os nad oes eu hangen at unrhyw ddiben arall.
Diweddariad diwethaf: May 16, 2025 3:12 PM